Agenda item

Cyflwyniad i'r cyngor gan Heddlu De Cymru

Cofnodion:

Croesawodd y Maer y Prif Uwch-arolygydd Chris Truscott, Comander Is-adrannol ar gyfer Is-adran y Gorllewin a'r Uwch-arolygydd Eve Davies, a roddodd gyflwyniad o bell i'r cyngor ar y sefyllfa bresennol ar gyfer Heddlu De Cymru.

 

Canmolodd yr Aelodau broffesiynoldeb ac arbenigedd yr heddlu dros y deunaw mis diwethaf a dywedwyd y gall technoleg megis adnabod wynebau a chymwysiadau TG arwain at arbed arian o bosib.

 

Gofynnodd yr Aelodau am sicrwydd y bydd gwaith atal ac ymateb cyflym yn dal i gael ei wneud mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, o ystyried y pwysau ar adnoddau presennol. Cadarnhaodd y Prif Uwch-arolygydd Truscott fod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth uchel ac er gwaethaf pwysau ariannol mae'r llu wedi ymrwymo i blismona cymdogaeth ac mae buddsoddiad yn parhau mewn perthynas â Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu. Gwnaed ymrwymiad y bydd timau'n parhau i weithio'n rhagweithiol gyda'r holl bartneriaid ac aelodau i ddatrys problemau sy'n effeithio ar gymunedau lleol

 

Gwnaeth yr Aelodau sylwadau am ymdrechion rhagorol Heddlu De Cymru i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau a throseddau difrifol a chyfundrefnol. Gofynnodd yr Aelodau pa fesurau ychwanegol y gellid eu cymryd i fynd i'r afael â defnyddio sylweddau ac i ba raddau yr oedd Heddlu De Cymru wedi ymgysylltu â Chomisiwn Cyffuriau Bae Gorllewin a sefydlwyd yn ddiweddar. Cydnabu'r Prif Uwch-arolygydd Truscott fod ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau yn gysylltiedig ac yn parhau i fod yn bryder. Er y byddai gorfodaeth yn dal i fod ar waith ar gyfer y rheini sy'n achosi'r lefel uchaf o niwed, mae angen gwaith partneriaeth hefyd mewn perthynas ag addysgu pobl ifanc. Rhoddodd yr Uwch-arolygydd Eve Davies drosolwg o'r Prosiect Adder.

 

Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth yn ymwneud ag adroddiadau yn y cyfryngau am gynlluniau i gyfyngu ar ymatebion i rai mathau o ddigwyddiadau a gofynnwyd a fyddai unrhyw gyfyngiadau'n cael eu gosod yn lleol, yn enwedig mewn perthynas â phobl agored i niwed mewn argyfwng. Amlinellodd y Prif Uwch-arolygydd Truscott y rhaglen Right Care Right Person, sydd wedi'i mabwysiadu'n genedlaethol ac sy'n cael ei gweithredu ledled Cymru a Lloegr. Mae gwaith yn mynd rhagddo mewn perthynas ag ymarferoldeb y rhaglen ac mae nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu â phartneriaid yn cael eu cynnal. Rhoddir blaenoriaeth bob amser i bobl sydd mewn argyfwng sylweddol ac uniongyrchol, ond nodwyd mewn rhai sefyllfaoedd, lle nad oedd bygythiad uniongyrchol i fywyd, y gall partneriaid eraill fod yn y sefyllfa orau i fod yn bresennol. Bydd angen dealltwriaeth glir o gyfrifoldebau pob sefydliad partner. Mae'r gwaith cychwynnol o gyflwyno'r rhaglen wedi'i gynllunio ar gyfer blwyddyn newydd/gwanwyn 2024.

 

Amlinellodd yr Aelodau y materion diweddar ym Mharc Ynni Baglan a phwysleisiwyd pwysigrwydd cyfarfodydd misol rhwng Cynghorwyr a'r heddlu i ddatrys unrhyw faterion.

 

Dywedodd yr Aelodau fod llawer o breswylwyr wedi colli hyder wrth ffonio'r heddlu a gofynnwyd a oes data ar gael ynghylch cynnydd troseddau yr adroddwyd amdanynt. Rhoddodd y Prif Uwch-arolygydd Truscott sicrwydd fod materion blaenorol o ran trin galwadau ffôn wedi gwella ond roedd yn cydnabod bod angen mwy o waith mewn plismona cymdogaeth i adennill hyder y cyhoedd.   Mae data am drin galwadau sy'n cael eu derbyn a'r gyfran ymateb ar gael. 

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at ymateb annigonol yr heddlu i'r aflonyddwch cyhoeddus a ddigwyddodd ym Mayhill, Abertawe a gofynnwyd a allai hyn ddigwydd eto. Cydnabu'r Prif Uwch-arolygydd Truscott fod yr heddlu wedi dysgu gwersi o ddigwyddiad Mayhill a bod argymhellion yr adolygiad annibynnol wedi eu rhoi ar waith. Profwyd yr argymhellion hyn yn ystod aflonyddwch cyhoeddus tebyg yn Nhrelái ac roeddent wedi gweithio'n dda.

 

Holodd yr Aelodau a fyddai unrhyw newidiadau i'r praesept eleni. Nid oedd y Prif Uwch-arolygydd Truscott yn gallu gwneud sylwadau ynghylch hyn ond yn dilyn ymgynghoriadau gyda Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, bydd yr Aelodau'n cael eu diweddaru am unrhyw newidiadau.

 

Mynegodd yr Aelodau rwystredigaeth ynghylch amharodrwydd yr heddlu i ymyrryd mewn anghydfodau rhwng cymdogion a'r achosion uchel o niwsans beiciau modur ar y ffordd ac oddi ar y ffordd, a holwyd a ellid defnyddio dronau i helpu i fynd i'r afael â'r mater penodol hwn.

 

Gwnaeth yr Aelodau sylw am batrwm shifft y Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng Nghwm Afan; nid yw patrymau shifft cyfredol yn darparu ar gyfer digon o staff. Bydd y Prif Uwch-arolygydd Truscott yn sicrhau bod y patrymau shifft yn cael eu hadolygu ond sicrhaodd fod timau plismona cymdogaeth eraill ar gael i ymateb i unrhyw ddigwyddiadau brys.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Dai a Diogelwch Cymunedol i'r Prif Uwch-arolygydd Chris Truscott a'r Uwch-arolygydd Eve Davies am eu cyflwyniad a'u hymatebion manwl i gwestiynau'r Aelodau.