Cofnodion:
Gofynnwyd am drefnu ymweliad safle â safle hen
Ysgol Gyfun Isaf Dyffryn (Cais Rhif P2022/1063).Nodwyd mai'r rheswm dros yr
ymweliad safle oedd pryderon ynghylch diogelwch priffyrdd a cherddwyr.
Cafwyd trafodaeth ynglŷn ag amseriad priodol
ar gyfer yr ymweliad safle, a phwysigrwydd ymweld â'r safle yn ystod oriau
prysur y dydd, lle byddai'n gynrychioliadol o'r pryderon a godwyd. Cadarnhawyd
na fyddai'r ymweliad safle yn cael ei drefnu yn ystod gwyliau'r Pasg.
PENDERFYNWYD: Trefnu ymweliad safle â safle hen Ysgol Isaf Dyffryn, Heol Talcennau, Port Talbot SA13 1EP.