Cofnodion:
Gyda
thristwch mawr cyhoeddodd y Maer farwolaeth ddiweddar Clare Drakeford, gwraig
Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford. Fel
arwydd o barch, cafwyd munud o ddistawrwydd yng nghyfarfod y cyngor.
Gwahoddodd
y Maer Arweinydd y Cyngor i roi datganiad. Nododd yr Arweinydd fod y cyngor
wedi bod yn llwyddiannus yn ei gais am £17.7 miliwn o Gronfa Codi'r Gwastad
Llywodraeth y DU.
Esboniodd
sut byddai'r cyllid yn caniatáu i Gwm Nedd gael ei sefydlu fel cyrchfan
treftadaeth ac amgylchedd naturiol mawr i ymwelwyr. Llongyfarchwyd staff ar y
gwaith a wnaed i gyflwyno'r cais llwyddiannus.