Agenda item

Cyflwyniad ar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, (CTRh)

Cofnodion:

Derbyniodd yr aelodau gyflwyniad ynghylch y gwaith parhaus sy'n cael ei wneud sy'n ymwneud â'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh).

O ran yr ysgogwyr polisi ar gyfer y CTRh newydd, tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod newid yn y strategaeth; Byddai'r newid hwn yn arwain at lawer mwy o bwyslais ar symud i ffwrdd o gerbydau modur preifat, ac yn hytrach rhoi'r pwyslais ar gludiant cyhoeddus.

Mynegwyd bod nifer o alluogwyr o ran sut y byddai'r rhanbarth yn symud ymlaen gyda'r CTRh. Nodwyd mai un o'r galluogwyr yw'r Canllawiau Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol, roedd Swyddogion yn aros am fersiwn derfynol ohonynt gan  Lywodraeth Cymru o hyd.  Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y byddai datganiad o arian ar gael i gynhyrchu'r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol gwahanol ar gyfer pob rhanbarth, ac i gynorthwyo gyda'r gwaith ar y Metros, a fyddai wedyn yn bwydo i mewn i Gynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Cymru. 

Roedd rhan nesaf y cyflwyniad yn nodi sefyllfa dde-orllewin Cymru a'r hyn yr oedd y rhanbarth wedi'i fabwysiadu hyd yma, o ran cynnwys y polisi rhanbarthol; Bydd hyn yn llywio gwaith y CTRh wrth symud ymlaen. Nodwyd bod y cyd-destun yn cynnwys llawer o bwyslais ar wella mynediad y tu mewn i'r rhanbarth a thu hwnt iddi; yn ogystal â chysylltu â'r gwaith sy'n digwydd ym Mae Abertawe a de-orllewin Cymru.

Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith y byddai'n rhaid i'r CTRh ystyried nifer o ryngddibyniaethau rhanbarthol; megis y Cynllun Datblygu Economaidd, y Cynllun Ynni a'r Fargen Ddinesig.

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau am y cyfrifoldebau trafnidiaeth ar draws Cymru a'r DU; Roedd y cyflwyniad yn dangos y cyfrifoldebau amrywiol a pha sefydliad oedd yn gyfrifol am ba elfennau. Roedd yn amlwg bod gan Awdurdodau Lleol rôl sylweddol wrth fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, o ran datblygu'r CTRh a sicrhau bod y rhanbarth yn cael ei ystyried wrth i'r gwaith cynllunio symud ymlaen.

Darparwyd gwybodaeth am yr hyn yr oedd angen ei gyflawni a'i gyflwyno, yn dilyn y Cynllun Trafnidiaeth Lleol ar y Cyd ddiwethaf; Roedd angen i'r CTRh ei hun gyflawni canlyniadau a'r hyn a ddarperir, gan wneud gwahaniaeth i fywydau'r cymunedau. Nodwyd bod nifer o ganlyniadau o'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol ar y Cyd, a oedd yn arddangos y gellid cyflawni cynlluniau ar gyfer y rhanbarth. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau mai dyma fyddai dyhead y CTRh; nodi a fframio gwaith mewn cyd-destun strategol, ond datblygu a chyflwyno camau gweithredu.

Esboniwyd bod y pwrpas y tu ôl i'r CTRh yn deillio o'r Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021; sy'n nodi'r blaenoriaethau a'r uchelgeisiau ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, darparodd y Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol (CCTC) fanylion y rhaglenni, y prosiectau a'r polisïau newydd yr oedd Llywodraeth Cymru'n bwriadu eu cyflawni dros y pum mlynedd nesaf. Tynnodd y cyflwyniad sylw at y faith y bydd y CCTC, ynghyd â CTRh, yn teilwra darpariaeth Strategaeth Drafnidiaeth Cymru i anghenion pob rhan o Gymru. Cadarnhaodd swyddogion y byddant yn gweithio drwy'r cynlluniau hyn, er mwyn sicrhau bod CTRh rhanbarth de-orllewin Cymru yn cynnwys polisïau a ffordd ymlaen ar gyfer y rhanbarth ei hun, o ran cyd-destun cyflawni'r cynlluniau hynny; roedd yn gyfle i dde-orllewin Cymru roi ei stamp ei hun ar rywfaint o'r gwaith wrth symud ymlaen.

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau am y broses CTRh nodweddiadol, y dylai pob rhanbarth fod yn mynd drwyddi er mwyn datblygu ei chynlluniau; roedd nifer o gamau wrth gynhyrchu'r cynllun. Cyfeiriwyd at y sgôr asesiad risg cychwynnol yn erbyn pob un o'r camau yn y tabl gwaith; ar hyn o bryd roedd y sgorau'n dangos yn goch ac oren yn bennaf gan nad oedd gwaith wedi dechrau ar ddatblygiad y cynllun hyd yn hyn.

Aeth swyddogion drwy raglen llinell amser y CTRh, a oedd yn tynnu sylw at weithgareddau a thasgau allweddol y rhaglen gyfan, a phryd oedd disgwyl i ddarnau penodol o waith gael eu cwblhau. Nodwyd nad oedd Swyddogion wedi gallu gwneud cynnydd sylweddol gan nad oedd canllawiau'r CTRh wedi'u cyhoeddi eto. Soniwyd mai'r dyddiad dechrau ar gyfer y rhaglen waith hon oedd Chwefror 2023, felly roedd angen ail-leoli'r rhaglen unwaith y derbyniwyd y canllawiau.

Yn dilyn yr uchod, dangosodd Swyddogion y cynlluniau tymor byrrach ar gyfer cyflwyno; a oedd yn canolbwyntio ar gynhyrchu'r cynllun rhoi ar waith sy'n gysylltiedig â'r CTRh.

Mynegodd swyddogion bryderon ynglŷn â'r galw cynyddol yr oedd Awdurdodau Lleol yn ei wynebu; gan gynnwys rhoi terfyn cyflymder diofyn 20 mya ar waith, y gwaith o ran diwygio bysus a pharcio ar balmentydd, yn ogystal â'r gwaith sy'n ymwneud â'r CTRh. Soniwyd bod rhywfaint o bryder ymhlith cydweithwyr trafnidiaeth o ran sut y byddai'r holl waith hwn yn cael ei wneud; yn enwedig o ran y CTRh, gan fod diffyg eglurder o'r canllawiau ar hyn o bryd o ran sut i fwrw ymlaen â'r gwaith.

Daeth y cyflwyniad i ben gyda'r camau gweithredu blaenoriaeth a awgrymwyd i'w hystyried, a nodwyd fel a ganlyn:

-         Gofyn am eglurder gan Lywodraeth Cymru o ran y llinell amser ar gyfer y canllawiau a'r rhaglen

-         Cadarnhau'r gyllideb ar gyfer proses a rhaglen y CTRh

-         Symud adnoddau

-         Ail-gadarnhau'r cerrig milltir allweddol ac alinio rhaglen cyflwyno'r CTRh a'r metro

-         Cytuno ar raglen ar gyfer y Pwyllgor er mwyn i Aelodau gael golwg lawn ar y gwaith wrth symud ymlaen

Cydnabu'r Aelodau y gwaith helaeth yr oedd angen ei wneud yn rhanbarthol o ran ateb y ceisiadau gan Lywodraeth Cymru; ac y byddai'n sylfaenol wrth dderbyn fersiwn derfynol y canllawiau, gan y bydd yn cael effaith ar y gwaith wrth symud ymlaen. Holodd yr Aelodau a oedd y trafodaethau presennol gyda Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at unrhyw ddyddiadau posibl o ran derbyn yr arweiniad.

Eglurodd y Swyddog Trafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru nad oedd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ddarparu canllawiau, ac nid oedd eu angen er mwyn dechrau'r gwaith sy'n ymwneud â'r CTRh; fodd bynnag, roedd dealltwriaeth ynghylch pam bod Awdurdodau Lleol yn ceisio eglurder o fersiwn derfynol yr arweiniad. Cadarnhawyd y byddai'r arweiniad ar gael o fewn yr wythnosau nesaf; ni fydd unrhyw newidiadau sylweddol i'r drafft a oedd eisoes wedi cael ei ddosbarthu. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y bydd llythyr yn cyd-fynd â'r canllawiau, gan nodi'r cymorth ariannol yr oedd Llywodraeth Cymru'n bwriadu ei ddarparu; Bydd hyn gwerth £125,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

Yn ychwanegol at yr uchod, soniwyd bod Llywodraeth Cymru yn annog Awdurdodau Lleol i osgoi neu leihau'r defnydd o ymgynghorwyr allanol er mwyn atal gwariant uchel ar gyfer y math hwn o waith. Roedd dealltwriaeth gan Lywodraeth Cymru y bydd angen gwaith ymgynghori er mwyn gwneud y gwaith ar y CTRh, yn enwedig oherwydd y cyfyngiadau ar adnoddau ar draws Awdurdodau Lleol, fodd bynnag, bydd Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn gallu darparu rhyw fath o gymorth er mwyn lleihau'r defnydd o ymgynghorwyr allanol.

Cododd y Pwyllgor bryderon ynghylch y gyllideb a gofynion adnoddau. Deallwyd bod ymrwymiad yn flaenorol i ariannu unrhyw ddyletswyddau ychwanegol yn llawn; Gofynnodd yr Aelodau a oedd unrhyw arwyddion o drafodaethau pellach o fewn Llywodraeth Cymru, i dalu'r costau y bydd Awdurdodau Lleol yn disgwyl eu hwynebu yn llawn. Esboniwyd bod y cyllid wedi'i gynnwys yn y setliad ehangach ar gyfer Awdurdodau Lleol a'r Cyd-bwyllgorau Corfforaethol, a bu'n rhaid dod o hyd i'r cyllid o'r setliad hwn; Roedd y £125k a grybwyllwyd yn flaenorol yn atodol i'r cyllid hwnnw er mwyn helpu i ddechrau proses y CTRh. Nodwyd bod gofyn i Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru ddarparu rhagor o gymorth er mwyn lleihau'r costau hynny, gan ei fod yn amlwg bod pwysau ar Awdurdodau Lleol wrth baratoi'r cynllun, a ddilynir gan y gwaith cyflwyno.

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch amser priodol ar gyfer cyfarfod nesaf yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Rhanbarthol, o ystyried yr wybodaeth ddiweddaraf gan Swyddog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru; Cytunwyd y byddai cyfarfod ychwanegol yn cael ei drefnu ar gyfer cyfnod yr hydref. Yn ogystal â hyn, tynnwyd sylw at y ffaith bod swyddogion wedi datblygu disgrifiad swydd a manyleb bersonol ar gyfer swydd ranbarthol er mwyn cynorthwyo gyda datblygiad y cynllun, a byddai hyn yn cael ei hysbysebu dros yr wythnosau nesaf.

 

 

Dogfennau ategol: