Agenda item

Achos Busnes Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Cofnodion:

Darparwyd cyflwyniad i'r Aelodau ar yr achos busnes portffolio, ynghyd â chefndir byr, gan Ian Williams, Rheolwr Datblygu Portffolio, a roddodd y diweddaraf iddynt ar Achos Busnes Portffolio'r Fargen Ddinesig fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Eglurodd Swyddogion y cynhyrchwyd yr achos busnes portffolio gwreiddiol ym mis Awst 2020 a'i fod yn ofyniad gan y Llywodraeth. Mae'n seiliedig ar y prif delerau gwreiddiol ar gyfer y Fargen Ddinesig a'r prosiectau a'r rhaglenni a gafodd eu dethol ar gyfer honno.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod yr Achos Busnes Portffolio wedi'i ddatblygu'n unol â model achos 5 Trysorlys ei Fawrhydi a'i fod wedi mynd trwy adolygiad trylwyr gyda'r Llywodraeth, a'i fod wedi'i gymeradwyo'n dilyn hynny gyda’r gyfran gyllid gyntaf.

 

Eglurwyd y bydd yr achos busnes yn destun adolygiad blynyddol. Caiff ei ddiweddaru gan Swyddfa Rheoli Prosiectau (SRhP) ar gyfer y fargen ddinesig ac yna’i gyflwyno nôl i'r llywodraeth i weithredu fel sbardun ar gyfer rhyddhau cyllid y fargen ddinesig.

 

Dywedodd Swyddogion mai hwn yw 4ydd iteriad yr achos busnes a'i fod wedi pasio drwy'r bwrdd rhaglenni a Chyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig fis diwethaf. Mae'r wybodaeth yn yr achos busnes yn seiliedig ar wybodaeth fonitro chwarter 3 sydd hefyd wedi mynd drwy'r byrddau llywodraethu perthnasol.

 

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan Aelodau ar ôl y cyflwyniad

Dogfennau ategol: