Cofnodion:
Penderfyniadau:
1.
Bod cynnwys yr adroddiad a
gylchredwyd yn cael ei nodi, mewn perthynas ag alldro'r gyllideb a ragwelir ar
hyn o bryd ynghyd â sefyllfa'r cronfeydd wrth gefn, gan gynnwys ail-bwrpasu
cronfeydd wrth gefn y manylir arnynt ym mhrif gorff yr adroddiad.
2.
Bod y trosglwyddiadau a nodir
ym mhrif gorff yr adroddiad a gylchredwyd, yn cael eu cymeradwyo.
3.
Bod y cynnydd yn erbyn yr
arbedion y cytunwyd arnynt yn cael ei nodi.
4.
Nodir y bydd Swyddogion yn ceisio
rhoi mesurau arbed costau a chynhyrchu incwm ychwanegol ar waith yn ystod y
flwyddyn, er mwyn lleihau'r sefyllfa gorwariant bresennol. Caiff y mesurau hyn eu cymryd dim ond lle gellir eu cyflwyno o fewn fframweithiau
polisi presennol.
Rheswm dros y Penderfyniadau:
Cydymffurfio â chyfansoddiad y cyngor mewn
perthynas â chyllidebu ar gyfer trosglwyddiadau.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dogfennau ategol: