Agenda item

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus - Cynllun Llesiant Drafft 2023-2028

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad i aelodau ar ymgynghoriad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot ar y Cynllun Lles Drafft.

 

Darparwyd crynodeb i aelodau o ddyletswyddau sy'n codi o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i baratoi a chyhoeddi asesiad lles yn ei ardal ac yna i baratoi a chyhoeddi cynllun lles lleol sy'n amlinellu ei amcanion lleol i wella lles yn yr ardal a'r camau gweithredu mae'n ei gynnig er mwyn eu bodloni. Dyma'r ail gynllun lles lleol y mae'r BGC yn ymgynghori arno.

 

Mae gofyn i'r BGC weithio yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae gweithio yn y ffordd hon yn rhoi'r cyfle i sefydliadau fod yn fwy blaengar. Mae'r BGC wedi defnyddio'r data a gasglwyd o'r ymgyrch Dewch i Siarad a gynhaliwyd yr haf diwethaf er mwyn helpu gyda llywio'r asesiad lles.

 

Tynnwyd themâu allweddol o'r asesiad lles, sydd wedi cael eu trosglwyddo i'r cynllun drafft. Mae dyletswydd ar y BGC i ymgynghori'n gyhoeddus ar y cynllun am o leiaf 12 wythnos. Mae Pwyllgor Craffu'r Cabinet yn ymgynghorai statudol ac mae gan y pwyllgor ddyletswydd i graffu ar waith y BGC. Unwaith caiff y cynllun ei gyhoeddi, bydd y BGC yn cynhyrchu adroddiadau blynyddol a fydd yn cael eu cyflwyno i'r pwyllgor craffu.

 

Fel rhan o gynhyrchu'r cynllun, bydd angen i'r BGC gynnig cyfres o gamau gweithredu fydd y bwrdd yn eu cymryd i'w helpu i gyflawni eu hamcanion. Amlinellodd y swyddogion yr amcanion a'r camau gweithredu.

 

Amlinellodd y BGC ei fwriad i weithio gyda phartneriaid Castell-nedd Port Talbot i gefnogi buddsoddiadau sy'n cael eu gwneud yn y fwrdeistref sirol yn y dyfodol a mwyafu'r buddion ar gyfer pobl leol.

 

Holodd aelodau pam yr oedd y dyfyniadau a ddefnyddiwyd o fewn yr adroddiad o gymunedau'r cymoedd ac nid ardaloedd eraill. Cadarnhawyd bod y dyfyniadau a ddefnyddiwyd o adroddiadau terfynol ymgyrch Dewch i Siarad. Cynhyrchwyd crynodeb o'r Asesiad Lles gan Brifysgol Abertawe. Mae dyfyniadau o ardaloedd eraill o fewn Castell-nedd Port Talbot a chaiff y rhain eu mewnbynnu i'r cynllun drafft.

 

Nododd aelodau fod yr adroddiad yn cyfeirio at wella'r ddarpariaeth o fannau gwyrdd o fewn ardaloedd trefol, ond nid oes manylion am y gwaith sydd i'w wneud er mwyn gwella'r darpariaeth. Hefyd, nid yw'r adroddiad yn cyfeirio at randiroedd, a'u manteision lles posib. Holodd aelodau a oedd unrhyw gyfle i'w cynnwys o fewn y cynllun. Cadarnhaodd swyddogion fod angen datblygu llawer o fanylion o hyd ynghylch yr hyn a fydd yn digwydd wrth symud ymlaen a chaiff hyn ei adrodd yn ôl i aelodau.

 

Rhoddwyd gwybod i aelodau am yr wybodaeth a gynhwysir o fewn yr asesiad lles ar-lein a byddai dolen yn cael ei dosbarthu er mwyn i aelodau gael mynediad ati. Ers cynhaliwyd yr asesiad, comisiynwyd Strategaeth Ddiwylliant a Threftadaeth gan y cyngor. Mae hyn wedi cynnwys ymgysylltiad â grwpiau cymunedol amrywiol. Caiff y BGC ei annog i gyfrannu at y strategaeth hon yn hytrach na sefydlu darn o waith eu hunain ar wahân.

 

Rhoddwyd gwybod i aelodau am gyfyngiadau'r gyllideb mewn perthynas â'r BGC.

 

Holodd aelodau am wybodaeth a gyflwynwyd yn yr asesiad mewn perthynas â'r stoc tai a'r amcanion datgarboneiddio. Gofynnodd aelodau i'r wybodaeth gael ei ailgyflwyno i'r pwyllgor graffu arni unwaith y cytunir ar fanylion pellach ynghylch sut y bydd yr amcanion yn cael eu bodloni.

 

Trafododd aelodau COVID-19 a'r effaith ar y cymunedau. Trafododd aelodau sut roedd yr Iaith Gymraeg yn cael ei chefnogi.

Mewn perthynas â chostau byw, dywedodd swyddogion eu bod yn gofyn i bob sefydliad sy'n gysylltiedig ddod â setiau o ddata eu hunain fel bod y BGC yn gallu ei ddadansoddi a phenderfynu pwy sy'n dioddef o galedi fwyaf.

 

Yn dilyn craffu, cytunodd aelodau ar y canlynol:

 

·        Nodi Cynllun Lles Drafft Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot fel ymgynghorai statudol (fel a restrir o dan adran 43 (1) Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)) a chynnwys eu sylwadau/adborth a godwyd yn ystod cyfarfod heddiw o fewn yr ymgynghoriad.

·        Bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Gadeirydd y BGC, gan wahodd partneriaid y BGC i gyfarfod y pwyllgor craffu yn y dyfodol i ystyried Cynllun Lles yn BGC yn fanylach.

 

 

Dogfennau ategol: