Agenda item

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Strategaeth Perthnasoedd Iach ar gyfer Cymunedau Cryfach  (Tudalennau 11 - 88)

 

Rhoddodd y Pennaeth Tai a Chymunedau drosolwg o'r adroddiad sydd ynghlwm wrth bapurau Agenda'r Cabinet.

 

Holodd yr Aelodau ynghylch yr ymatebion ffafriol 100% a grybwyllwyd ar dudalen 50 yr adroddiad gan ofyn faint o ymatebion a dderbyniwyd i'r ymgynghoriad. Cadarnhaodd swyddogion yr ymgynghorwyd â goroeswyr o wasanaethau lleol ac fe'u gwahoddwyd i roi adborth; roedd 6 goroeswr lleol wedi darparu ymateb. Yn dilyn cymeradwyo'r strategaeth ddrafft, cynhaliwyd cyfnod o bythefnos o ymgynghori â'r cyhoedd ddechrau mis Mai, gan arwain at 18 o ymatebion pellach gan aelodau'r cyhoedd. Gofynnodd yr Aelodau a ellid cynnwys y math hwn o ddata yn adroddiad y pwyllgor yn y dyfodol.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd strategaethau Castell-nedd Port Talbot a Llywodraeth Cymru yr un fath ac os nad oeddent, beth oedd y gwahaniaethau rhwng y dogfennau? Cadarnhaodd swyddogion fod y strategaeth leol ar y cyd wedi'i pharatoi gan yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd ac, er ei bod yn cyfeirio at strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, roedd yr amcanion yn debyg ond nid yn union yr un fath. Roedd y strategaeth ar y cyd yn cynnwys seithfed amcan ar gyfiawnder troseddol, ac roedd hyn er mwyn cydnabod gwybodaeth gan oroeswyr lleol yr oedd partneriaid yn teimlo y byddai'n ddiofal peidio â'i chynnwys.

 

Gofynnodd yr Aelodau pa waith partneriaeth pellach y gellid ei wneud i nodi'r newidiadau sydd eu hangen i gefnogi dioddefwyr yn ystod y broses casglu tystiolaeth. Nodwyd bod y math hwn o newid diwylliannol yn cymryd amser i'w roi ar waith. Roedd swyddogion yn cydnabod bod angen llawer o waith o gwmpas yr amcan hwn. Mae rhai materion yn ehangach na'r hyn y gellir ei wneud yn lleol gan eu bod yn ymwneud â materion cenedlaethol. Dywedodd swyddogion wrth yr Aelodau fod 4 Cynghorydd Trais Domestig Annibynnol o fewn y Tîm Diogelwch Cymunedol, wedi'u cydleoli yng ngorsaf yr heddlu, sy'n gweithio'n agos gyda'r heddlu ar bob lefel. Mae darparwyr arbenigol lleol, Thrive Women's Aid, wedi derbyn cyllid ar gyfer prosiect 5 mlynedd o'r enw Rapid, a bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu maes o law. Bydd swyddogion o Thrive wedi'u lleoli yng ngorsaf yr heddlu a byddant yn mynd gyda'r heddlu i unrhyw alwad sy'n gysylltiedig â cham-drin domestig, bydd staff yn gweithredu fel system cymorth cychwynnol, gan helpu i gymryd datganiadau yn y ffordd gywir. Mae rhaglen hyfforddi'r awdurdod lleol yn cynnwys hyfforddiant ar ymateb i ddatgeliadau o gam-drin domestig ac mae wedi'i chyflwyno i holl staff yr awdurdod lleol; mae'n rhaid i gydweithwyr ym maes iechyd a'r heddlu gyflawni'r un hyfforddiant i hyrwyddo ymagwedd gyson. Oherwydd ewyllys da'r swyddog hyfforddi, mae'r hyfforddiant hwn hefyd yn cael ei ledaenu i ynadon lleol, ac mae 29 ynad lleol wedi derbyn hyfforddiant cam-drin domestig hyd yma. Y gred yw mai Castell-nedd Port Talbot yw'r unig awdurdod lleol i ddarparu hyfforddiant i Ynadon. Mae llys trais domestig arbenigol yn yr ardal, ac mae'r Tîm Diogelwch Cymunedol yn ystyried sefydlu grŵp llywio i sicrhau bod gwaith yn y maes hwn yn mynd rhagddo'n effeithiol. Ailadroddodd swyddogion fod awgrymiadau'n cael eu croesawu gan gynghorwyr ac etholwyr mewn perthynas â gwella gwasanaethau cam-drin domestig.

 

Holodd yr Aelodau ynghylch sut y gallai preswylwyr a oedd yn profi cam-drin domestig gysylltu â'r cyngor am gymorth, pe na baent yn ymwneud ag unrhyw wasanaeth penodol. Cadarnhaodd swyddogion fod ffyrdd amrywiol o gael mynediad at wasanaethau ond eu bod yn cydnabod bod problem hirsefydlog sylweddol o ran diffyg adrodd am gam-drin. Sefydlwyd y grŵp Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn benodol o amgylch VAWDASV (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol) ac mae'n cynorthwyo pobl i gydnabod pan fyddant yn profi unrhyw fath o gam-drin domestig ac yn cyfeirio at wasanaethau cymorth. Mae swyddogion yn hyrwyddo nifer o ddulliau cyswllt gwahanol oherwydd cydnabyddir na fydd preswylwyr o bosib yn dymuno cysylltu â'r heddlu ond efallai y byddai'n well ganddynt siarad â ffrindiau/aelodau'r teulu/Cydlynwyr Ardaloedd Lleol neu weithwyr iechyd proffesiynol. Mae cyfoeth o wasanaethau ac opsiynau datgelu ar gael i bobl ac mae tri darparwr arbenigol lleol wedi'u hariannu gan y Grantiau Cefnogi Pobl. Mae Thrive Women’s Aid yn cwmpasu Port Talbot yn bennaf, mae Calon DVS yn cwmpasu Castell-nedd a Phontardawe ac mae Stori (Hafan Cymru gynt) yn cwmpasu'r fwrdeistref gyfan. Mae darn o waith yn mynd rhagddo i helpu pobl i adnabod arwyddion o gam-drin domestig. Dywedodd swyddogion fod nifer o feysydd o fewn yr awdurdod lleol lle gall staff fod yn bwynt cyswllt cyntaf ac roedd yn bwysig hyrwyddo gwaith y Tîm Diogelwch Cymunedol, a oedd yn dangos tystiolaeth o'r angen am y strategaeth ac yn ei gryfhau.

 

Dywedodd y Cadeirydd y gall newid i  enwau sefydliadau fod yn ddryslyd wrth gyfeirio pobl at sefydliadau. Cynigiodd y Pennaeth Tai a Chymunedau ddyfeisio pecyn adnoddau ar gyfer Cynghorwyr a fyddai'n rhestru'r darparwyr a'r gwasanaethau presennol a gynigir.

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan Fwrdd y Cabinet.

 

 

Comisiynu Gwasanaethau Gofal a Chymorth ar gyfer tri chynllun Byw â Chymorth (Tudalennau 89 - 118)

 

Rhoddodd y Swyddog drosolwg o'r adroddiad.

 

Holodd yr Aelodau ynghylch sut y dewiswyd lleoliadau'r cynlluniau byw â chymorth gan ddweud er bod cynlluniau yng nghymuned Rhos yn gweithio'n dda, mae dibyniaeth ar gludiant cyhoeddus ac ewyllys da preswylwyr. Ymatebodd swyddogion fod y farchnad eiddo'n gyfyngedig ar hyn o bryd a dim ond un eiddo sydd wedi'i nodi. Wrth lunio rhestr fer o eiddo, rhoddir ystyriaeth i ba mor rhwydd ydyw i gyrraedd lleoliadau canolog. Os nad yw eiddo wedi'u lleoli'n ganolog yna asesir cysylltiadau trafnidiaeth. Nodwyd y gall mannau gwyrdd fod yn therapiwtig i unigolion sydd â diagnosis iechyd meddwl. Caiff cynlluniau eu hasesu fesul achos gan amryfal staff sy'n asesu anghenion unigol.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan Fwrdd y Cabinet.

 

 

Dirprwyaeth o dan Ddeddfwriaeth Llywodraeth Leol i Gyngor Tref Llansawel ynghylch darparu gwasanaeth dydd (Tudalennau 119 - 132)

 

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd drosolwg o'r adroddiad.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad gan Fwrdd y Cabinet.

 

 

Plant a Phobl Ifanc, y Gwasanaethau Oedolion a Thai a Diogelwch Cymunedol - Adroddiad Perfformiad y Chwarter 1af (Ebrill 2023 - Mehefin 2023) (Tudalennau 133 - 196)

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai yr adroddiad a dywedodd wrth yr Aelodau fod yr wybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn fformat corfforaethol newydd. Er na ellid newid y fformat, gellid cyflwyno'r wybodaeth mewn ffordd amgen i'w gwneud yn gliriach i’r Aelodau, pe bai angen.

 

Cytunodd yr Aelodau nad oedd angen ei chyflwyno mewn fformat amgen ar hyn o bryd.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 140 yr adroddiad gan ofyn a ymdriniwyd ag atgyfeiriadau y tu allan i'r amserlen 42 diwrnod mewn trefn dyddiad neu a oeddent yn cael eu hasesu yn ôl y brys? Cadarnhaodd swyddogion fod yr holl wybodaeth a dderbynnir drwy'r drws ffrynt yn cael ei hasesu a bod penderfyniad yn cael ei wneud o fewn 24 awr i'w derbyn. Does dim pryderon am unrhyw oedi yn y broses ac mae trylwyredd yn y system o ran sut mae trefniadau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd. Mae achosion sy'n cael eu nodi fel rhai Amddiffyn Plant yn cael eu hystyried yn syth ar ôl eu derbyn. Rhoddodd swyddogion enghreifftiau o'r rhesymau posib dros asesiadau sy'n mynd y tu hwnt i'r amserlen a sicrhawyd yr Aelodau fod rhesymau dilys am y rhain. Mae'r Prif Swyddogion yn cael y diweddaraf a sicrheir ansawdd yr holl gamau nad ydynt yn cael eu cymryd o fewn yr amserlen.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at eitem 5 o dudalen 142, gan holi ynghylch y gostyngiad, gan y byddai'r un anawsterau wedi ymddangos y flwyddyn flaenorol. Cadarnhaodd swyddogion fod yr adolygiad yn cael ei gynnal yn yr un modd â'r hyn a amlinellwyd yn flaenorol. Ni fydd unrhyw adolygiad yn mynd y tu hwnt i'r amserlen heb gymeradwyaeth gan Brif Swyddog. Amlinellodd y swyddog y rhesymau a allai achosi oedi i adolygiad. Ni chynhelir adolygiadau os yw plentyn eisiau bod yn bresennol ac yn methu bod yno neu lle byddai presenoldeb yn ymyrryd â chyfleoedd cyflogaeth neu addysg. Yn yr un modd, os na all rhiant/gofalwr fod yn bresennol neu os nad yw gweithiwr proffesiynol wedi darparu adroddiad ar gyfer yr adolygiad hwnnw, byddai'r adolygiad yn cael ei aildrefnu. Cadarnhaodd swyddogion fod unrhyw adolygiadau nad ydynt wedi'u cynnal o fewn yr amserlenni yn cael eu hadolygu'n rheolaidd ar gyfer patrymau/tueddiadau a themâu er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw faterion.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai fod llawer o resymau pam nad yw adolygiadau statudol yn cael eu cynnal o fewn yr amserlen, ac awgrymodd y dylid edrych ar y mater hwn yn fanylach a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor ar y mater hwn. Gall diwylliant o dderbyn rhesymau ddatblygu pam nad yw adolygiadau'n cael eu cynnal.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 183 yr adroddiad gan ofyn a oedd cysylltiad rhwng plant sy'n derbyn gofal a ryddhawyd ac unrhyw un o'r plant a dderbyniwyd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant? A oes unrhyw duedd o ran yr amserlen tuag at wyliau ysgol? Cadarnhaodd swyddogion nad oes unrhyw blant sy'n derbyn gofal sydd wedi'u rhyddhau yn cael eu hatgyfeirio i'r Gofrestr Amddiffyn Plant ar hyn o bryd. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant wrth yr Aelodau fod llawer o waith wedi'i wneud ar ailatgyfeirio i'r Gofrestr Amddiffyn Plant. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd y crybwylliad am 47 gorddos nad oeddent yn angheuol yn ymwneud â pherson a oedd wedi ceisio lladd ei hun neu'n ddamweiniol. Cadarnhaodd swyddogion fod y ffigyrau yn yr adroddiad yn ymwneud â gorddosau damweiniol nad ydynt yn angheuol, y mae'n ofynnol i'r Bwrdd Cynllunio Ardal eu monitro o dan ganllawiau gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Bwrdd Cynllunio Ardal yn gweithio ar draws Bae'r Gorllewin, ac mae'r ffigwr o 47 yn ymwneud ag Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Roedd 12 achos yng Nghastell-nedd Port Talbot a 35 yn Abertawe.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.