Agenda item

Sefydlu Panel Cynghori mewn perthynas â'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd

Cofnodion:

Penderfyniad:

1.   Bod Cylch Gorchwyl y Panel Cynghori ar gyfer y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd fel y'i sefydlwyd gan Global Centre of Rail Excellence Ltd (GCRE) yn cael ei nodi.

 

2.   Bod y gwahoddiad i'r cyngor gan GCRE i gymryd rhan yn y rhaglen waith yn cael ei nodi.

 

3.   Bod Arweinydd y Cyngor yn cael ei gymeradwyo fel cynrychiolydd y cyngor ar Bwyllgor Cymunedol y Panel Cynghori ar gyfer y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd.

 

4.   Bod Arweinydd y Cyngor yn enwebu Aelodau amgen o'r Cabinet i fynychu Pwyllgor Cymunedol y Panel Cynghori ar gyfer y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd pe na bai'r Arweinydd yn gallu bod yn bresennol.

 

5.   Bod Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio yn cael ei gymeradwyo fel Swyddog Arweiniol y cyngor ar Bwyllgor Cymunedol y Panel Cynghori ar gyfer y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd.

 

6.   Bod Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio yn enwebu swyddog arall i fynychu Pwyllgor Cymunedol y Panel Cynghori ar gyfer y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd pe na bai'r Prif Weithredwr yn gallu bod yn bresennol.

 

7.   Bod Aelodau Ward Onllwyn, y Creunant a Blaendulais yn dod yn gynrychiolwyr ward ar gyfer y Grŵp Cydgysylltu Lleol.

 

Rheswm dros roi ar waith:

Er mwyn cyflawni canlyniadau a gwerth i'r diwydiant rheilffyrdd ac ynni wrth ffurfio cynrychiolwyr y Cyngor i'r gwahanol bwyllgorau, a sefydlwyd gan y panel cynghori.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9.00am ddydd Sul, 26 Chwefror 2023.

 

Dogfennau ategol: