Agenda item

Craffu Cyn Penderfynu – Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion – Cynnig i Sefydlu Ysgol Cyfrwng Saesneg 3-11 oed i ddisodli Ysgolion Cynradd Alltwen, Godre'r Graig a Llangiwg (wedi'i amgáu o fewn papurau'r Cabinet)

Cofnodion:

Rhoddodd swyddogion drosolwg cryno o'r adroddiad a amlinellwyd yn yr agenda a ddosbarthwyd.  Roedd hyn yn cynnwys amlinelliad o'r broses a'r opsiynau sydd ar gael i'r Cabinet wrth ystyried yr adroddiad.

 

Gwnaeth aelodau'r Pwyllgor Craffu ystyried y broses ymgynghori yn gyntaf. Cyfeiriodd yr aelodau at y risg a amlinellwyd yn yr adroddiad ynghylch y staff a'r gymuned yn gwrthsefyll unrhyw newid i addysg o ganlyniad i unrhyw benderfyniad a wnaed. Dywedodd swyddogion fod yr Asesiad Risg yn cynnwys mesurau lliniaru ynghylch hyn a phwysleisiodd y swyddogion hefyd eu gwybodaeth a'u profiad o ail-drefnu ysgolion ledled y fwrdeistref.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod 13 o gyfarfodydd wyneb yn wyneb gwahanol gyda chynrychiolwyr amrywiol o'r gymuned. Roedd hefyd un cyfarfod cyhoeddus wyneb yn wyneb ac un cyfarfod cyhoeddus ar-lein. Roedd yr aelodau wedi cael yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad a dderbyniwyd. Lle bo'n bosib, roedd yr adroddiad ymgynghori wedi amlinellu ffeithiau a thystiolaeth er mwyn ymateb i'r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cadarnhawyd nad oedd agweddau gwleidyddol unrhyw ohebiaeth a anfonwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori yn berthnasol i swyddogion.

 

Amlinellodd swyddogion mai bwriad ymgynghori oedd helpu i lunio cynnig, ac i sicrhau bod swyddogion wedi meddwl am bopeth er mwyn helpu i lunio argymhellion i'r cabinet eu hystyried. O brofiad swyddogion, mae mwyafrif yr ymatebion i ymgynghoriad a dderbynnir fel arfer yn erbyn cynnig.

 

Cadarnhawyd bod y grant cyfalaf o £14.7 miliwn gan Lywodraeth Cymru wedi'i neilltuo ar gyfer ail-drefnu ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot. Fodd bynnag, ni allai aelodau benderfynu sut i wario'r arian hwn pe na bai'r Cabinet yn cytuno ar y cynigion. Byddai'n rhaid gwneud cais boddhaol pellach am gyllid grant i gael gafael ar unrhyw arian gan Lywodraeth Cymru.

 

Fel rhan o'r broses, mae'n ofynnol i swyddogion gynnal asesiad effaith cymunedol. Fe'i cynhaliwyd a'i cynhwyswyd fel rhan o'r ddogfen ymgynghori. Daeth hynny i'r casgliad mai prin iawn yr oedd yr ysgolion yn cael eu defnyddio gan y gymuned. Maent yn cael eu defnyddio'n bennaf gan rieni neu grwpiau teuluol yn y gymuned. Cadarnhawyd bod yn rhaid i ysgolion newydd roi ystyriaeth lawn i fynediad cymunedol. Roedd yr aelodau'n pryderu na fyddai'r cyfleusterau newydd o fewn yr un cymunedau ag y maent ar hyn o bryd.

 

O ran y caeau chwarae, cadarnhawyd bod gan y safle newydd ddigon o le i'r ysgol ac i gynnal y nifer presennol o gaeau chwarae. Ymhellach at hynny, byddent yn cydymffurfio â gofynion chwaraeon amrywiol.

 

Mae Llywodraeth Cymru'n awyddus i hyrwyddo defnydd cymunedol o ddarpariaethau ysgol newydd. Byddai'n ddyletswydd ar gorff llywodraethu'r ysgol i sicrhau bod hyn yn digwydd.

 

Amlinellodd swyddogion fod y CDLl yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i'r CDLl sicrhau bod cymunedau cynaliadwy yn cael eu darparu wrth symud ymlaen ac mae'n rhaid iddo gyd-fynd ag amrywiol bolisïau a strategaethau eraill. Cydnabuwyd bod y safle a nodwyd ar gyfer yr ysgol newydd bosib yn safle anodd. Fodd bynnag, ystyriwyd rhestr hir o safleoedd cyn cytuno ar y safle hwn, a'r safle a nodwyd oedd yr un mwyaf derbyniol, gan gynnwys mynediad at gludiant cyhoeddus a llwybrau cerdded a beicio. Byddai materion penodol mewn perthynas â chynllunio'r safle yn cael eu hystyried yn llawn yn ystod y cam cais cynllunio.

 

Mynegodd yr aelodau eu pryderon am y niferoedd disgyblion a nodwyd ar gyfer yr ysgol newydd. Nid yw niferoedd y tair ysgol sydd wedi'u huno gyda'i gilydd yn bodloni'r niferoedd sydd eu hangen ar gyfer yr ysgol newydd.  Holodd yr aelodau sut y cyrhaeddwyd y ffigurau hyn. Cadarnhaodd swyddogion fod y cynnig yn amlinellu nifer y disgyblion a allai hawlio lle o fewn y dalgylch. Nid yw'n cynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg. Ymhellach, nid oes bwriad i gau unrhyw ysgolion eraill yng Nghwm Tawe. Mae'r nifer yn cynnwys cynllunio ar gyfer y dyfodol, datblygiadau'r dyfodol a nifer y disgyblion a allai hawlio lle o fewn y dalgylch.

 

Nodwyd bod nifer y disgyblion sy'n mynychu ysgolion yng Nghwm Tawe wedi cynyddu gan 160 dros y 10 mlynedd diwethaf.

Holodd yr aelodau yn benodol am y cynllun llwybrau diogel i'r ysgol mewn perthynas ag Ysgol Alltwen. Amlinellodd swyddogion y llwybr o safle presennol Ysgol Gynradd Alltwen i lawr i safle arfaethedig yr ysgol newydd. Cadarnhaodd swyddogion pe bai'r cynnig yn mynd yn ei flaen yna byddai pob disgybl sy'n cael mynediad i'r ysgol newydd yn cael ei asesu'n unigol.

 

Byddai cynlluniau rheoli traffig manwl perthnasol yn cael eu llunio fel rhan o'r broses gynllunio, nid fel rhan o'r broses bresennol. Fodd bynnag, roedd swyddogion yn hyderus y byddai angen gwneud mân waith priffyrdd yn unig pe bai'r cynnig yn mynd rhagddo. Cynhaliwyd arolwg i benderfynu ar y drafnidiaeth bresennol yn yr ardal.

 

Mynegodd yr aelodau bryderon ynghylch materion gallu'r diwydiant ar gyfer y drafnidiaeth angenrheidiol o'r cartref i'r ysgol. Dywedodd swyddogion mai dim ond un bws ychwanegol oedd ei angen ar hyn o bryd, felly ni ddylai hyn fod yn broblem.

 

Amlinellodd swyddogion sut y gallai'r ysgol sicrhau y gallai plant sy'n defnyddio'r drafnidiaeth barhau i fynychu clybiau ar ôl ysgol. Corff llywodraethu'r ysgol fyddai'n penderfynu sut i reoli hyn.

 

Roedd yr aelodau'n poeni, oni bai fod plentyn mewn addysg amser llawn, na allai gael mynediad at gludiant o'r cartref i'r ysgol ac yn y pen draw gallai hyn arwain at ostyngiad yn nifer y plant sy'n mynychu'r meithrin. Mae polisi Llywodraeth Cymru'n nodi nad oes rhaid darparu cludiant ar gyfer plant meithrin, fodd bynnag cadarnhaodd swyddogion y gallai aelodau edrych ar bolisi CNPT pe byddent yn dymuno gwneud hynny.

 

Nodwyd bod teithio llesol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae buddsoddiad yn parhaus yn ei gylch o ran gwneud cais am y cyllid. Mae gwaith parhaus yn cael ei wneud gan yr awdurdod i asesu llwybrau teithio llesol ac i sicrhau bod gan y gymuned y mynediad mwyaf posib i lwybrau addas.

 

Mynegodd yr aelodau eu pryderon nad oedd unrhyw union gostau mewn perthynas â newidiadau i briffyrdd mewn ymateb i'r cynnig. Dywedodd swyddogion eu bod yn brofiadol wrth gyflwyno cynlluniau o fewn yr amlenni cyllido sydd ar waith. Cytunwyd y byddai cyfraniadau Llywodraeth Cymru a CBSCNPT wedi cynyddu ers i'r achos gwreiddiol gael ei lunio yn 18/19.

 

Dywedodd swyddogion eu bod yn fodlon y gallai'r rhwydwaith priffyrdd ddarparu ar gyfer y cynnydd yn swm y traffig. Fodd bynnag, dywedodd swyddogion nad oeddent yn gwybod union gostau'r gwaith priffyrdd, ac os byddai angen gwneud unrhyw welliannau pellach i gynlluniau priffyrdd.

 

Cadarnhaodd swyddogion mai'r ddau ffactor mwyaf sy'n pennu'r safon mewn ysgol yw ansawdd yr arweinyddiaeth a rheolaeth mewn ysgol ac ansawdd yr addysgu. Fel rheol gyffredinol, mae ymgeiswyr o ansawdd gwell ar gyfer ysgolion mwy o ran prifathrawiaeth nag ysgolion llai.

 

Atgoffwyd yr aelodau fod Estyn yn ymgynghorai statudol mewn perthynas â'r cynigion. Roedd eu sylwadau'n dangos y byddai'r safonau ar draws yr ysgolion yn cael eu cynnal o leiaf, os nad eu gwella.

 

Hysbyswyd yr aelodau pe bai'r cynigion yn cael eu cymeradwyo, byddai corff llywodraethu cysgodol yn cael ei ffurfio. Byddai'r corff llywodraethu hwn yn penodi Pennaeth newydd ar gyfer yr ysgol. Yna cytunir ar strwythur ar gyfer yr ysgol. Yna bydd yr awdurdod lleol yn gofyn i'r corff llywodraethu cysgodol wneud penderfyniad i glustnodi'r holl swyddi yn yr ysgol newydd ar gyfer staff presennol yr ysgolion.

 

Cadarnhawyd y byddai Llywodraeth Cymru’n ariannu gwaith ailfodelu ysgolion sylweddol, yn ogystal ag adeiladau newydd. Fodd bynnag, byddai angen i unrhyw achos busnes fodloni'r model busnes 5 achos a hefyd y safonau BREEAM. 

 

Ystyriodd yr aelodau'r Asesiad Effaith y Gymraeg. Mae 13 o ganlyniadau wedi'u nodi. Mae mesurau lliniaru wedi'u nodi yn yr asesiad. Nododd swyddogion mai asesiad yn unig ydyw, ac nid ffeithiau wedi'u dogfennu. Mae'r asesiad yn ystyried y cynnig yn ei gyfanrwydd ac yn nodi effeithiau posib – rhai cadarnhaol a negyddol. Mae llawer o'r camau gweithredu a nodwyd hefyd wedi cael eu nodi yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

Mae ysgolion cynradd Cymraeg yn dal i brofi niferoedd trosglwyddo isel. Roedd yr aelodau'n pryderu y bydd y cynnig yn cael effaith negyddol pellach ar ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod y niferoedd a ragwelir ar gyfer yr ysgol arfaethedig yn seiliedig ar niferoedd presennol y tair ysgol a'r disgyblion yn nalgylch yr ysgolion arfaethedig.

 

Cadarnhaodd swyddogion y gall disgyblion deithio dros y ffin i fynychu ysgolion y tu allan i CNPT. Cadarnhaodd swyddogion pe baent yn gallu rhoi darpariaeth ASA ar waith yn yr ysgolion presennol, byddent eisoes wedi gwneud. Os bydd y cynnig yn methu, bydd angen dod o hyd i ddarpariaeth addas mewn mannau eraill yn y sir.

 

Ystyriodd yr aelodau'r pwll nofio newydd sy'n rhan o'r cynnig. Holodd yr aelodau os yw'r cynnig yn methu, beth yw'r canlyniadau i'r tair ysgol a'r pwll nofio wrth symud ymlaen?

 

O ran Alltwen a Llangiwg, bydd yr ysgolion yn parhau i fod ar agor a byddant yn cael eu cynnal gan fod pob ysgol bresennol o fewn y gyllideb a'r rhaglen cynnal a chadw bresennol. O ran Godre'rgraig, bydd angen rhoi cyngor ynghylch sut i fwrw ymlaen, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer ysgol newydd a drafftio achosion busnes. Cadarnhaodd swyddogion y byddai'n anodd iawn sicrhau cyllid cyfalaf ar gyfer ysgol newydd. O ran y pwll nofio, ni fyddai hyn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae cyllid grant posib ar gael gan Chwaraeon Cymru, hyd at £300,000 ond byddai cost bosib pwll newydd yn £13 miliwn ar hyn o bryd. Cadarnhaodd swyddogion y bydd y pwll yn cau ymhen dwy flynedd, ar yr hiraf.

 

Amlinellodd swyddogion gyflwr presennol a gwaith cynnal a chadw posib y pwll nofio.

 

Yn dilyn craffu

 

Cynigiwyd, eiliwyd a chytunwyd ar bleidlais gofnodedig.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad a amlinellwyd ar dudalen 36 o adroddiad y Cabinet.

 

O blaid: Y Cynghorwyr C Clement-Williams, M Crowley, C Galsworthy, R Jones, R Mizen, S Paddison, S Pursey, P Rees, S Renkes, S Reynolds, D Whitelock,

 

Yn erbyn: Y Cynghorwyr T Bowen, W Carpenter, N Goldup-John, J Henton, C James, J Jones, C Lewis, C Phillips, R Phillips, A Richards, P Rogers, M Spooner, D Thomas,

 

Ymwrthod: M Caddick.

 

Yn dilyn craffu, ni chefnogwyd rhoi'r argymhelliad gerbron y Cabinet.