Cofnodion:
Derbyniodd yr Aelodau yr wybodaeth ddiweddaraf am Deithio
Llesol fel y'i cyflwynwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Esboniodd swyddogion
hefyd fod rhai newidiadau sefydliadol wedi bod yng nghyfarwyddiaeth yr
Amgylchedd o 1 Ebrill 2023 ac mae teithio llesol wedi'i gyfuno o dan maes
portffolio'r Gwasanaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth.
Roedd map y rhwydwaith teithio llesol a'r meysydd sy'n cael
eu harwain gan bolisïau yn cael eu cynllunio'n flaenorol. Mae'r swyddogaethau
hyn bellach wedi'u hintegreiddio o fewn maes ymgynghoriaeth beirianneg.
Dywedodd swyddogion fod yr adroddiad yn adroddiad pontio ac mae'n cynnwys y
llynedd ac yn bwrw ymlaen â phethau o hyn ymlaen.
Dywedodd yr Aelodau fod yr angen am gynllun 5 mlynedd ar
gyfer teithio llesol yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi'i nodi yn y cynllun
corfforaethol. Roedd yr Aelodau am wybod pryd y byddai'r cynllun hwn ar gael
i'w weld.
Esboniodd swyddogion fod cynlluniau tymor byr, canolig a
thymor hir ac mae swyddogion wedi bod yn ceisio penderfynu sut i
flaenoriaethu'r rhaglen. Mae 400 o lwybrau teithio llesol yn y mapiau o'r
rhwydwaith teithio llesol gyda 100 yn derbyn blaenoriaeth uchel. Mae
Trafnidiaeth Cymru yn datblygu system i helpu awdurdodau i flaenoriaethu'r
rhain ymhellach, unwaith y bydd hyn ar gael, bydd swyddogion yn gallu dechrau
datblygu'r cynllun.
Mynegodd yr aelodau bwysigrwydd hyrwyddo teithio llesol.
Tynnodd yr Aelodau sylw hefyd at y ffaith bod y ddolen ar y map Teithio Llesol
yn eich cyfeirio at fap heb allwedd na manylion. Awgrymodd yr aelodau y gellid
newid hyn i dudalen wahanol sy'n darparu allwedd a gwybodaeth ychwanegol yn
ogystal â dolen sy'n eich cyfeirio chi at dudalen CNPT.
Cytunodd swyddogion y byddent yn diweddaru'r ddolen hon.
Hefyd, tynnodd swyddogion sylw at y ffaith eu bod yn gweithio ar wahanol ffyrdd
o hyrwyddo teithio llesol a'u bod yn bwriadu mynd allan i ddigwyddiadau i'w
hyrwyddo. Dywedodd swyddogion hefyd eu bod yn agored i syniadau ac awgrymiadau
ar hyrwyddo.
Esboniodd swyddogion ymhellach fod hyrwyddo cerdded a beicio
wrth wraidd gwaith y timau diogelwch ar y ffyrdd a'r timau addysg gynradd. Dros
12 mis mae'r timau hyn yn cyrraedd bron pob un o'r ysgolion cynradd ac mae
gwaith hefyd yn cael ei wneud mewn ysgolion uwchradd. Mae hyn yn helpu i
hyrwyddo cerdded a beicio.
Awgrymodd yr aelodau hefyd bod swyddogion yn trosglwyddo'r
wybodaeth i gynghorau cymuned fel y gallant ei hyrwyddo yn y gymuned leol.
Cytunodd swyddogion fod hyn yn syniad da ac y byddent yn ei anfon at y
cynghorau tref pan fydd y ddolen wedi'i diweddaru fel y gallent hwythau hefyd
ei hychwanegu at eu gwefannau neu rannu'r ddolen.
Gofynnodd yr Aelodau am yr wybodaeth ddiweddaraf am y ddwy
swydd newydd yr oedd y gyllideb wedi'u dyrannu ar gyfer teithio llesol.
Esboniodd swyddogion fod swydd rheolwr teithio llesol yn cael ei llenwi gan
rywun o dîm arall ym mis Mehefin. Mae swydd fel Swyddog Teithio Llesol yn
destun gwerthusiad swydd ac mae wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl.
Ychwanegodd swyddogion hefyd, gyda'r rolau teithio Llesol,
eu bod am ymateb i'r cynllun a rhoi mwy o gynlluniau ar waith ar lawr gwlad. Os
ydynt yn llwyddo i sicrhau grantiau, yna mae gan y maes gwasanaeth
ymgynghoriaeth sawl peiriannydd a fydd yn helpu i gefnogi'r rôl teithio llesol
ac yn gallu rheoli'r adnodd a helpu i gyflawni'r gwaith hwnnw.
Dywedodd swyddogion y bwriedir i'r cyllid fod yn
hunangynhaliol ar ôl 2 flynedd. Dywedodd swyddogion eu bod wedi mynegi pryderon
i gyllid canolog ynghylch hyn. Esboniodd swyddogion y bydd yn creu incwm, ond
tynnwyd sylw at y ffaith bod ansicrwydd ynghylch a fyddai modd ei adennill
100%. Gallai hyn arwain at bwysau ariannol a bydd angen ei fonitro dros y 2
flynedd nesaf.
Diolchodd yr Aelodau am y diweddariad hwn gan nad oeddent yn
gallu dwyn i gof y terfyn amser ar gyfer ariannu'r rolau pan aeth yr aelodau
drwy'r broses o bennu'r gyllideb ac roeddent yn meddwl eu bod yn cael eu nodi
fel menter buddsoddi er mwyn arbed ac yn y gyllideb sylfaenol, ond bellach
roeddent yn gweld nad oedd yn y gyllideb sylfaenol.
Cadarnhaodd swyddogion, er nad oedd yn y gyllideb sylfaenol,
mae ymrwymiad gan gyllid canolog, pe na allent adennill y costau'n llawn, y
byddai'n cael ei drin fel pwysau wrth symud ymlaen fel y byddai'r swyddi
parhaol yn cael eu trin fel unrhyw bwysau arall o fewn adran yr Amgylchedd.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
Dogfennau ategol: