Newid defnydd o anhedd-dŷ sengl (dosbarth
defnydd C3) i gartref gofal preswyl (dosbarth defnydd C2) ar gyfer hyd at 4 o
blant a’u gofalwyr yng Nghraig y Rhedyn, 9 Heol Uwchdir, Pontardawe SA8
4AH
Cofnodion:
Rhoddodd y swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor
Cynllunio am y cais hwn (newid defnydd o annedd unigol (dosbarth defnydd C3) i
gartref gofal preswyl (dosbarth defnydd C4) am hyd at 4 plentyn a'u gofalwyr)
yng Nghraig y Rhedyn, 9 Heol Uwchdir, Pontardawe SA8 4AH fel a fanylwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd yr Aelod Ward Lleol wedi gofyn i’r cais gael
ei benderfynu gan y Pwyllgor Cynllunio, ac roedd yn bresennol i roi ei sylwadau
yn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD: Cymeradwyo
Cais Rhif P2023/0240, yn unol ag argymhellion swyddogion, yn amodol ar yr
amodau a gynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Dogfennau ategol: