Agenda item

Porthladd Rhydd Celtaidd

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau ddiwygiad i'r ymrwymiad refeniw fel y nodir ym mharagraff (d). Dylai'r swm fod wedi darllen, £200,000, ac nid fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Diolchodd yr Aelodau i'r holl swyddogion a phartneriaid am yr holl waith a wnaed a'u llongyfarch ar lwyddiant y cais am Borthladd Rhydd.

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

(a)       Nodi llwyddiant y Porthladd Rhydd Celtaidd wrth gyflawni statws Porthladd Rhydd.

 

(b)      Cymeradwyo'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sydd wedi'i gynnwys yn Atodiad 1 yn amodol ar y diwygiad a gafwyd i ddiwygio'r ymrwymiad refeniw i £200,000.

 

(c)  Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr (mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd a'r Aelod Cabinet perthnasol) i gytuno ar unrhyw fân amrywiadau i'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth arfaethedig a allai fod yn angenrheidiol.

 

(ch)   Nodi Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot fel cynrychiolydd y bwrdd prosiect a sefydlwyd yn unol â'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a rhoi awdurdod dirprwyedig iddi wneud unrhyw benderfyniadau sy'n angenrheidiol yn unol ag amcanion y bwrdd prosiect fel y nodir yn yr adroddiad hwn. Hefyd, rhoi awdurdod dirprwyedig iddi enwebu person arall i fod yn bresennol yn ei lle, a fydd â hawl i wneud unrhyw benderfyniadau sy'n angenrheidiol yn unol ag amcanion y bwrdd prosiect fel y nodir yn yr adroddiad hwn.

 

(d)  Rhoi cymeradwyaeth i ymrwymo £200,000 o refeniw i baratoi'r Achos Busnes Amlinellol a'r Achos Busnes Ariannol a nodi y bydd unrhyw geisiadau am ymrwymiad ariannol ychwanegol yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet i'w cymeradwyo ymhellach.

 

(dd)  Rhoi cymeradwyaeth i gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar gyfer paratoi Achos Busnes Amlinellol ac Achos Busnes Llawn.

 

(e)    Rhoi cymeradwyaeth i ymrwymo i unrhyw gytundeb grant rhwng y cyngor a Llywodraeth Cymru/Llywodraeth y DU i dderbyn arian cyhoeddus gan y Llywodraeth.

 

(f)      Nodi sefydlu cwmni cyfyngedig drwy warant. Cyflwyno adroddiad i'r Aelodau i gytuno ar ddull unrhyw fuddiant cyfreithiol y bydd gan y cyngor mewn cwmni o'r fath ac enwebu un o swyddogion y cyngor fel cyfarwyddwr y cwmni cyfyngedig drwy warant.

 

(ff)     Cymeradwyo penodi Mr Roger Maggs MBE fel Cadeirydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn ystod y broses o lunio'r achos busnes amlinellol ac achos busnes llawn. Cymeradwyo penodi Mr David Gwynne yn Brif Weithredwr dros dro y Porthladd Rhydd Celtaidd.

 

(g)     Rhoi cymeradwyaeth ar gyfer caffael a phenodi ymgynghorwyr allanol sy'n angenrheidiol ar gyfer llunio'r Achos Busnes Amlinellol a'r Achos Busnes Llawn ar ran Porthladd Rhydd Celtaidd ar sail adennill costau, gyda chyfraniadau ariannol yn cael eu nodi yn yr adroddiad hwn a lle yr ystyrir bod hynny'n briodol gan y Prif Weithredwr (mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd ac Aelodau perthnasol y Cabinet) i eithrio gofynion y Rheolau Gweithdrefnau Contractau er mwyn sicrhau bod hynny'n briodol y gellir penodi unigolion sydd â phrofiad o Borthladdoedd Rhydd.

 

(ng)   Nodi'r gofynion i sefydlu dulliau llywodraethu addas i ddyrannu cyfalaf cychwynnol a chyfraddau busnes a ddargedwir a darparu adroddiad pellach maes o law i gadarnhau manylion dulliau o'r fath.

 

 

 

Dogfennau ategol: