Agenda item

Cwestiynau gan Aelodau, gyda Hysbysiad, dan Reol 9.2 Rheolau Gweithdrefnau'r Cyngor

Cofnodion:

Gwahoddodd y Maer y Cynghorydd Clement Williams i ofyn cwestiwn, a gyflwynwyd dan Reol 9.2 Rheolau Gweithdrefn y Cyngor.

 

Gofynnodd y Cyng. Clement Williams,

 

"Mae ein Grŵp Llafur o’r farn nad yw'r Cynigion Cyllideb sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd yn cyflwyno cyllideb gytbwys. Nid oes unrhyw dablau incwm a gwariant ac rydym yn pryderu bod dogfennaeth y gyllideb yn sylfaenol iawn ac yn brin o fanylion manwl.

 

Yn ystod cyfarfod craffu'r Cabinet mynegodd y Grŵp Llafur bryderon am y diffyg manylion, a chawsant ein sicrhau gan Swyddogion y byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei hychwanegu a'i hanfon gyda'r ddogfen ymgynghori. Nid yw hyn wedi digwydd.

 

Felly gofynnwn y cwestiwn canlynol: Gan fod yr ymgynghoriad eisoes wedi dechrau ac yn dod i ben ar 10 Chwefror, dylai'r cyngor ddarparu a rhyddhau'r wybodaeth hon erbyn diwedd y flwyddyn fel y gall preswylwyr sy'n ymateb i'r ymgynghoriad gael cyfle i ddweud eu dweud ar yr hyn y mae'r gyllideb yn ei golygu i'w gwasanaethau."

 

Ymatebodd y Cyng. Simon Knoyle (Aelod y Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol) a nododd fod 'fideo esbonio'r gyllideb' wedi cael ei gynhyrchu a'i lanlwytho ar wefan y cyngor, a'i fod wedi cael ei hyrwyddo ar sianeli cyfryngau cymdeithasol ac mae copi caled hefyd yn cael ei gynhyrchu a'i ddosbarthu.

 

Nododd fod sesiynau briffio cyllidebol wyneb yn wyneb a hybrid yn parhau o hyd fel rhan o'r cynllun cyfathrebiadau, a'u bod wedi cael eu rhannu ag aelodau'r pwyllgor craffu. Adroddodd y Cabinet fod yr adroddiad ar 19 Ionawr 2023 yn dangos cyllideb gytbwys, y mae'n ofynnol i'r cyngor ei chyhoeddi yn ôl y gyfraith, sy'n ffurfio sylfaen y ddogfen ymgynghori, ynghyd â dadansoddiad manwl o'r risgiau mewn perthynas â'r strategaeth gyllideb arfaethedig. Mae'r dogfennau hyn hefyd wedi cael eu cyflwyno i bob pwyllgor craffu er mwyn caniatáu ar gyfer cymaint o gyfranogaeth aelodau â phosib.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Clement Williams gyda phryderon am gymorthdaliadau a ffioedd a thaliadau sy'n benodol i'r gyllideb, nad oedd yn meddwl eu bod wedi'u cynnwys yn fanwl yn nogfennaeth ymgynghori'r gyllideb. Pwysleisiodd y pryder ynghylch y diffyg manylion a sut mae dogfennaeth y gyllideb yn cyfeirio at benderfyniadau dirprwyedig mewn perthynas â ffioedd a thaliadau.

 

Eglurodd y Maer y broses ar gyfer gofyn cwestiwn dan reol 9.2 a daeth â'r cwestiynau i ben.