Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Derbyniadau i Ysgolion (Canlyniadau'r Ymgynghoriad)
Ystyriodd yr
aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn yr agenda a ddosbarthwyd.
Gofynnodd aelodau
a oedd swyddogion wedi rhoi unrhyw ystyriaeth bellach i'r gwasanaeth
awtomeiddio ar gyfer derbyniadau ysgolion a drafodwyd yn flaenorol â
llywodraethwyr ysgol. Cadarnhaodd swyddogion y byddant yn edrych i mewn i hyn,
ond nid ydynt wedi gwneud hyn eto.
Yn dilyn craffu
roedd yr Aelodau’n gefnogol o'r argymhelliad i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet.
Perfformiad Chwarter 3
Ystyriodd yr
aelodau’r wybodaeth fel y’i cyflwynwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd gyda'r
agenda.
Holodd yr aelodau ynghylch tudalen 44, C P008, sy'n
ymwneud â'r 11 o ddisgyblion sy'n astudio'r Gymraeg. Holodd aelodau a oedd digon yn cael ei wneud
i sicrhau bod nifer y disgyblion sy'n astudio'r Gymraeg yn parhau i gynyddu.
Dywedwyd wrth yr aelodau fod hyn yn rhan o strategaeth Cynllun Strategol y
Gymraeg mewn Addysg. Er mwyn i fyfyrwyr astudio yn y Gymraeg mae angen eu bod
yn gwneud hyn o oedran cynnar. Mae hyn yn rhan bwysig o Gynllun Strategol y
Gymraeg mewn Addysg wrth symud ymlaen.
Gofynnodd aelodau am ragor
o wybodaeth am y dangosydd coch ar dudalen 48 sy'n ymwneud â phlant sy'n derbyn
gofal. Cadarnhaodd swyddogion mai un mater sy'n achosi rhai problemau yw cael y
mewnbwn angenrheidiol gan y gwasanaeth iechyd.
Holodd aelodau ynghylch
cymunedau am waith ar dudalen 51 o'r adroddiad. Nododd yr aelodau ddiffyg pobl
yn cymryd rhan yn y cynllun. Cadarnhaodd swyddogion fod yr eitem hon yn ymwneud
â phobl dros 25 oed ac mae hwn yn gategori oedran anoddach i'w cyrraedd,
oherwydd sawl ffactor, cadarnhaodd swyddogion mai un o'r targedau fydd yn cael
ei rhoi ar waith fydd ymgysylltu â busnesau fel eu bod yn dweud pa sgiliau y
maent yn chwilio amdanynt. Yna gall y cynllun edrych ar sicrhau bod gan y bobl
sy'n chwilio am swydd y sgiliau cywir ar gyfer y swydd
Holodd yr aelodau ynghylch
CP005 a 006 a gofynnwyd am esboniad am y gostyngiad mewn presenoldeb. Cadarnhaodd swyddogion fod presenoldeb yn un
o'r prif flaenoriaethau. Mae COVID-19 a'r adferiad dilynol wedi cael effaith
enfawr ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc, ac ymgysylltiad â'r ysgol. Mae hyn
yn cynnwys y teulu y tu ôl i'r plant ifanc. Hefyd, mae gostyngiad enfawr yng
nghyfraddau presenoldeb ddydd Gwener o'r data a ddadansoddwyd.
Presenoldeb yw un o'r
targedau o fewn y Cynllun Gwella Corfforaethol a'r Cynllun Gwella Ysgol.
Amlinellodd swyddogion y gallai'r dirywiad mewn presenoldeb hefyd gael ei
briodoli i'r argyfwng costau byw. Mae swyddogion wedi bod yn gweithio gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol i
ddileu rhai o'r rhwystrau a nodwyd sy'n cyfrannu at lefelau presenoldeb isel.
Amlinellodd swyddogion rai
camau a gymerwyd i fynd i'r afael â rhai materion a godwyd, gan bwysleisio y
bydd ymdrech ar y cyd dros y 12-18 mis nesaf i gael lefelau presenoldeb yn ôl
i'r lefelau cyn y pandemig.
Holodd yr aelodau
a allent gael gwybodaeth sy'n ymwneud â phresenoldeb ym mhob ysgol unigol yn
hytrach na datganiad cyffredinol sy'n cwmpasu'r holl fwrdeistref. Gellir
monitro hyn wedyn wrth symud ymlaen.
Roedd yr
aelodau'n hapus iawn i weld bod nifer y priodasau'n uwch na'r DPA amcanol yn yr
Orendy ym Mharc Margam.
Yn dilyn craffu,
nodwyd cynnwys yr adroddiad.
Diweddariad ar Brydau Ysgol am Ddim
Amlinellodd
swyddogion yr adroddiad a ddosbarthwyd gyda'r agenda.
Llongyfarchodd
aelodau'r swyddogion am eu gwaith caled wrth gyflwyno'r grwpiau oedran amrywiol
ymlaen llaw. Holodd aelodau am y gallu i barhau i gyflwyno'r rhaglen fel yr
amlinellir o fewn yr adroddiad. Dywedodd swyddogion eu bod yn deall y sefyllfa
ym mhob ysgol ac roeddent yn hyderus y gellir parhau i gyflwyno'r rhaglen yn ôl
y bwriad. Mae CBSCNPT yn un o dri awdurdod yng Nghymru sydd ar ar y cam hwn o
gyflwyno’u rhaglen ar hyn o bryd.
Holodd yr aelodau
a oedd gwerth maeth y prydau'n cael ei fonitro. Cadarnhaodd swyddogion fod
ganddynt y dystysgrif cydymffurfio gan Lywodraeth Cymru sy'n nodi bod CNPT yn
dilyn Rheoliadau Iechyd 2013 ar gyfer yr holl brydau sy'n cael eu darparu.
Cydnabu'r aelodau
fod recriwtio eisoes wedi digwydd, ond gofynnwyd wrth swyddogion a oedd unrhyw
broblemau wedi bod o ran recriwtio ac a allai’r gwaith i ehangu’r rhaglen
ymhellach gael ei oedi gan ofynion staffio. Cadarnhaodd swyddogion y bu
trafferthion sylweddol wrth recriwtio fodd bynnag roedd ganddynt un a oedd
wedi'i goresgyn hyd yma. Cadarnhaodd swyddogion fod pob aelod o staff yn cael
ei dalu fel y bo'n briodol am ei rôl a fu’n destun gwerthusiad swydd.
Yn dilyn gwaith
craffu, nododd yr aelodau’r adroddiad.
Dysgu Proffesiynol
Ystyriodd yr
aelodau’r adroddiad fel y’i dosbarthwyd gyda'r agenda.
Roedd yr
aelodau'n falch o weld bod yr adroddiad wedi nodi ymrwymiad CNPT i ddatblygiad
athrawon. Nododd yr aelodau'r ymrwymiad i wneud CNPT yn lle deniadol i weithio
ac holwyd am y gefnogaeth a gynigir gan y strategaeth o'i chymharu ag
awdurdodau eraill. Dywedodd swyddogion eu bod yn gweithio'n agos gydag athrawon
i benderfynu pa gefnogaeth y mae ei hangen a sut y gellir cynnig hyn.
Holodd yr aelodau
hefyd a fu unrhyw newid yn anghenion athrawon ar ôl COVID-19. Cadarnhaodd
swyddogion mai nid adfer ar ôl COVID-19 yn
unig sy’n herio athrawon, ond hefyd yr agenda ddiwygio mewn ysgolion, a
dyma lle nodwyd yr angen mwyaf am gefnogaeth.
Gofynnwyd i'r
Aelodau nodi mai un agwedd ar ddysgu proffesiynol yw hyn. Mae dysgu pellach yn
y Blynyddoedd Cynnar a'r Gwasanaeth Cynhwysiad. Mae'r agenda ddiwygio'n cynnwys
llawer o agweddau a cheir llawer o gefnogaeth mewn perthynas â hyn ac ADY.
Cadarnhaodd
swyddogion nad oes bylchau amlwg yn yr hyn sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd
i staff addysgu a chadarnhawyd hyn gan benaethiaid yn eu hymateb i'r cwestiwn
diweddar a ofynnwyd gan Estyn.
Yn dilyn gwaith
craffu, nododd yr Aelodau yr adroddiad.