Agenda item

Trefniadau Ymgeisio ar gyfer Grantiau'r Trydydd Sector - 2024/2025

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Bod y canlynol yn cael eu cymeradwyo fel y meini prawf ar gyfer gwahodd ceisiadau am arian, a lywodraethir gan Gynllun Grantiau'r Trydydd Sector 2024-25:

 

  Cyfrannu at gyflawni polisïau a blaenoriaethau allweddol sydd wedi'u cynnwys yng Nghynllun Corfforaethol 2023-2027 y cyngor.

 

  Lleihau'r galw ar wasanaethau'r cyngor. Er enghraifft, hyrwyddo a chynorthwyo dinasyddion i ddefnyddio gwasanaethau digidol y cyngor; hyrwyddo cyfranogiad mewn gwasanaethau dewisol i gynyddu nifer sy'n eu defnyddio; neu drwy gynnig gweithgareddau ymyrryd yn gynnar ac atal sy'n cynnal neu'n gwella lles pobl.

 

  Manteisio ar adnoddau ychwanegol. Croesewir yn arbennig geisiadau sy’n dangos sut caiff arian y cyngor ei ddefnyddio i ddenu adnoddau ychwanegol i gefnogi polisïau a blaenoriaethau’r cyngor.

 

   Cynaliadwyedd ariannol. Bydd y cyngor yn dymuno cael ei fodloni nad yw’r ymgeisydd yn ddibynnol ar arian parhaus gan y cyngor i gyflawni cynaladwyedd ariannol.

 

• Yn ogystal â'r uchod, croesewir yn arbennig geisiadau sy'n canolbwyntio ar weithgareddau a fydd yn helpu grwpiau a chymdeithasau cymunedol y mae'r argyfwng costau byw yn effeithio arnynt, y rheini sy'n dal i deimlo effaith y pandemig a cheisiadau sy'n ceisio datblygu gallu/cydweithio cymunedol ymhellach.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Sicrhau bod penderfyniadau cyllido a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 mewn perthynas â grantiau a ddyfernir o dan Gynllun Grantiau'r Trydydd Sector, yn cyd-fynd â blaenoriaethau cyffredinol y cyngor.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Dogfennau ategol: