Agenda item

Cais. P2023/0168 - Tir y tu ôl i 35-37 Woodlands Park Drive

Gwaith i 5 x Derwen (nodwyd fel 658, 659, 660, 661 a 664) a 2 x Ffawydden (nodwyd fel 662 a 663) a warchodir gan Orchymyn Cadw Coed T001/A1, Tir y tu ôl i 35, 36, 37 Woodlands Park Drive, Cadoxton, SA10 8DE:

-658 (Derwen) - Cymynu

-658 (Derwen) - Cymynu

-658 (Derwen) - Cymynu

-658 (Derwen) - clirio'r isdyfiant i'w ailarchwilio a thorri'r iorwg

-662 (Ffawydden) - Tocio 4m oddi ar y corun, ac archwilio'r fforch o'r awyr ar 8m

-662 (Ffawydden) - Lleihau'r corun o 4m

-658 (Derwen) - Lleihau i bolyn 5m

 

Cofnodion:

Rhoddodd Swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio ar y cais hwn (gwaith ar 5 x derwen (a nodwyd fel 658, 659, 660, 661 a 664) a 2 ffawydden (a nodwyd fel 662 a 663) a warchodir gan Orchymyn Cadw Coed T001/A1) ar dir yng nghefn 35, 36 a 37 Woodlands Park Drive, Llangatwg, fel a manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn Aelod Etholedig o'r awdurdod. Roedd yr ymgeisydd yn bresennol i wneud sylwadau yn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo Cais Rhif P2023/0168, yn unol ag argymhellion Swyddogion, yn amodol ar yr amodau a gynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Dogfennau ategol: