Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Simon Knoyle, Aelod y
Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol yr adroddiad a oedd
yn nodi'r cyfrifiadau a'r penderfyniadau angenrheidiol i'w cymeradwyo mewn perthynas
â gosod lefel Treth y Cyngor ar gyfer 23/24 yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth
Leol 1992.
PENDERFYNWYD:
a) Cymeradwyo bod unrhyw dreuliau a ysgwyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol
Castell-nedd Port Talbot wrth berfformio, yn rhan o'i ardal, swyddogaeth a
gyflawnir gan Gyngor Cymuned, mewn man arall yn ei ardal, yn cael eu trin fel
treuliau cyffredinol.
b) Cymeradwyo bod ardoll Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe yn cael ei
thrin fel treuliau cyffredinol.
c) Cymeradwyo'r symiau a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac atodiadau
cysylltiedig fel y'u cyfrifir yn unol ag Adrannau 32 i 36 yn Neddf Cyllid
Llywodraeth Leol 1992.
Dogfennau ategol: