Cofnodion:
Atgoffodd Arweinydd y Cyngor y
cyngor, ar ddydd Gŵyl Dewi y llynedd, bu’r cyngor yn condemnio'r rhyfel
erchyll yn erbyn Wcráin a arweinwyd gan Vladimir Putin a Llywodraeth Rwsia.
Dywedodd fod llawer o bobl wedi
colli eu bywydau dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cymunedau cyfan wedi cael eu
difrodi gan ymosodiad Rwsia ar Wcráin ac mae llawer o bobl wedi ffoi o'u
cartrefi i ddod o hyd i fan diogel. Bu effeithiau ehangach hefyd yn deillio o
wneud ynni yn arf yn benodol, gan ychwanegu at y caledi yr oedd pobl eisoes yn
ei brofi.
Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn
falch o'r rôl y mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi'i chwarae wrth gynnig
cymorth dyngarol i Wcraniaid sydd wedi gwneud eu ffordd i'n bwrdeistref sirol
ac roedd yn falch hefyd o'r croeso cynnes a'r gefnogaeth barhaus a ddarperir
gan bobl o bob rhan o'n cymunedau.
Ychwanegodd ei fod yn falch iawn o glywed y bobl o Wcráin yn siarad am y
croeso maen nhw wedi ei gael ac yn bwysicach fyth eu bod yn teimlo'n ddiogel yma.
Gofynnwyd i'r cyngor gadarnhau eu
cefnogaeth unwaith eto i Wcráin a phobl Wcráin.
Cynhaliodd y cyngor funud o
dawelwch er mwyn talu teyrnged i'r rheini sydd wedi colli eu bywydau yn y
rhyfel ofnadwy hwn ac i'r rheini y mae Putin a Llywodraeth Rwsia'n parhau i
darfu ar eu bywydau.