Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Simon Knoyle, Aelod y
Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol yr adroddiad a
gafodd ei argymell i’r cyngor gan y Cabinet ar 1 Mawrth 2023.
Eglurwyd, ar dudalen 17, bod y rhif 6 ar goll o'r
frawddeg...'Gwasanaethau Hamdden a restrir yn Atodiad...' ac ar dudalen 37,
dylai 'Rheswm dros Benderfyniad Arfaethedig' ddarllen 'i benderfynu ar y
Gyllideb ar gyfer 2023/24'.
Diolchwyd i'r Prif Swyddog Cyllid, y Tîm Cyllid, y
Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwyr Corfforaethol am yr holl waith y maent wedi'i
wneud wrth ddatblygu adroddiad y gyllideb sy'n cael ei ystyried yn y cyngor
heddiw.
Eglurwyd bod y gyllideb hon wedi'i phenderfynu yn
erbyn cefndir amgylchiadau eithafol gan gynnwys chwyddiant yn rhedeg ar 10%, y
rhyfel yn Wcráin, yr argyfwng costau byw a'r cynnydd parhaus mewn costau ynni.
Ond hefyd yn erbyn prosiectau adfywio megis cyrchfan £330m Wildfox, Canolfan
Fyd-eang ar gyfer Rhagoriaeth Rheilffyrdd gwerth £400m a'r cais Porthladd Rhydd
yn ogystal â cheisiadau llwyddiannus i Gronfa Codi'r Gwastad a Ffyniant
Gyffredin Llywodraeth y DU gwerth tua £28m.
Manylwyd bod y gyllideb yn cynnwys ymrwymiad o
£4.25m i 'Lanhau a Glasu' sy'n mynd tuag at lanhau strydoedd, offer chwarae a
gwella mannau cyhoeddus. Mae'r gyllideb hefyd yn ymrwymo i ddiogelu swyddi heb
doriadau i wasanaethau sy'n cael eu cynnig.
Nodwyd bod y gyllideb yn adlewyrchu'r sefyllfa
ariannol gadarnhaol ddoeth a etifeddwyd a oedd yn caniatáu i'r gyllideb hon roi
sicrwydd i'r gweithlu, preswylwyr, cydweithwyr mewn undebau llafur ac aelodau.
Eglurwyd bod 12 sioe deithiol wyneb yn wyneb wedi'u
cynnal er mwyn ceisio ymgysylltu â chymunedau yn ogystal ag ymgysylltu â'r
cyfryngau cymdeithasol ar-lein a dosbarthwyd copïau papur traddodiadol o'r
ymgynghoriad. Rhoddwyd enghreifftiau ynghylch sut roedd yr adborth o'r ymarfer
ymgynghori wedi cael ei ystyried, er enghraifft mae'r cynnydd arfaethedig mewn
ffioedd a thaliadau wedi gostwng o'r 10% arfaethedig yn unol â chwyddiant i 5%
yn ogystal â rhoi ymestyniad 2 flynedd i'r gwasanaeth hawliau lles ar waith.
Atgoffwyd y cyngor am y gwaith parhaus mewn
partneriaeth â chydweithwyr undebau llafur i lobïo Llywodraeth Cymru am
drefniant gwell a thecach.
Manylwyd mai nod y gyllideb yw datblygu’r gwaith o
weithio tuag at bum piler allweddol:
Parhau i ganolbwyntio'n glir ar adfer o COVID-19.
Cefnogi ein Cymunedau drwy'r argyfwng Costau Byw.
Hwyluso a galluogi twf economaidd.
Cyflawni blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru.
Sicrhau cyngor cynaliadwy a sefydlog.
Er mwyn gwneud hynny, eglurwyd bod bwriad i gymryd
£3.5m o Gronfeydd Cyffredinol sy'n gadael balans o £16.2m yng Nghronfeydd Wrth
Gefn y Cyngor, yr ystyrir bod hynny'n iach. Mae'r Cynllun Ariannol Tymor
Canolig yn caniatáu i'r cronfeydd wrth gefn fod ar 4% o'r gyllideb refeniw net a
fyddai'n caniatáu i'r cronfeydd wrth gefn fod ar £14.4m ond oherwydd ansicrwydd
ynghylch prisiau ynni a materion anhysbys eraill fe'i hystyriwyd yn ddoeth cadw
arian wrth gefn a chynnig defnyddio £3.5m o'r cronfeydd wrth gefn yn unig.
4.5% oedd y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor.
Codwyd pryder ynghylch y model ymgynghori, yn
ogystal â'r diffyg manylder a gynhwysir yn y ddogfennaeth gyllidebol i fynd i'r
afael â materion fel costau ynni cynyddol, cynhyrchu incwm.
Codwyd bod angen ymchwilio i ynni adnewyddadwy a'i
ystyried fel blaenoriaeth i'r cyngor yn erbyn cefndir y costau ynni cynyddol
sy'n cael eu hwynebu.
Awgrymwyd, oherwydd difrifoldeb parhaus yr argyfwng
Costau Byw, y dylid gostwng y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor a dylid
manteisio i'r eithaf ar y defnydd o gronfeydd wrth gefn.
Yn dilyn hynny, tynnwyd sylw at y ffaith na fyddai
unrhyw ostyngiad yn Nhreth y Cyngor a lleihau cronfeydd wrth gefn cyffredinol
yn ddoeth nac yn gynaliadwy yn y dyfodol.
Argymhellwyd diwygiad i'r cyngor a chafwyd cais am
bleidlais wedi'i chofnodi yn sgîl hyn, ar y diwygiad canlynol, a gafodd y
gefnogaeth angenrheidiol yn unol â gofynion Adran 14.5 o Ran 4 o Gyfansoddiad y
Cyngor – Rheolau Gweithdrefn.
Argymhelliad 4 - O ran gosod lefelau Treth y Cyngor
ar gyfer 2023/24 gofynnir i'r cyngor gymeradwyo'r canlynol:
Bydd Treth y
Cyngor yn 2023/24 yn cynyddu 2% yn hytrach na'r 4.5% fel y nodir yn yr
adroddiad gyda'r bwlch o 2.5% yn cael ei ariannu o'r gronfa wrth gefn gyffredinol
(sy'n cynrychioli swm ychwanegol o £1.5m yn cael ei gymryd ar gyfer 2023/2024).
Felly, cyfanswm y cronfeydd wrth gefn cyffredinol i gydbwyso'r gyllideb yw £5m
h.y. £3.5m a £1.5m. Bydd yr hyn sy'n cyfateb i Fand D 2023/24 ar gyfer Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yna'n £1693.22
O blaid y diwygiad:
Cynghorwyr: A Aubrey, C Clement Williams, M
Crowley, O Davies, C Galsworthy, M Harvey, C James (Cathy), L Jones, R Jones, D
Keough, E V Latham, A Lockyer, S Grimshaw, R Mizen, S Paddison, S Penri, S
Pursey, P. Rees, S Renkes, S Reynolds, P Richards, S Thomas, D Whitelock, L
Williams, S Freeguard, S Rahaman.
Yn erbyn y diwygiad:
Cynghorwyr: T Bowen, W Carpenter, H C Clarke, A
Dacey, H Davies (Hayley), H Davies (Heath), R Davies, N Goldup-John, W Fryer
Griffiths, J Hale, S Harris, J Henton, S Hunt, J Hurley, C James (Chris), N
Jenkins, J Jones, S Jones, C Jordan, S Knoyle, C Lewis, D Lewis, A Llewellyn, K
Morris, M Peters, C Phillips, R Phillips, A Richards, P Rogers, M Spooner
Ymataliad:
Cynghorwyr: R
Wood, C Williams (Chris)
O ganlyniad i'r uchod, methodd y diwygiad a
dilynwyd cais am bleidlais wedi'i chofnodi, ar yr argymhelliad sylweddol a geir
yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, a gafodd y gefnogaeth angenrheidiol yn unol â
gofynion Adran 14.5 o Ran 4 o Gyfansoddiad y Cyngor – Rheolau Gweithdrefn.
O blaid yr argymhelliad:
Cynghorwyr: T Bowen, W Carpenter, H C Clarke, A
Dacey, H Davies (Hayley), H Davies (Heath), R Davies, N Goldup-John, W Fryer
Griffiths, J Hale, S Harris, J Henton, S Hunt, J Hurley, C James (Chris), N
Jenkins, J Jones, S Jones, C Jordan, S Knoyle, C Lewis, D Lewis, A Llewellyn, K
Morris, M Peters, C Phillips, R Phillips, A Richards, P Rogers, M Spooner
Yn erbyn yr argymhelliad:
Cynghorwyr: A Aubrey, C Clement Williams, M
Crowley, O Davies, C Galsworthy, M Harvey, C James (Cathy), L Jones, R Jones, D
Keough, E V Latham, A Lockyer, S Grimshaw, R Mizen, S Paddison, S Penri, S.
Pursey, P Rees, S Renkes, S Reynolds, P Richards, S Thomas, D Whitelock, L
Williams, S Freeguard, S Rahaman.
Ymataliad:
Cynghorwyr: R
Wood, C Williams (Chris)
PENDERFYNWYD:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig:
1. Cymeradwyo cynigion a
threfniadau'r gyllideb refeniw yn unol ag atodiad 1 yr adroddiad ar gyfer
2023/2024.
2. a) Dirprwyo'r materion canlynol i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol priodol yn
dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, yr Aelod Cabinet perthnasol a
Chadeirydd y Pwyllgor Craffu perthnasol:-
-Ffïoedd a thaliadau (Swyddogaethau Gweithredol), sy'n berthnasol ar gyfer
blwyddyn ariannol 2023/2024
-Ffïoedd a Thaliadau (Swyddogaethau Gweithredol) sy'n berthnasol ar gyfer
unrhyw flwyddyn ariannol ddilynol ac, ym marn y Cyfarwyddwr Corfforaethol perthnasol,
y mae angen penderfynu arnynt cyn y flwyddyn ariannol am resymau gweithredol.
b) Dirprwyir y materion
canlynol i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol priodol yn dilyn ymgynghoriad ag
Arweinydd y Cyngor, y Dirprwy Arweinydd a phwyllgor anweithredol perthnasol
- Ffïoedd a Thaliadau
(Swyddogaethau Anweithredol) sy'n berthnasol ar gyfer 2023/24
- Ffïoedd a thaliadau sy'n
berthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol ddilynol ac, ym marn y Cyfarwyddwr
Corfforaethol, y mae angen penderfynu arnynt cyn y flwyddyn ariannol am resymau
gweithredol.
3.
Rhoi'r awdurdod i'r Prif
Swyddog Cyllid, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr Arweinydd ac Aelod y
Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol wneud unrhyw
welliant angenrheidiol drwy ddefnyddio cronfeydd wrth gefn cyffredinol o
ganlyniad i unrhyw amrywiad rhwng taliad terfynol Llywodraeth Cymru a'r taliad
dros dro.
4.
Bydd Treth y Cyngor 2023/2024
yn cynyddu 4.5% ac fe fydd y Band D cyfatebol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol
Castell-nedd Port Talbot yn £1,734.72
Dogfennau ategol: