Agenda item

Craffu Cyn Penderfynu

Cofnodion:

Priffyrdd a Pheirianneg - Rhaglen Waith 2023/2024

 

Derbyniodd yr aelodau wybodaeth am y gwaith priffyrdd a pheirianneg i’w gyflawni ym mlwyddyn ariannol 2023/24 a gofynnwyd iddynt gymeradwyo'r rhaglen waith fel y’i cyflwynwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am adroddiad gan swyddogion i'w gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu sydd wedi’i drefnu ar gyfer 26 Mai sy'n nodi'r meini prawf a ddefnyddiwyd i asesu a blaenoriaethu’r cynlluniau yn rhaglen waith priffyrdd a pheirianneg fel a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

 

Rhaglen Caffael Cerbydlu a Pheiriannau Trwm 2023/24

 

Rhoddwyd gwybod i’r aelodau am y cais i gymeradwyo caffael cerbydau a pheiriannau trwm newydd yn 2023/24. Yn ogystal â chymeradwyo awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Gwasanaeth perthnasol brynu cerbydau newydd ar gyfer 25/26 os daw unrhyw grantiau ar gael i gynorthwyo gyda phrynu cerbydau, fel y’i cyflwynwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Gofynnodd yr aelodau i adroddiad gael ei gyflwyno yng nghyfarfod y dyfodol a fydd yn manylu ar y ffigurau mewn perthynas â chaffael cerbydlu peiriannau a faint y mae'r cyngor wedi ymrwymo iddo. Byddai hyn yn rhoi dealltwriaeth i aelodau ar gostau tendrau pan fyddant yn dod i’r amlwg. Cytunodd y swyddogion i gyflwyno adroddiad costau i aelodau bob hanner blwyddyn, fodd bynnag, dywedasant fod y farchnad gerbydau'n heriol ar hyn o bryd gan fod cyflenwad a galw’n effeithio ar gostau. Dywedodd y swyddogion y byddai'r adroddiad yn dibynnu ar gwblhau manylebau cerbydau a cheisio tendrau i ddarparu costau.

 

Roedd yr aelodau hefyd am gael diweddariad ar isadeiledd gwefru cerbydau yn unol â chael mwy o gerbydau trydan ac adroddiad am hyn. Cadarnhaodd y swyddogion y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno ac esboniwyd bod yr isadeiledd gwefru cerbydau yn gyfyngedig ar hyn o bryd o amgylch adeiladau dinesig. Fodd bynnag, i baratoi ar gyfer ehangu cerbydau carbon isel y cerbydlu, dechreuwyd ar gontract gwerth £1.6 miliwn i hwyluso'r broblem a bydd yn ymdrin yn bennaf â cherbydlu'r cyngor. Bwriedir cwblhau hyn erbyn diwedd yr haf o fewn y flwyddyn ariannol hon. Dywedwyd wrth swyddogion hefyd y bydd Cwrt Tregelles hefyd yn derbyn rhywfaint o isadeiledd cerbydau trydan gan fod yr awdurdod ar fin derbyn cerbydau trydan i gefnogi gwasanaethau'r cyngor.

 

Roedd yr aelodau hefyd am wybod pam fod yr adroddiad yn cyfeirio’n unig at y posibilrwydd o gael cerbydau trydan ar gyfer lorïau gwastraff. Trafodwyd y byddai adolygiad trafnidiaeth yn dechrau yn y flwyddyn ariannol hon, gyda chynllun 5 mlynedd o ran sut y bydd y cerbydlu’n cael ei ddatblygu a'i ehangu. Esboniodd swyddogion fod grantiau ar gael i helpu gyda'r gwahaniaeth mewn costau wrth newid o gerbydau diesel i gerbydau trydan er mwyn helpu i ddatgarboneiddio'r cerbydlu gwastraff erbyn 2030 a bod y swyddogion yn gobeithio pe bai’r cyngor yn penderfynu newid y cerbydlu gwastraff i gerbydlu trydan, y bydd Llywodraeth Cymru'n gallu cefnogi prynu cerbydau newydd ar gyfer y cerbydlu. Os na, bydd angen i'r cyngor edrych ar yr hyn sy'n fforddiadwy. Mae swyddogion wedi tynnu sylw Llywodraeth Cymru st y ffaith bod y cyngor yn adnewyddu'r rhan fwyaf o'r cerbydlu fel y gallant ystyried hyn wrth adolygu eu grantiau.

 

Yn dilyn trafodaethau, teimlai'r aelodau y dylai'r prif gerbydau a brynir fod yn gerbydau di-allyriadau er mwyn sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei dargedau amgylcheddol. Felly, cyflwynwyd y diwygiad canlynol gan y Pwyllgor Craffu i Aelodau’r Cabinet ei ystyried wrth wneud eu penderfyniad:

 

         Bod Aelodau'n cymeradwyo prynu'r cerbydau di-allyriadau yn y Rhaglen Caffael Cerbydau/Peiriannau arfaethedig ar gyfer 2023/24 fel y nodir yn atodiad A.

         Rhoi Awdurdod Dirprwyedig i'r Pennaeth Gwasanaeth mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd i brynu unrhyw gerbydau di-allyriadau er mwyn sicrhau argaeledd arian grant a all fod ar gael i gynorthwyo gyda chost prynu'r cerbydau.

         Bod prynu cerbydau sy'n cael eu pweru gan danwyddau ffosil, sydd wedi'u cynnwys yn atodiad A, ac unrhyw gerbydau ychwanegol, yn destun adroddiadau pellach i fwrdd y cabinet i'w cymeradwyo, gyda chyfiawnhad o ran pam nad oes modd prynu dewis arall heb allyriadau.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd y diwygiad uchod gan Fwrdd y Cabinet.

Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2022/2023 - Perfformiad Chwarter 3 (1 Ebrill 2022 - 31 Rhagfyr 2023)

 

Derbyniodd aelodau adroddiad Data Rheoli Perfformiad Chwarter 3 ac adroddiad Canmoliaeth a Chwynion ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Rhagfyr 2023 mewn perthynas â Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun, yn unol â'r adroddiad.

 

Nododd yr aelodau, yn dilyn cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Craffu, fod nifer o argymhellion a diwygiadau wedi’u cyflwyno i swyddogion mewn perthynas ag adrodd ar y dangosyddion perfformiad allweddol. Nodwyd nad oedd yr holl geisiadau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad oherwydd amserlenni a chasglu data. Felly, dywedwyd wrth y Pwyllgor Craffu y byddai’r wybodaeth lawn yn cael ei chynnwys yn yr adroddiadau hyn maes o law.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.