Agenda item

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (yn eithriedig o dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig: 

 

1.           Bydd y prosiectau a gyflwynwyd (fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a gylchredwyd), o dan Alwad Agored Sgiliau a Lluosi Castell-nedd Port Talbot (rownd 1), yn amodol ar asesiadau Rheoli Cymhorthdal, yn cael eu cymeradwyo

 

2.           Bydd ail rownd Sgiliau, galwad am geisiadau wedi'i thargedu, yn cael ei lansio sy'n nodi'r meysydd hynny o'r elfen Sgiliau sy'n ofynnol i ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd yng Nghastell-nedd Port Talbot.

 

3.           Bydd y dyraniad Sgiliau nas dyrannwyd yn cael ei gynnwys yn yr alwad am geisiadau wedi'i thargedu ar gyfer rownd 2 yr elfen Sgiliau, a dyraniad Lluosi blwyddyn 1 yn cael ei ddyrannu i gyllideb flaenoriaeth Sgiliau craidd blwyddyn 2 (yn amodol ar gadarnhad gan Lywodraeth y DU).

 

4.           Rhoddir ystyriaeth bellach i'r camau nesaf mewn perthynas â Lluosi; bydd yr Arweinydd Sgiliau Strategol yn paratoi papur opsiynau i'w ystyried; a rhoddir awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog Cyllid, yr Arweinydd a'r Aelod (au) Cabinet perthnasol i gytuno i  lansio galwad agored am brosiectau dan y flaenoriaeth Luosi. 

 

5.           Caiff proses cymeradwyo grantiau Castell-nedd Port Talbot ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ei chyflwyno, a fydd yn cynnwys lefelau awdurdod dirprwyedig, gydag adroddiadau rheolaidd yn cael eu rhoi i'r Cabinet.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

 Galluogi Cyngor Castell-nedd Port Talbot i roi Cynllun Gweithredu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar waith a hysbysu ymgeiswyr Sgiliau a Lluosi o benderfyniad cyllido'r alwad agored.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.