Cofnodion:
Rhoddodd
swyddogion gyflwyniad i'r pwyllgor ar y pwynt cyswllt unigol (PCU), sydd hefyd
yn gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer nifer o atgyfeiriadau sy'n cael
eu derbyn gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Nododd swyddogion
y byddai'r cyflwyniad yn canolbwyntio ar y pwynt cyswllt unigol mewn perthynas
â gwasanaethau i oedolion. Cyn amlinellu manylion y gwasanaethau, amlinellodd
swyddogion sut mae'r system atgyfeirio'n gweithio ar hyn o bryd. Mae un rhif
ffôn ac un cyfeiriad e-bost sy'n cael eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau i
blant ac oedolion. Yn dilyn cyswllt cychwynnol, mae ffurflen atgyfeirio
integredig sy'n cael ei defnyddio'n rhanbarthol gan bartneriaid wrth gyfeirio
achos at wasanaethau cymdeithasol. Bydd y PCU yn cynnal asesiadau er mwyn
darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i'r rheini sy'n cysylltu â nhw.
Mae'r PCU yn
gweithredu ar strwythur tîm aml-ddisgyblaeth. Aeth swyddogion drwy gyfansoddiad
tîm PCU oedolion. Mae nifer y staff wedi cynyddu oherwydd y pryderon a godwyd
yr haf diwethaf ynghylch cyfraddau ymateb.
Cyflwynwyd y
strwythur newydd yn ystod haf 2022. Cydnabuwyd y gellid cefnogi'r pwysau
ehangach yn y tîm gofal cymdeithasol i oedolion pe gellid arafu cyfradd yr
atgyfeiriadau drwy ymateb i anghenion pobl ar y cyfleoedd cynharaf gyda'r model
arfer sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Dywedwyd wrth yr
aelodau fod y cyfraddau atgyfeiriadau i PCU i oedolion wedi cynyddu'n gyson
dros y blynyddoedd diwethaf, gyda misoedd penodol yn brysurach nag eraill.
Darparwyd dadansoddiad o'r atgyfeiriadau i'r aelodau dros gyfnod diweddar o
chwe mis, yn ogystal â gwybodaeth sy'n ymwneud â sut y cawsant eu rhoi ar
waith.
Trafododd
swyddogion daith yr atgyfeiriadau ar y pwynt maent yn cael eu derbyn gan PCU ac
effaith asesiadau cymesur ar y gwasanaeth ehangach. Mae asesiadau cymesur yn
ymdrin â chyngor a chymorth yn unol â'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant. Gall asesiadau hefyd helpu i ddatgelu rhai anghenion mwy cymhleth a
allai arwain at asesu pellach o fewn y system.
Rhoddwyd
gwybodaeth i'r aelodau am yr amseroedd galwadau, ac fe gydnabuwyd bod nifer y
galwadau nad oedd wedi cael eu hateb wedi lleihau. Mae Swyddogion Cyswllt yn
derbyn llu o alwadau ffôn, sy'n ymwneud ag agweddau amrywiol ar ofal
cymdeithasol i oedolion a phlant. Mae swyddogion yn asesu sut y gellir cefnogi
swyddogion cyswllt orau yn gyson.
Cododd aelodau
bryderon o ran salwch staff a sut y gellid eu deall yn well. Yn ogystal â hyn,
sut y gellir darparu cymorth o ran recriwtio staff newydd. Fe gadarnhaodd
swyddogion nad oedd salwch staff mewn perthynas â straen na phryder yn y
gwaith, ond o ganlyniad i salwch nad oedd modd ei atal sy'n digwydd fel arfer.
Fe gadarnhaodd
swyddogion y bydden nhw'n adrodd ar les staff a sut mae hyn yn cael ei gefnogi
mewn adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno'n ddiweddarach.
Fe wnaeth aelodau
gwestiynu sut y cafodd boddhad cwsmeriaid gyda'r gwasanaeth ei asesu.
Cadarnhaodd swyddogion, fel penderfyniad pwynt cyntaf, ei fod yn ymddangos eu
bod yn derbyn canmoliaeth yn unig. Fodd bynnag, cydnabuwyd nad yw hyn yn golygu
bod defnyddwyr gwasanaethau yn fodlon. Nododd swyddogion y gwaith a wnaed yn
flaenorol gydag ymgynghorwyr allanol yn cael eu cynnwys ac wrth gasglu barn
defnyddwyr y gwasanaeth a'r adborth a ddarparwyd ganddynt.
Dywedodd y
Cyfarwyddwr mai'r disgwyliad oedd na fyddai unrhyw alwadau ffôn yn cael eu
gadael, yn enwedig pan mae pobl ddiamddiffyn yn ffonio gwasanaeth y mae angen
cymorth ganddynt. Mae disgwyl y bydd timau'n edrych ar y systemau sydd ar waith
i sicrhau y gallant fod yn bosib yn y dyfodol.
Nododd yr
aelodau'r galw mawr ar y gwasanaeth. Roedd swyddogion yn gwahaniaethu rhwng y
gwasanaethau TG tymor byr a'r gwasanaethau TG tymor hir, lle byddai'r rhestrau
aros am asesiadau yn hirach.
Cadarnhawyd y gall staff cefnogi busnes helpu gydag ateb galwadau ffôn, ond
cydnabyddir nad ydynt wedi'u hyfforddi i ymdrin â chymhlethdodau'r galwadau
ffôn sy'n cael eu derbyn. Byddent yn gallu rhoi ateb ar unwaith i alwad os oes
angen. Gall y gweithwyr cefnogi busnes ymdrin ag atgyfeiriadau e-bost a
dderbyniwyd o ran eu rhoi ar y system ofynnol.
Yn dilyn craffu,
nododd yr aelodau'r eitem er gwybodaeth.
Dogfennau ategol: