Cofnodion:
Penderfyniadau:
1.
Bydd y cyngor yn gweithredu fel 'Trefnydd Digwyddiadau' ar gyfer
Gorymdeithiau Cofio a gynhelir ym Mhort Talbot a Chastell-nedd yn flynyddol ar
Sul y Cofio.
2.
Dyrannu cyfraniad o gronfeydd wrth gefn gwerth £18k yn ystod 2023/24 i
gefnogi'r Gorymdeithiau Cofio a gynhelir ym Mhort Talbot a Chastell-nedd.
3.
O 2024/25, bydd dyraniad cyllideb ar gael, i gefnogi'r Gorymdeithiau Cofio,
yn flynyddol ar Sul y Cofio.
Rheswm dros
y penderfyniadau:
I sicrhau
bod gorymdeithiau Sul y Cofio hirsefydlog a chefnogaeth eang ym Mhort Talbot a
Chastell-nedd yn parhau.
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Cynhaliwyd
ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol.
Dogfennau ategol: