Cofnodion:
Penderfyniad:
Bod
Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022-2023 sydd ynghlwm wrth Atodiad 1 i'r
adroddiad a gylchredwyd, yn cael ei gymeradwyo.
Rheswm dros y penderfyniad:
Sicrhau
bod y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn bodloni gofynion Rheoliad 5(2) o
Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 mewn perthynas ag adolygiad
blynyddol o effeithiolrwydd systemau rheoli mewnol y cyngor a pharatoi a
chymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol a'r ddyletswydd sydd wedi'i
chynnwys o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i barhau i adolygu
ei berfformiad.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dogfennau ategol: