Cofnodion:
Ystyriwyd y drafodaeth gan y Pwyllgor
Craffu blaenorol, a chytunodd y Cabinet ar yr argymhellion ychwanegol a
gyflwynwyd, fel y nodir mewn pwyntiau bwled isod.
Penderfyniadau:
1.
Cyflwyno'r Rhaglen Newid
Strategol diwygiedig ar gyfer y cyfnod 2023-2024, fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, i'r cyngor i'w fabwysiadu, ar yr amod y gwneir y newidiadau
canlynol i'r adroddiad, cyn cyfarfod y cyngor:
·
Ehangu'r cyfeiriad at Newid yn yr
Hinsawdd ar dudalen 133 o'r adroddiad a ddosbarthwyd, i adlewyrchu'r cynnig
Newid yn yr Hinsawdd a gymeradwywyd yng nghyfarfod y cyngor yn gynharach y
flwyddyn ddinesig hon, a bod yr ymrwymiad hwn yn cael ei ailadrodd ar dudalen
134 yr adroddiad a ddosbarthwyd, i danlinellu'r ymrwymiad i hyrwyddo'r gwaith
hwn yn y flwyddyn ddinesig hon, nes y bydd adolygiad llawnach o'r cynllun
corfforaethol ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2024 ar gael.
·
Diwygio'r cyfeiriad at y 'Cynllun
Teithio Llesol' i'r 'Map Rhwydwaith Teithio Llesol', er mwyn rhoi'r teitl cywir
iddo.
·
Ailychwanegu'r geiriau 'lleihau'r
ddibyniaeth ar gerbydau preifat' a gafodd eu dileu.
·
Mewnosod camau gweithredu
ychwanegol o fewn ardal Teithio Llesol y cynllun, i adlewyrchu'r gwaith y
bwriedir ei wneud yn 2023/24.
2.
Bydd y Pennaeth Pobl a Datblygu
Sefydliadol yn cael awdurdod dirprwyedig, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd, y
Dirprwy Arweinydd a'r Prif Weithredwr, i wneud unrhyw newidiadau pellach sy'n
angenrheidiol cyn cyhoeddi'r cynllun terfynol ac nad ydynt yn newid cynnwys y
rhaglen yn sylweddol.
Rheswm dros y Penderfyniadau:
Sicrhau bod y diwygiadau a wnaed i
adran Rhaglen Newid Strategol y Cynllun Corfforaethol yn cael eu cymeradwyo,
gan gyflawni dyletswyddau cyfreithiol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol (Cymru) 2015 gan eu bod yn berthnasol i weithgareddau cynllunio
corfforaethol y cyngor.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith
ar unwaith - cytunwyd ar y camau gweithredu hyn gan y Cadeirydd Craffu. Ni
fyddai unrhyw gyfnod galw i mewn ar gyfer yr eitem hon.
Dogfennau ategol: