Cais P2022/1063 ar gyfer Datblygu
43 annedd fforddiadwy a gwaith cysylltiedig gan gynnwys mynedfa newydd,
rhwydwaith ffyrdd mewnol, tirlunio, draenio cynaliadwy, lle parcio ceir a
beiciau a dymchwel hen ysgol yn rhannol safle blaenorol Ysgol Isaf Dyffryn,
Heol Talcennau, Port Talbot SA13 1EP.
Cofnodion:
Rhoddodd y Swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor
Cynllunio ar y cais hwn (datblygu 43 annedd fforddiadwy a gwaith cysylltiedig
gan gynnwys mynedfa newydd, rhwydwaith ffyrdd mewnol, tirlunio, draenio
cynaliadwy, parcio ar gyfer ceir a beiciau a dymchwel hen ysgol yn rhannol) ar hen
safle Ysgol Isaf Dyffryn, Heol Talcennau, Port Talbot, fel a manylir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd yr Aelodau Ward Lleol wedi gofyn i’r cais
gael ei benderfynu gan y Pwyllgor Cynllunio ac roeddent yn bresennol i roi eu
sylwadau yn y cyfarfod.
Yn unol â phrotocol siarad cyhoeddus cymeradwy y
cyngor, anerchwyd y Pwyllgor Cynllunio gan wrthwynebydd i’r cais, wedi'i ddilyn
gan gynrychiolydd yr ymgeisydd a oedd yn cefnogi'r cais.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Cais Rhif P2022/1063, yn unol ag argymhellion Swyddogion, yn amodol
ar yr amodau a gynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Dogfennau ategol: