Agenda item

Cyhoeddiadau'r Arweinydd

Cofnodion:

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor drosolwg o'r cyhoeddiad ar y cyd a wnaed gan Lywodraeth y DU a Tata Steel ar 15 Medi 2023. Mae Llywodraeth y DU wedi cynnig buddsoddiad o £0.5bn gyda buddsoddiad pellach o £750m gan Tata Steel a fyddai'n ariannu'r gwaith o ddisodli'r ffwrneisi chwyth presennol gyda ffwrnais arc. Mae ymgynghoriad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd rhwng Tata Steel ac undebau llafur. Nododd yr Arweinydd fod y diwydiant dur yn hanfodol i'r economi leol ac ehangach a diogelwch cenedlaethol ac er bod y newyddion am fuddsoddi yn y ffatri yn cael ei groesawu, mae nifer y swyddi posib sydd mewn perygl yn destun pryder mawr. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw fanylion am y cyfnod pontio arfaethedig ond hysbysir y cyngor wrth i ragor o wybodaeth ddod ar gael.

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor yr wybodaeth ddiweddaraf am bolisi 20 mya Llywodraeth Cymru a weithredwyd ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru ar 17 Medi 2023.  Bwriad y polisi yw lleihau nifer a difrifoldeb yr anafusion, er mwyn galluogi mwy o bobl i ddefnyddio teithio llesol, lleihau effeithiau amgylcheddol a gwella ansawdd bywyd. Darparwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i weithredu'r newid polisi dros ddwy flynedd ariannol. Mae'r canllawiau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i wneud eithriadau i'r polisi 20 mya yn gyfarwyddol, cafodd pob eithriad a gyflwynwyd gan y cyngor ei archwilio gan Drafnidiaeth Cymru cyn y gellid ei weithredu. Mae datganiadau diweddar gan weinidogion yn awgrymu mai awdurdodau priffyrdd lleol sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu rhoi terfynau cyflymder ar waith, er nad yw unrhyw ddiwygiadau o newid fel rhan o'r polisi yn cael eu cefnogi eto gan gyllid ychwanegol. Bydd effaith lawn y newid polisi yn dod i'r amlwg dros y chwe mis nesaf, mae'n cael effaith gadarnhaol a negyddol eang ar draws y fwrdeistref sirol. Mae swyddogion wedi monitro'r newidiadau a gyflwynwyd a bydd angen rhai newidiadau lleol, ymgynghorir ag aelodau lleol a phreswylwyr wrth i hyn gael ei gyflwyno.