Cofnodion:
Penderfyniad:
Ar
ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig:
1.
Cynhelir ymarfer ymgynghori ar y defnydd arfaethedig o bwerau disgresiwn
y cyngor, mewn perthynas â chartrefi gwag tymor hir ac ail gartrefi.
2.
Caiff canlyniadau'r ymarfer ymgynghori eu dwyn yn ôl i gyfarfod Cabinet
yn y dyfodol, er mwyn gwneud argymhelliad i'r Cyngor Llawn.
Rheswm dros y penderfyniad:
Penderfynu
a ddylid cymhwyso premiymau Treth y Cyngor ar eiddo gwag tymor hir ac ail
gartrefi.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff
y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Mae
gofyniad o dan y Cyfansoddiad i ymgynghori’n allanol ar yr eitem hon, y nodir
manylion hyn yn yr adroddiad a gylchredwyd.
Dogfennau ategol: