Agenda item

Cais Rhif T2023/02 - 111 Heol Cimla, Castell-nedd

Cadarnhau T1 Pinwydden Corsica (Pinus nigra) a T2 Pinwydden yr Alban (Pinus sylvestris) yn 111 Heol Cimla, Castell-nedd SA11 3UE  

Cofnodion:

*Ailddatganodd y Cyng. T Bowen ei fudd a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon yn unig*

 

Rhoddodd y swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio ar y cais hwn (cadarnhau T1 Pinwydden Corsica (Pinus Nigra) a T2 Pinwydden yr Alban(Pinus Sylvestris) yn 111 Heol Cimla, Castell-nedd SA11 3UE, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Roedd yr Aelod Ward Lleol wedi gofyn i’r cais gael ei benderfynu gan y Pwyllgor Cynllunio, ac roedd yn bresennol i roi ei sylwadau yn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo Cais Rhif P2023/02, yn unol ag argymhellion swyddogion.

 

Yn ogystal, byddai'r cyngor  yn ysgrifennu at berchnogion y coed (Tai Tarian) ac yn eu gwahodd i wneud cais am waith adfer i liniaru'r elfen niwsans o ganlyniad i ganghennau bargodol.

 

 

Dogfennau ategol: