Agenda item

Hen Ganolfan Hamdden Castell-nedd yn Ffordd Dyfed, Castell-nedd (yn eithriedig o dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig:

 

1.           Cytunir ar ddymchwel a chlirio'r safle'r hen ganolfan hamdden yn Ffordd Dyfed, Castell-nedd, a dyrannu'r swm a bennwyd yn yr adroddiad preifat a gylchredwyd i ymgymryd â'r gwaith.

 

2.           Rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio ymrwymo i gontract gyda'r cynigiwr llwyddiannus, ar gyfer y gwaith a grybwyllir uchod, fel y gall gwaith safle ddechrau cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosib, i sicrhau y gellir ei gwblhau yn ystod y tymor criced caeedig.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Caniatáu ar gyfer dymchwel a chlirio'r safle'n ddiogel, a rhyddhau'r cyngor o'i rwymedigaethau Iechyd a Diogelwch ar gyfer  rheoli eiddo gwag risg uchel, a lleihau ei  rwymedigaeth i dalu ardrethi annomestig.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Ymgynghorwyd ag aelodau'r ward ar y cynnig.