Agenda item

Canllawiau'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol

Cofnodion:

Cafwyd trafodaeth o ran ymateb y Pwyllgor i arweiniad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh), a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.

Eglurwyd bod y gwaith hwn yn deillio o'r dyletswyddau a osodwyd ar Gyd-bwyllgorau Corfforedig i ddatblygu a chynhyrchu CTRh. Dywedwyd wrth aelodau bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r fersiwn ddiweddaraf o'r Arweiniad Drafft ar Drafnidiaeth Ranbarthol, lle'r oedd gofyn i swyddogion adolygu ac yna rhoi adborth i Lywodraeth Cymru. Cadarnhawyd bod Swyddogion Trafnidiaeth wedi cwblhau eu hadolygiad o'r arweiniad, er mwyn cynghori'r Cyd-bwyllgor Corfforedig, ac wedi crynhoi'r canfyddiadau allweddol o fewn yr adroddiad cylchredeg.

Rhoddwyd gwybod i'r pwyllgor bod gan swyddogion nifer o bryderon o ran amserlenni, dyletswyddau ac adnoddau; tynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·        O ran adnoddau, byddai datblygu'r ffrwd waith hon yn ddarn o waith sylweddol. Bydd llawer o'r gwaith yn cael ei roi i'r adnoddau sydd eisoes dan bwysau ym mhob un o'r Awdurdodau Lleol;

·        Cydnabuwyd bod angen penodi rheolwr rhaglen. Datblygwyd y disgrifiad swydd, a'r cam nesaf fyddai hysbysebu'r swydd;

·        Roedd yr amserlenni ar gyfer datblygu'r CTRh yn uchelgeisiol iawn. Byddai angen gwneud llawer o waith astudio, a byddai'n heriol iawn o ran y manyldeb yr oedd ei angen;

·        O ran y fframwaith polisi, roedd pryderon ynghylch yr ymagwedd o'r pen i'r gwaelod, a'r rhyddid i ddatblygu cynllun trafnidiaeth a oedd yn addas at y diben ar gyfer y rhanbarth. Roedd gan lawer o'r fframwaith polisi ffocws cryf ar gynaliadwyedd, ond roedd angen canolbwyntio ar yr economi hefyd, gyda thrafnidiaeth yn ysgogwr allweddol ar gyfer sut i ddatblygu a gwella'r economi.

·        Bu rhai awgrymiadau y byddai trefniant sy'n debyg i Gomisiwn Burn yn rhan o ddatblygu'r CTRh. Roedd hyn yn bryder gan fod y ddyletswydd ar gyfer cynhyrchu'r CTRh ar y Cyd-bwyllgor Corfforedig; ni fyddai cael haen ychwanegol o fiwrocratiaeth yn cael ei chefnogi, a byddai'n effeithio ar gyfrifoldebau democrataidd yr Awdurdodau Lleol sy'n ffurfio'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig;

·        Roedd pryderon ynghylch faint o waith dadansoddi data sy'n gysylltiedig â datblygu'r CTRh. Er bod sôn bod Trafnidiaeth Cymru'n cefnogi'r gwaith hwn, nid oedd eglurder o ran faint o gefnogaeth fyddan nhw'n gallu ei ddarparu, ac a fyddai cyllid ar gael i ddatblygu hynny. Yn ogystal â'r pryderon hyn, roedd gan Trafnidiaeth Cymru adnoddau cyfyngedig, ac roedd gofyn i ddatblygu'r CTRh ar draws y pedwar rhanbarth, a allai achosi problemau wrth geisio cael cefnogaeth gan Drafnidiaeth Cymru;

·        Roedd pryderon hefyd o ran lefel yr adnoddau a fyddai'n cael ei ddyrannu i ddatblygu prosiectau a rhaglenni a fyddai'n dod o'r CTRh.  Pan ddatblygwyd y cynlluniau i ddechrau yn 2010, roedd neges glir iawn i fod yn uchelgeisiol o ran ymyriadau trafnidiaeth; Ond pan ddatblygwyd y rhaglen gwelwyd lleihad sylweddol yn swm yr arian a oedd ar gael. Roedd hyn yn golygu bod gan swyddogion raglen o brosiectau hynod uchelgeisiol ond nid oedd llawer o gyllid er mwyn ei chyflawni.

 

Ailadroddodd yr aelodau'r pryderon a godwyd gan swyddogion, gan dynnu sylw at bwysigrwydd codi'r rhain gyda Llywodraeth Cymru; yn enwedig o ran y cyllid, amserlenni, diffyg adnoddau a'r materion a all godi mewn perthynas â'r gwaith ymgynghori. Mynegodd y Pwyllgor fod yn rhaid i gynlluniau trafnidiaeth fod yn uchelgeisiol, ond roedd yn rhaid iddynt hefyd fod yn realistig er mwyn iddynt gael eu rhoi ar waith ac er mwyn symud y gwaith hwn ymlaen.

PENDERFYNWYD:

·        Bydd aelodau'n nodi'r dyletswyddau a'r gofynion o safbwynt trafnidiaeth;

·        Bydd aelodau'n cymeradwyo'r ymagwedd a gymerir i ymateb i'r gofynion a'r dyletswyddau, ac yn cymeradwyo'r ymateb i'r arweiniad Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft (CTRh);

·        Rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol i hwyluso datblygiad arweiniad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh).

 

 

Dogfennau ategol: