Agenda item

Craffu Cyn Penderfynu – Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion – Cynnig i Sefydlu Ysgol Cyfrwng Saesneg 3-11 oed i ddisodli Ysgolion Cynradd yr Alltwen, Godre’r Graig a Llangiwg (wedi’i amgáu o fewn papurau’r Cabinet)

Cofnodion:

Trafododd Aelodau'r Cabinet y cynnig a chrynhodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Castell-nedd Port Talbot, y Cyng. S K Hunt, y drafodaeth. Diolchodd yr aelodau i'r swyddogion am yr holl waith a wnaed fel rhan o'r broses, am eu proffesiynoldeb, eu goddefgarwch a'u cyngor.

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Diwylliant os nad oedd Aelodau'r Cabinet yn dewis cefnogi'r argymhellion, byddant yn mynd yn erbyn cyngor y swyddogion.

 

Penderfyniad:

 

Gwrthod argymhellion y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes yn yr adroddiad am y rhesymau canlynol:

 

·        Pellter y safle newydd o Godre'r-graig yn benodol a cholli addysg gynradd o'r gymuned honno yn dilyn cau adeilad gwreiddiol yr ysgol. Mae pryder y byddai hynny'n cael effaith andwyol ar les y plant.

 

·        Mae'n rhaid i ddiogelwch y briffordd fod yn flaenoriaeth  a theimlai Aelodau’r Cabinet nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth am effaith mwy o draffig a llwybrau at yr ysgol ar y cam hwn.

 

·        Clywodd Aelodau’r Cabinet bryderon am yr effaith bosib ar addysg cyfrwng Cymraeg yn yr un ardal a'r ffaith y gallai lleihau nifer y disgyblion sy'n mynychu ysgolion Cymraeg lleol ac effeithio ar ardal sy'n sensitif yn ieithyddol.

 

·        Dangosodd yr ail ymgynghoriad, fel yr un cyntaf, fod y mwyafrif o'r tair cymuned yn gwrthwynebu'r cynlluniau hyn.   Roedd Aelodau’r Cabinet am archwilio ffyrdd i gadw ysgolion cynradd dichonadwy yn eu cymunedau eu hunain. Mae gwersi i'w dysgu o ran sut rydym ni fel cyngor yn ymgynghori â chymunedau am ddyfodol ysgolion ac addysg ar gam cynnar.

 

 

Dogfennau ategol: