Agenda item

Adroddiad Buddsoddiad/Cyfraniad y Sector Preifat. (Er Gwybodaeth)

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad i'r aelodau ar y sefyllfa bresennol gyda buddsoddiad sector preifat a chyfraniadau phortffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe fel y'u cynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Holodd yr Aelodau am niferoedd yr isadeiledd ddigidol ac am y buddsoddiadau o £14,600,000 gan Virgin sy'n ffurfio tri chwarter o'r niferoedd gwirioneddol hyd yma o ran buddsoddiad preifat.

 

Gofynnodd yr Aelodau a fyddai'r cyllid hwnnw'n waith a fyddai wedi digwydd beth bynnag ac ar gyfer rhagamcaniadau buddsoddi Pentre Awel ar gyfer eleni, sut y gellir disgwyl y gall buddsoddiad o £20,000,000 gyrraedd eleni gan fod hynny'n swm sylweddol o arian.

 

Esboniodd swyddogion na fyddai'n bosib ateb y cwestiwn cyntaf, ond nad oedd unrhyw un yn disgwyl y byddai llawer o fuddsoddiad yn cael ei symud ymlaen mor gyflym.

 

Roedd swyddogion yn teimlo bod y model wedi bod o fudd i'r rhanbarth. Esboniodd swyddogion eu bod, o'u cymharu ag ardaloedd eraill, yn gwneud yn dda ac wedi ehangu a chyflymu eu cyflwyniad o'r isadeiledd ddigidol. Mae hyn oherwydd eu bod wedi trefnu'n rhanbarthol a bod ganddynt linellau ymgysylltu a staff cyflogedig yn yr awdurdodau lleol sy'n cefnogi isadeiledd ddigidol.

 

Cafodd swm Virgin Media o £7,000,000 o wariant yn y rhanbarth ei eithrio o'r £14,500,000 gan dîm Isadeiledd y Fargen Ddinesig gan nad oedd hynny'n ymwneud yn uniongyrchol â thîm isadeiledd y Fargen Ddinesig neu brosiect felly fe wnaethant ei eithrio o'r asesiad. Mae'r gwariant yn y rhanbarth yn uwch os ydych chi'n cynnwys yr arian hwnnw, ond am y rhesymau a grybwyllwyd, ni allent ei gynnwys.

Cyfeiriodd yr Aelodau at y ffaith bod bron i hanner y buddsoddiadau gwirioneddol a buddsoddiadau preifat rhagamcanol yn gysylltiedig â Virgin Media ac mae aelodau'n ymwybodol bod Virgin eisoes yn buddsoddi llawer o amser yn y maes hwn ar gyfer cyfran o'r farchnad. Holodd yr aelodau a oedd y Fargen Ddinesig yn gwneud cyfiawnder â'i hun.

 

Dywedodd swyddogion nad oeddent yn meddwl hynny wrth edrych ar ddadansoddiad y darparwyr a'r ardaloedd ac roeddent yn teimlo bod y fargen ddinesig wedi bod ar y blaen o ran ysgogi marchnad y sector preifat ac maent wedi gwneud hynny'n effeithiol. Dywedodd swyddogion y byddai'n mynd yn anoddach wrth i'r ardaloedd sy'n defnyddio gwasanaethau ffibr yn unig leihau, fodd bynnag, bydd dulliau profi 5G yn cyflymu, ac mae ffrydiau gwaith IOT ar waith yn llawn.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod hon yn well sefyllfa na'r hyn a dybiwyd yn wreiddiol a'i fod yn gymwys o ran buddsoddiad y gellir ei hawlio a effeithiwyd gan y fargen ddinesig a'r tîm isadeiledd ddigidol.

 

Esboniodd swyddogion fod y gyfran gyntaf o gyllid ar gyfer Pentre Awel yn dod o fenthyca gan y sector preifat ac maent yn mynd i mewn i'r farchnad i dynnu rhywfaint o arian ar gyfer elfen graidd y safle y maent yn ei adeiladu ar hyn o bryd. Dywedodd swyddogion y bydd y cyllid hwnnw'n dod gan y meddianwyr sy'n mynd ymlaen i gytundebau tenantiaeth o fewn cyfadeilad Pentre Awel.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y gallai'r elfen gyntaf hon lithro ychydig oherwydd bod bwriad i ddefnyddio'r cyllid yn y lle cyntaf a bu llithriad yn y prosiect, er bod elfen graidd y prosiect yn dal i fod ar y trywydd cywir i gael ei chwblhau erbyn mis Awst 2024. Bydd angen i'r gwesty a'r gofal nyrsio adennill eu costau ar eu pennau eu hunain o ran cyllid wrth iddo ddatblygu.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad gan y swyddogion o ran os yw'r £20,000,000 yn mynd i gael ei fenthyca gan gwmni buddsoddi neu fanc ac yna'n cael ei dalu'n ôl drwy'r tenantiaethau. Cadarnhaodd swyddogion mai dyna oedd y bwriad ac maen nhw'n siarad â buddsoddwyr posib. Mae yna hefyd rai trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â grantiau sy'n cael eu rhoi ymlaen llaw a rhai o'n grantiau ni felly bydd swyddogion yn ailgydbwyso hynny yn ystod y prosiect, pan fo'n briodol. 

 

Gofynnodd yr Aelodau a fyddai'r cyllid hwn yn angenrheidiol o ran y ffigwr buddsoddi terfynol pe gallem fod mewn sefyllfa lle nad oedd angen i ni fenthyca, a fyddai swyddogion yn hyderus y byddent yn cael y buddsoddiad o £110,000,000 gan y sector preifat drwy'r gwesty a gweddill y cynllun.

 

Dywedodd swyddogion mai'r mater allweddol yw cael y tenantiaid i mewn i feddiannu'r gofod hwnnw a sut y byddech chi'n newid y llif incwm hwnnw'n werth cyfalaf. Nawr mae angen yr arian ond efallai y bydd ffyrdd eraill o edrych ar y ffrydiau incwm. Mae yna wahanol sefydliadau academaidd yn dod i mewn a'r sector preifat ac mae elfennau arloesi iddynt ac mae hynny'n ennill momentwm yn araf.

Gofynnodd yr aelodau am y campysau a Glannau Abertawe o ran bod yn risgiau coch. Gofynnodd yr Aelodau a oedd swyddogion yn gwybod a fydd y buddsoddiad ar gyfer y campysau yn dechrau yn 2025, ac a fydd yn cael ei wasgaru dros nifer o flynyddoedd? Roedd yr aelodau hefyd am gael gwybodaeth mewn perthynas ag adeiladu'r gwesty a'r incwm rhent o Ffordd y Brenin.

 

Esboniodd swyddogion fod y campysau wedi cael eu datblygu lleiaf. Hyd nes y bydd y dyddiad cychwyn a'r cytundeb cyllido wedi'i lofnodi, ni fyddant yn gwybod faint y mae wedi llithro hyd nes y gallant ddechrau adeiladu. Dywedodd Jonathan Burns fod yna gynllun ac mae wedi siarad â Richard Lancaster o Brifysgol Abertawe sy'n goruchwylio hyn ac sydd wedi gweld y cynllun buddsoddi ond ni allant ddechrau ar hyn nes iddynt gael caniatâd i ddechrau adeiladu.

 

Esboniodd swyddogion fod llawer o'r £15,000,000 o arian y fargen ddinesig yng ngham un o amgylch Ysbytai Singleton a Threforys ac mae llawer o fuddsoddiad y sector preifat o gwmpas cam 2. Maent mewn sgyrsiau gyda phartneriaid yn y diwydiant ac mae swyddogion yn hyderus, unwaith y daw cymeradwyaeth ac maent yn dechrau cyflawni, yna byddant yn dechrau ei weld yn cyrraedd.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau bod arweinydd prosiect y gwesty wedi rhoi diweddariad i ddweud eu bod yn parhau i fod mewn trafodaethau gyda buddsoddwyr o'r sector preifat a nifer o ffynonellau ariannu ar gyfer y gwesty. Mae gwaith ATG o baratoi'r gwagle gwerth £1,000,000 wedi cael ei gwblhau ond maen nhw'n parhau i drafod gyda'r gwesty. Mae cyhoeddiad ar fin digwydd, ac maen nhw'n cael trafodaethau gyda gwestywyr.

 

Dywedodd yr aelodau bod problem fawr gydag ariannu'r gwesty.

 

Dywedodd swyddogion nad yw'r diwydiant wedi gwella'n llwyr o hyd, ar hyn o bryd y gwerth yw £19,000,000 ac nid ydynt yn gwybod faint o hyn fydd yn dod o gyllid preifat gan efallai na fyddant yn fodlon buddsoddi ar y lefel honno.

 

Dywedodd yr aelodau y byddai bwlch rhwng y gwesty'n derbyn 3 a 4 seren a phroblemau ynghylch sut y gellid datrys y bwlch hwnnw bob amser. Roedd aelodau hefyd yn bryderus am y ffordd y byddai'r trefniant cyllido ar gyfer yr adeilad cychwynnol a'r les wedi hynny'n cael ei gwblhau. Roedd yr aelodau'n synnu nad yw'n risg goch yn hytrach nag oren am y rheswm hwnnw.

Teimlai'r aelodau hefyd y dylai'r rhent ar gyfer Ffordd y Brenin hefyd fod yn risg goch, ac nid ydynt yn gwybod a fydd Ffordd y Brenin byth yn cael ei llenwi â'r holl waith adeiladu arall sy'n digwydd ar hyn o bryd.

 

Dywedodd swyddogion fod yr ymgyrch farchnata ar gyfer Ffordd y Brenin i fod i ddigwydd yn fuan. Mae arwyddion yn cyfleu'r gwrthwyneb, gan gataleiddio'r angen am ragor o swyddfeydd. Ystyrir bod swyddfeydd Ffordd y Brenin yn rhai cydweithredol o safon ac mae galw mawr amdanynt.

 

Mae'r Drindod Dewi Sant eisoes wedi nodi eu bod wedi clustnodi deiliadaeth o 90% ar gyfer tenantiaid ar gyfer y Matrics Arloesedd sy'n anhygoel oherwydd yr adeiladwaith sêl yn unig sydd wedi'i godi ar hyn o bryd.

 

Dywedodd swyddogion mai penawdau'r telerau yn unig yw hwn ar hyn o bryd, ac nad oes unrhyw beth wedi cael ei lofnodi ond mae cael mynegiad o gytundebau tenantiaeth ar y gweill neu gael pobl yn gweithio tuag atynt yn wych. Gallai bod yn ysgogi busnesau neu ddiwydiant newydd i'r rhanbarth, ond bydd yr holl denantiaid hynny'n cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y bo modd.

 

Dywedodd yr aelodau eu bod yn synnu bod Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer wedi'i nodi'n wyrdd yn yr adroddiad gan nad oes unrhyw ffigurau gwirioneddol ar gyfer y pedair blynedd gyntaf ac mae'r adroddiad yn rhagamcanu £1,400,000 ar gyfer eleni. Dywedodd yr Aelodau eu bod yn edrych ar £1,400,000 allan o £375,000,000 ar gyfer tua hanner y prosiectau, sy'n ffurfio 60% o'r holl fuddsoddiadau sector preifat a'u bod ar ei hôl hi'n sylweddol o ran cyflawni holl wir fuddsoddiadau'r sector preifat.

 

Dywedodd yr aelodau, mewn economi wan sydd â chyfraddau llog uchel, nad ydynt yn gwybod sut olwg fydd ar y dyfodol a chan fod y sector adeiladu mewn sefyllfa anodd ar hyn o bryd, mae aelodau'n teimlo ei bod yn uchelgeisiol i gredu y byddwn yn cyrraedd £375,000,000 o fewn 8 mlynedd gan mai dim ond £1,400,000 sydd wedi'i gyflawni mewn 7 mlynedd hyd yn hyn.

 

Dywedodd swyddogion fod y £1,400,000 yn fuddsoddiadau gwirioneddol, a bod oedi yn yr adroddiadau gan fod yn rhaid iddynt gasglu adroddiadau, ac mae arweinydd y prosiect yn y broses o gasglu'r rheini at ei gilydd ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

 

Dywedodd Lisa Willis fod Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn gysylltiedig ag adeiladau cyfalaf ac yn gysylltiedig â chronfeydd sydd heb gael eu lansio eto. Mae'r rhagamcanion ar gyfer trosoledd y sector preifat tua diwedd y rhaglen felly ar gyfer y 2-3 blynedd nesaf ac maent ar y trywydd iawn.

 

Mae datblygiadau ar y gweill drwy'r awdurdodau lleol, drwy'r LCC a'r sector preifat. Mae ymarfer mapio cadwyn gyflenwi wedi'i gwblhau ac mae ganddynt adnoddau llawn nawr. Maent eisoes wedi dechrau cyflwyno rhaglen Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer. Er bod cynlluniau busnes wedi cael eu cymeradwyo, ac maen nhw'n hyderus y bydd trosoledd rhagamcanion y sector preifat yn cael eu bodloni, mae hynny wedi cael ei ail-broffilio oherwydd bod oedi o ran adeiladu, ond maent yn hyderus y byddant yn bodloni'r ffigyrau hynny.

 

Roedd yr aelodau am gael eglurhad o ran beth sy'n rhoi'r hyder i swyddogion y byddant yn gallu bodloni'r ffigurau hyn, o ystyried bod pob prosiect adeiladu wedi llithro a bod y costau wedi cynyddu i bawb. Gydag economi wan a diwydiant adeiladu prysur iawn, sut y bydd ganddynt y gallu i ddarparu £375,000,000 mewn 8 mlynedd?

 

Eglurodd swyddogion nad yw Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn rhaglen adeiladu annibynnol ac mae'n gysylltiedig â'r datblygiadau a ragwelir eisoes, a nod y prosiect yw annog y datblygiadau i edrych ar dechnolegau adnewyddadwy. Byddai'r datblygiadau tai eisoes yn digwydd, mae Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn rhannu'r gwersi hynny a ddysgwyd.

 

Dywedodd yr aelodau fod y cynllun a ragwelwyd ar gyfer adeilad tai Gogledd Abertawe rhwng Penllergaer, Casllwchwr, Tre-gŵyr a Gorseinon yn cynnwys oddeutu 1500 o dai yn ôl yn 2019, hyd yn hyn 150 yn unig sydd wedi cael eu hadeiladu. Dywedodd yr Aelodau fod cryn dipyn o'r adeiladwyr mwy yn cael problemau ar hyn o bryd wrth adeiladu'r stadau helaeth ac adeiladwyr llai nad ydynt yn profi problemau'n unig sy'n llwyddo i adeiladu'r ystadau llai.

 

Mae aelodau o'r farn bod angen iddynt fod yn ofalus iawn o ran sut y bydd y £375,000,000 yn cael ei wario. Dywedodd yr aelodau bod ychydig o waith ôl-osod llwyddiannus wedi digwydd yng Nghlydach ynghylch Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer ac efallai ar ryw adeg yn y dyfodol y gallai fod yn werth ystyried ôl-osod tai yn ogystal ag adeiladu rhai newydd.

 

Eglurodd swyddogion fod Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn edrych ar adeiladau newydd a'r farchnad ôl-osod a gallant roi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.

 

Mae aelodau'n teimlo ei bod yn ymdrech fawr i gyflawni hyn mewn cyfnod mor fyr o amser a chyda'r holl broblemau y soniwyd amdanynt yn flaenorol mewn perthynas â'r amserlen a sefyllfa bresennol yr economi, cynnydd mewn prisiau cost a sefyllfa'r diwydiant adeiladu.

Byddai aelodau'n croesawu adroddiad i roi sicrwydd ar y cynlluniau ac i weld sut y byddai'r broses ôl-osod yn gweithio. Fe wnaeth yr aelodau hefyd grybwyll y gallant ychwanegu ymweliadau safle at y Flaenraglen Waith.

 

Dywedodd Simon Brennan wrth aelodau bod elfen o risg bob amser pan fyddwch yn dibynnu ar y sector preifat ac mae pob awdurdod yn mynd drwy'r broses CDLl ar hyn o bryd ac mae gan bawb gynlluniau uchelgeisiol o ran darparu tai p'un a oes rhaid iddynt weithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus neu LCC. Mae gan Gaerfyrddin ac Abertawe eu tai mewnol eu hunain hefyd.

 

Dywedodd swyddogion ei fod yn ymwneud â chysylltu â'r sector preifat a'u hannog i gyflawni. Esboniodd swyddogion ei fod hefyd yn ymwneud â gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr wrth gynllunio yn ogystal â chreu'r amgylchedd a fydd yn sicrhau bod adeiladwyr tai helaeth am fod yn rhan o ranbarth de-orllewin Cymru.

 

Dywedodd swyddogion fod y galw yno am dai oherwydd bod y gwaith yn cael ei wneud ar y porthladd rhydd a'r twf economaidd cyffredinol yn yr ardal a'i fod yn ymwneud â gallu bodloni'r cyflenwad ac annog contractwyr i ddod yma. Dywedodd swyddogion y gobaith yw, os byddant yn gweld y twf economaidd, yna bydd yr adeiladwyr tai hyn yn cael eu hannog i adeiladu yma.

 

O ran ôl-osod, dywedodd swyddogion nad oes llawer o arian ar gael a'i fod yn ymwneud â phrofi cysyniadau ac yna sicrhau bod llwybr da pan fydd ffrwd ariannu arall ar gael i annog ôl-osod ar draws y rhanbarth.

 

Awgrymodd yr aelodau efallai bydd angen i ni bwyso arnom ein hunain oherwydd y ffordd y mae cyfraddau morgeisi'n cynyddu gan achosi problemau i bobl wrth geisio cael morgais yn ogystal ag ôl-osod mewn stoc tai'r awdurdod neu wrth weithio gyda phartneriaid.

 

Nodwyd yr adroddiad.

Dogfennau ategol: