Cofnodion:
Cyflwynwyd gwybodaeth i'r Aelodau am Adolygiadau
Datblygiad Personol Aelodau.
Penderfynwyd:Ar ôl rhoi
sylw dyladwy i'r ffaith nad oes angen asesiad effaith integredig, fod Pwyllgor
y Gwasanaethau Democrataidd yn:
·
Nodi'r
Cynllun Adolygiadau Datblygiad Personol Aelodau ac yn cymeradwyo y bydd Rheolwr
y Gwasanaethau Democrataidd yn cyfathrebu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
(CLlLC) a grwpiau gwleidyddol i archwilio carfan o aelodau presennol i ymgymryd
â'r hyfforddiant i gynnal Adolygiadau Datblygiad Personol Aelodau.
·
Cymeradwyo
y bydd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn cyfathrebu â'r holl Aelodau drwy
e-bost, i'w hatgoffa o'r cynllun a'u gwahodd i gwblhau Adolygiad Datblygiad
Personol os dymunant.
Dogfennau ategol: