Agenda item

Cadeirydd Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru - Grwp Cynghori Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni Adnewyddadwy

Cofnodion:

Ailymunodd K Jones â'r cyfarfod. Ar y pwynt hwn, ailddatganodd S K Hunt ei fudd, a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon, ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na'r pleidleisio ar hynny. Trosglwyddwyd yr awenau i'r Cynghorydd A Llewelyn a aeth ati i gadeirio'r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon yn unig. 

 

Penderfynwyd:

 

Rhoi awdurdod i Arweinydd y Cyngor weithredu fel Cadeirydd Grŵp Cynghori Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni Adnewyddadwy'r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus, a nodi Swyddog (i'w gadarnhau gan Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio) fel y Swyddog Arweiniol sy'n gysylltiedig â'r grŵp cynghori hwn.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Rhoi awdurdod i Arweinydd y Cyngor weithredu fel cynrychiolydd i gorff allanol, ac awdurdodi cyfranogiad swyddogion yn yr un gwaith.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

Dogfennau ategol: