Agenda item

Cynigion Cyllideb Refeniw 2023/2024

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig:

 

1.   Bod y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2023/2024 fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael ei gymeradwyo.

 

2.   Bod ffïoedd a thaliadau ar gyfer swyddogaethau gweithredol yn cael eu dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol priodol yn dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, yr Aelod Cabinet perthnasol, a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu perthnasol a

 

bod angen pennu ffïoedd a thaliadau ar gyfer swyddogaethau gweithredol sy'n berthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/2024 sy'n berthnasol mewn unrhyw flwyddyn ariannol ddilynol, ym marn y Cyfarwyddwr Corfforaethol perthnasol, cyn y flwyddyn ariannol am resymau gweithredol.

 

3.   Bod y ffïoedd a thaliadau ar gyfer swyddogaethau anweithredol yn cael eu dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol priodol yn dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, y Dirprwy Arweinydd a Chadeirydd y Pwyllgor Anweithredol perthnasol a

 

bod angen pennu ffïoedd a thaliadau ar gyfer swyddogaethau anweithredol sy'n berthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol ddilynol ac, ym marn y Cyfarwyddwr Corfforaethol, cyn y flwyddyn ariannol honno am resymau gweithredol.

 

4.   Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Prif Swyddog Cyllid, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol i wneud unrhyw welliant angenrheidiol drwy ddefnyddio cronfeydd wrth gefn cyffredinol o ganlyniad i unrhyw amrywiad rhwng taliad terfynol Llywodraeth Cymru a'r taliad dros dro.

 

5.   Bod Treth y Cyngor yn cynyddu 4.5% yn 2023/2024. Bod y swm cyfatebol ar gyfer Band D Treth y Cyngor 1,737.72/2021 Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot o £1,737.72, yn cael ei argymell i'r cyngor i'w gymeradwyo.

 

 

 

 

 

Rheswm dros y Penderfyniad

 

Er mwyn cyflawni'r gofyniad statudol i bennu’r gyllideb ar gyfer 2022/2023.

 

Darparu dull ar gyfer ymdrin ag unrhyw amrywiad rhwng setliadau dros dro a therfynol Llywodraeth Cymru.

 

Cytuno ar drefniadau ar gyfer gosod ffïoedd a thaliadau.

 

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl iddo gael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y cyngor.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: