Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Adroddiad
Diogelu Blynyddol Gorllewin Morgannwg
Rhoddodd
swyddogion amlinelliad byr o'r adroddiad. Bwrdd rhanbarthol yw Bwrdd Diogelu
Gorllewin Morgannwg. Mae'n dod â sefydliadau at ei gilydd i edrych ar ddiogelu
ac mae hefyd yn dwyn sefydliadau i gyfrif. Maent yn cynnal adolygiadau arferion
i blant ac oedolion. Mae'r adroddiad yn amlinellu rhan gyntaf y cynllun
diogelu. Prif amcan y Bwrdd yw diogelu plant ac oedolion, a'r ail amcan yw atal
niwed mewn perthynas â phlant ac oedolion.
Mae'r adroddiad yn nodi strwythur y grŵp a bydd pob sefydliad sy'n
gysylltiedig yn ymgymryd ag elfennau o'r gwaith. Mae'r bwrdd yn sicrhau
ymagwedd ac ymateb cyson ar draws y rhanbarth.
Nododd yr aelodau
fod yr adroddiad yn amlinellu nifer uchel o orddosau ac hunanladdiadau honedig
ymhlith dynion. Holodd yr aelodau os gellid nodi'r rheswm dros hyn. Dywedodd
swyddogion ei fod yn adlewyrchu'r tueddiadau a nodwyd yn ystod argyfwng
ariannol 2008. Mae pob hunanladdiad ac ymgais sylweddol at hunanladdiadau yn
cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth. Mae data'n cael ei gasglu, gan weithio
gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, i nodi'r gwasanaethau y mae'r unigolion a'u
teuluoedd yn cael mynediad atynt i weld a oes modd gwneud unrhyw beth yn
wahanol i atal yr hunanladdiadau hynny.
Yn dilyn gwaith
craffu, nododd yr aelodau'r adroddiad er gwybodaeth.
Adroddiad
Blynyddol Grant Cymorth Tai 2022
Rhoddodd
swyddogion drosolwg byr o'r adroddiad a ddosbarthwyd. Y grant yw'r brif
ffynhonnell cyllid ar gyfer gwasanaethau digartrefedd, gan gynnwys Tîm Opsiynau
Tai a Gwasanaeth Annibyniaeth Cymunedol y cyngor. Mae hefyd yn ariannu ystod
lawn o wasanaethau wedi'u comisiynu, er enghraifft llochesi trais domestig.
Nododd swyddogion fod swm y cyllid a ddyfarnwyd wedi bod yr un fath ar gyfer
blynyddoedd ariannol 21-22, 22-23 a 23-24. Gofynnwyd i'r aelodau nodi'r pwysau
ar y gwasanaethau gyda mwy o alw a chostau dros y blynyddoedd hynny.
Mae'r grant yn allweddol wrth gyflawni'r Cynllun Ailgartrefu Cyflym ac wrth
atal digartrefedd trwy gynnig amrywiaeth o gefnogaeth wedi'i thargedu i bobl yn
eu cartrefi a hefyd gwasanaethau cefnogi mewn adeiladau. Dywedodd swyddogion y
bydd darn allweddol o waith yn cael ei wneud dros y flwyddyn neu ddwy nesaf er
mwyn optimeiddio'r grant er mwyn sicrhau ei fod yn cefnogi'r Cynllun
Ailgartrefu Cyflym.
Nododd aelodau'r
adroddiad.
Dangosyddion
Perfformiad Chwarter 3
Awgrymodd
swyddogion efallai bod y pwyllgor craffu am ganolbwyntio ar ddangosyddion y
maen nhw'n eu hystyried yn rhai allweddol. Gallai swyddogion wneud darn o waith
i ganolbwyntio'r dangosyddion ar yr hyn y mae ei angen ar y pwyllgor craffu.
Holodd aelod, o
ran yr oedi cyfartalog i ddarparu grantiau i bobl anabl, beth yw cyfartaledd yr
amser aros ar gyfer defnyddiwr y gwasanaeth? Fe gadarnhaodd swyddogion bod yna
rywfaint o oedi sylweddol wedi bod yn ystod y pandemig oherwydd y galw yn y
farchnad breifat gyda gwaith adeiladu. Ar y cyfan mae gwaith cawod wedi'i wneud
yn eithaf cyflym, ond roedd y gwaith codi estyniad yn cymryd rhwng 6-9 mis.
Fodd bynnag, mae'n dechrau gwella wrth i'r farchnad breifat arafu.
Holodd aelodau
ynghylch cwyn a gynhaliwyd yn rhannol yn erbyn gweithiwr cymdeithasol a
amlinellir yn yr adroddiad a'r gwersi a ddysgwyd o hyn. Holodd yr aelodau os cafodd
y gwersi a ddysgwyd eu hanfon ymlaen at gyflogwr newydd y gweithiwr
cymdeithasol er mwyn sicrhau na fydd yr un camgymeriadau'n cael eu hailadrodd.
Dywedodd swyddogion y byddant yn derbyn cyngor gan AD fel y bo'n briodol. Yn
gyffredinol byddai gwallau ar draws system yn cael eu hystyried a'r gwersi
ehangach a ddysgwyd o'r gŵyn a sut y gellir gwella ar hyn.
Nododd yr aelodau
bod nifer y plant sy'n derbyn gofal a'r rhai ar y gofrestr amddiffyn plant wedi
lleihau dros y 10 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, ers chwarter cyntaf 2021,
mae'r niferoedd yn lleihau yn eithaf sylweddol. Holodd aelod os oedd rheswm
penodol am y dirywiad cyflym hwn. O ran plant sy'n derbyn gofal, dywedodd
aelodau gweithiwyd â phlant a theuluoedd er mwyn caniatáu i blant ddychwelyd adref
yn ddiogel. Yn ystod y pandemig, arafodd y broses hon ac arhosodd pobl ifanc
mewn gofal maeth am gyfnodau hirach. Fodd bynnag, bydd y niferoedd hyn nawr yn
parhau i leihau. Dywedodd swyddogion nad oes rhifau targed ar gyfer plant sy'n
derbyn gofal a phlant ar y gofrestr amddiffyn plant. Nodwyd hefyd, o bryd i'w
gilydd, fod grwpiau mawr o frodyr a chwiorydd yn dod oddi ar y gofrestr
amddiffyn plant sydd weithiau'n gallu esbonio'r dirywiad cyflym mewn ffigyrau.
Nodwyd ei bod yn
ymddangos bod targedau'n goch weithiau, fodd bynnag, nid yw hyn bob amser yn
adlewyrchu'r sefyllfa'n gywir. Ar hyn o bryd mae system gorfforaethol ganolog
sy'n gofyn bod targedau ac amcanion yn cael eu gosod. Fodd bynnag weithiau mae
hyn yn wrthgynhyrchiol gan fod angen esboniad llawer mwy cymhleth ar y ffigyrau
ynghylch y canlyniad.
Holodd aelodau
ynghylch y cynnydd yn nifer y derbyniadau i gartrefi gofal a'r pryderon
ynghylch argaeledd gwelyau. Er bod gwelyau gwag, nododd y swyddogion nad oes
staff ar gael yn y cartrefi gofal i ofalu am y gwelyau hynny. Yn amlach na
pheidio mae pobl yn cael eu derbyn i gartref gofal ar ôl cael eu rhyddhau o'r
ysbyty wrth ddisgwyl am ofal yn y gymuned neu pan nad oes gofal ar gael yn y
gymuned i ofalu am bobl, felly maent yn cael eu derbyn yn y cartref gofal.
Yn dilyn gwaith
craffu, nododd yr Aelodau yr adroddiad.
Y Gronfa
Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau: Cytundebau Grant
Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a
ddosbarthwyd gyda'r agenda. Bydd y cynnydd mewn cyllid yn cefnogi'r amcanion i atal marwolaethau sy'n gysylltiedig â
chyffuriau, lleihau niwed sy'n gysylltiedig â chyffuriau a sicrhau bod y rheini
y mae angen cefnogaeth arnynt yn gallu cael mynediad amserol at y gwasanaethau
y mae eu hangen arnynt pan fydd eu hangen arnynt.
Er cydnabuwyd bod nifer y
marwolaethau sy'n ymwneud â chyffuriau ar draws y rhanbarth yn cynyddu, roedd
nifer y marwolaethau yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi lleihau yn ystod y
flwyddyn ddiwethaf.
Yn dilyn craffu roedd yr aelodau’n
gefnogol o'r argymhelliad i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet.
Cymryd rhan
yng Nghynllun Cartrefi Gwag Llywodraeth Cymru
Rhoddodd y
swyddogion drosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd gyda'r agenda.
Holodd aelodau
ynghylch y rhesymau dros lofnodi cytundeb gwasanaeth gyda RhCT a'r buddion a
ddaw yn sgil hyn. Cadarnhaodd swyddogion fod y cynllun a amlinellwyd yn copïo
cynllun Tasglu'r Cymoedd a weinyddwyd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf. Rhondda
Cynon Taf yw'r awdurdod arweiniol a benodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y
cynllun wrth symud ymlaen. Bydd RhCT yn ymdrin ag ochr gyfreithiol ac ariannol
y cynllun. Bydd yr awdurdodau lleol yn ymdrin â'r arolygon.
Yn dilyn craffu
roedd yr aelodau’n gefnogol o'r argymhelliad i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet.