Agenda item

Chwarter 2 - Monitro Cyllideb Cyfalaf 2023/24

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Bod y gyllideb arfaethedig a diweddaredig ar gyfer 2023/24, sef cyfanswm o £64.0m, yn cael ei chymeradwyo a'i hargymell i'r cyngor.

 

2.           Bod y sefyllfa mewn perthynas â gwariant, ar 30 Medi 2023, fel y nodwyd yn yr adroddiad a gylchredwyd, yn cael ei nodi.

 

Rheswm dros y Penderfyniadau:

 

Cydymffurfio â chyfansoddiad y cyngor mewn perthynas â throsglwyddo arian o'r gyllideb, ailbroffilio rhwng blynyddoedd ariannol a diweddaru amcanestyniadau'r cyngor ar gyfer Cyllideb 2023/24.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

Dogfennau ategol: