Cofnodion:
Cyflwynwyd diweddariad
ar y gwaith a wnaed gan Archwilio Cymru, hyd at 31 Rhagfyr 2022, i’r Aelodau.
O ran y gwaith
ariannol a wnaed, cadarnhawyd bod yr archwiliad o ddatganiadau ariannol y
cyngor wedi’i gwblhau; rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol farn ddiamod ar 13
Ionawr 2023, yn dilyn cymeradwyo’r datganiadau ariannol yn y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio ar 12 Ionawr 2023. Nodwyd bod gwaith yn ymwneud â
ffurflenni ardystio grantiau ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 yn mynd
rhagddo.
Rhoddodd Archwilio
Cymru grynodeb o gynnydd eu gwaith perfformio:
·
Ymgorffori archwiliadau Deddf
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ym mhob agwedd ar waith
·
Cwblhawyd archwiliad adrodd ar
welliant
·
Roedd gwaith o ran Sicrwydd ac
Asesiad Risg ar gyfer 2021/22 bron wedi'i gwblhau - roedd un cam gweithredu i'w
gwblhau a oedd yn ymwneud â chynllunio adfer, fodd bynnag, roedd yr holl gamau
eraill wedi'u cwblhau a'u hadrodd arnynt.
·
Roedd gwaith Llamu Ymlaen
(archwilio'r blociau adeiladu ar gyfer dyfodol cynaliadwy) ar gyfer 2021/22 yn
cael ei ddrafftio ar hyn o bryd
·
Roedd y gwaith Sicrwydd ac
Asesiad Risg ar gyfer 2022/23 yn parhau - roedd y gwaith a oedd yn ymwneud â
gwybodaeth am berfformiad a gosod amcanion lles wedi dechrau, ac roedd y gwaith
ar y rhaglen rheoli cyfalaf i fod i ddechrau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon
·
Roedd adolygiad thematig ar
gyfer gofal heb ei drefnu bron wedi'i gwblhau – caiff ei adrodd yn ôl i'r
Pwyllgor ar ôl iddo gael ei gwblhau
·
Roedd yr adolygiad thematig
digidol yn cael ei gynnal ar draws yr holl gynghorau ar hyn o bryd – nodwyd
mai’r amserlen oedd rhwng nawr a diwedd Medi 2023
·
Roedd adolygiad craffu'n cael
ei gynnal ar hyn o bryd
Soniwyd bod yr
adroddiad a ddosbarthwyd yn cynnwys gwybodaeth a oedd yn ymwneud ag
astudiaethau cenedlaethol llywodraeth Leol, sydd wedi'u cynllunio ac ar y
gweill, er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am gynnydd gwaith pob
un o'r astudiaethau.
Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn cyfeirio at y dyddiad cau ar gyfer ffurflenni ardystio grantiau
ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22 rhwng Rhagfyr 2022 a Chwefror 2023, a bod y
gwaith yn cael ei wneud o hyd; Gofynnodd yr aelodau a oedd unrhyw
ddiweddariadau mewn perthynas ag unrhyw grantiau sy'n weddill a'r dyddiadau
cau. Cadarnhaodd Archwilio Cymru eu bod wedi cwblhau eu gwaith ar yr ardrethi
annomestig, pensiynau athrawon a grantiau'r gweithlu gofal cymdeithasol;
roeddent wedi cwblhau'r profion cychwynnol ar y cymhorthdal budd-daliadau tai,
ond y camau nesaf oedd trafod y canfyddiadau ar y cymhorthdal hwn. Nodwyd bod
Archwilio Cymru yn gobeithio gorffen y gwaith hwn dros yr wythnosau nesaf; yn
genedlaethol bu gostyngiad yn y terfynau amser y cyfeiriwyd atynt yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd, felly nid oedd unrhyw bryderon penodol i'w codi.
Holodd yr Aelodau am y
gwaith sy'n weddill mewn perthynas â'r gwaith Sicrwydd ac Asesiad Risg ar gyfer
2021/22. Cadarnhawyd mai’r unig gam gweithredu nad oedd wedi’i gwblhau oedd y
gwaith cynllunio adferiad.
Cafwyd trafodaeth
ynglŷn â’r amserlen ar gyfer y gwaith Llamu Ymlaen, a nodwyd ar gyfer
Ebrill 2022. Hysbyswyd y Pwyllgor fod y gwaith hwn yn cael ei ddrafftio ar hyn
o bryd, ac nad oedd wedi symud ymlaen yn gynharach oherwydd problemau adnoddau
o fewn Archwilio Cymru.
PENDERFYNWYD: |
Bod yr adroddiad yn
cael ei nodi. |
Dogfennau ategol: