Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Addysg
Ddewisol yn y Cartref
Ystyriodd yr
aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.
Gofynnodd yr
aelodau a fyddai'r arweiniad newydd yn gosod dyletswydd statudol i bob disgybl
gofrestru ar gyfer y system addysg. Nid oedd swyddogion yn gallu cadarnhau ai
dyma fyddai'r achos nes bod yr arweiniad newydd yn cael ei gyhoeddi gan
Lywodraeth Cymru.
Mynegodd yr
aelodau bryder ynghylch y cynnydd sylweddol yn nifer y rhai sy'n cael eu
haddysgu gartref a'r addysg maent yn ei derbyn. Gofynnod yr aelodau os oedd
digon o staff i ymdrin â nifer y plant sy'n cael eu haddysgu gartref.
Cadarnhaodd swyddogion fod dau gydlynydd wedi'u cyflogi ar hyn o bryd a bod
hynny'n ddigonol.
Yn dilyn gwaith
craffu, nododd yr aelodau'r adroddiad er gwybodaeth.
Cydraddoldeb
a Lle Diogel i Ddysgu
Mae'r fenter ar
gyfer ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned wedi dod yn uniongyrchol gan
Lywodraeth Cymru dros y 18 mis diwethaf. Amlinellodd swyddogion sut y mae
Castell-nedd Port Talbot wedi defnyddio'r arian gan Lywodraeth Cymru i
ganolbwyntio ar y maes hwn.
Gofynnodd yr
aelodau os oedd unrhyw waith y gellid ei wneud gyda chyrff llywodraethu i
ddeall yn well y cysylltiadau cymunedol a'r pethau y gall sefydliadau yn y
gymuned eu cynnig. Cynghorodd swyddogion fod y cwricwlwm newydd yn rhoi llawer
o ffocws ar gynnwys y gymuned. Ymhellach
at hynny, mae darn o waith yn cael ei wneud ar 'ddatblygu cymuned sy'n
seiliedig ar asedau'. Mae hyn yn ystyried yr hyn sydd ar gael o fewn y
cymunedau a sut i gynnwys ysgolion yn yr un sydd eisoes ar gael. Bydd yn rhoi
ystyriaeth i drefniadau cyfatebol rhwng yr ysgolion a'r sefydliadau cymunedol.
Yn dilyn craffu,
nodwyd cynnwys yr adroddiad er gwybodaeth.
Adroddiad
Urddas y Misglwyf
Ystyriodd yr
aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.
Cadarnhawyd bod
ysgolion uwchradd yn derbyn cyllid i brynu eitemau fel bo angen. Cysylltir ag
ysgolion cynradd drwy e-bost i ofyn a hoffent archebu cynnyrch ac os felly, pa
gynnyrch sydd ei angen. Mae gan ysgolion cynradd hawl i brynu gwisgoedd ysgol
newydd gyda'r cyllid hefyd.
Yn dilyn gwaith
craffu, nododd yr aelodau'r adroddiad er gwybodaeth.
Adroddiad
Diweddaru NEET (Heb fod mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant)
Ystyriodd yr
aelodau’r adroddiad fel y’i dosbarthwyd o fewn yr agenda.
Darparwyd y
diweddaraf i aelodau am ffigurau presennol. Mae 2.2% o bobl ifanc yn pontio o'r
ysgol i NEET. Dyma'r ail flwyddyn orau erioed o fewn Castell-nedd Port Talbot
ac mae'n ymwneud â 35 person ifanc yn unig.
Gofynnodd yr
aelodau am y ffigurau a gyflwynwyd ar y graff, yn benodol mewn perthynas â
2018. Cynghorodd swyddogion fod anghysondebau yn adroddiad Cymru Gyfan ar gyfer
y flwyddyn honno, gan nad oedd un awdurdod lleol wedi cyflwyno'i ffigurau mewn
pryd.
Mynegodd yr
aelodau'r pryderon a amlinellwyd yn un o'r astudiaethau achos mewn perthynas â
chŵn cymorth. Gofynnodd yr aelodau a fyddai'r awdurdod yn ystyried
datblygu asesiad risg enghreifftiol i gefnogi hyn yn y dyfodol. Cynghorodd
swyddogion eu bod yn ystyriol o'r sefyllfa ar gyfer y dyfodol.
Yn dilyn craffu,
nodwyd cynnwys yr adroddiad.