Cofnodion:
Cyflwynwyd gwybodaeth i aelodau yn ymwneud ag
asesiad o adnoddau i gefnogi swyddogaeth y Gwasanaethau Democrataidd, fel y
nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Darparodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
grynodeb o'r adroddiad. Mae llwyth gwaith Tîm y Gwasanaethau Democrataidd a'r
galwadau sydd arnynt yn gyson ac yn cynyddu oherwydd y dyletswyddau a osodir
arnynt gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Amlinellodd
swyddogion hefyd y gefnogaeth gwasanaethau democrataidd a ddarperir i'r
pwyllgorau corfforedig a'r cyd-bwyllgorau rhanbarthol
Dywedodd y swyddog wth yr aelodau i gymryd sylw o'r
ffaith bod y Tîm yn gweithio hyd eithaf eu gallu a byddai eu hyblygrwydd i
ymgymryd â dyletswyddau pellach yn arbennig o anodd.
Nodwyd bod gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
ddyletswydd statudol i adrodd yn flynyddol am y mater hwn, fodd bynnag, o
gofio'r llwyth gwaith sydd ar ddod, dywedwyd wrth yr aelodau y byddai adroddiad
yn cael ei ddarparu bob hanner blwyddyn
Penderfynwyd: Bod Pwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd yn cymeradwyo'r strwythur Gwasanaethau Democrataidd a
amlinellwyd yn Atodiad 1 ac yn nodi'r adroddiad.
Dogfennau ategol: