Agenda item

Cyllideb ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2023/24

Cofnodion:

Darparodd y Prif Weithredwr drosolwg byr o'r gyllideb, gan ddarparu manylion am ffocws presennol y gyllideb yn ogystal â'r ffocws yn y dyfodol dros y 12 mis nesaf. Darparodd Swyddog Adran 151 fanylion am gefndir gosod y gyllideb.

 

Nododd aelodau'r gwall canlynol o fewn yr agenda/adroddiad:

 

·        Ar dudalen 2 o becyn yr agenda, dylai'r dyddiad darllen '20 Ionawr 2023' ac nid '20 Mawrth 2023' fel a nodwyd.

·        Ar dudalen 8 yr adroddiad, paragraff 2.4, nodwyd y dylai'r ffigwr ddarllen 140,000 ac nid 140,0000.

 

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch cyllid y DU a Llywodraeth Cymru a oedd ar gael. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch lleoliad yr arian hwn ac a oedd yn cael ei gynnwys o fewn Cyllideb y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Cadarnhawyd nad oedd o fewn Cyllideb y Cyd-bwyllgor Corfforedig ac roedd yn rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac roedd yn eistedd o fewn awdurdodau unigol. Tynnwyd sylw'r pwyllgor at y ffaith mai pwrpas yr wybodaeth am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw rhoi gwybod i aelodau bod arian ar gael i helpu i gefnogi prosiectau penodol.

 

Darparwyd esboniadau ynghylch cymhlethdodau technegol sydd wedi codi gan fod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn endid ar ei ben ei hunain ac mae angen pwerau Adran 33 arno. Nodwyd bod goblygiadau TAW yn ogystal â phroblemau technegol eraill o fewn Adran 150. Nodwyd bod swyddogion yn hapus i ddarparu adroddiad ar hyn yn y dyfodol gan ddarparu rhagor o fanylion.

 

Holodd aelodau am y gyllideb £617,753 a gofynnodd beth fyddai diben a chanlyniadau'r arian hwn gan fod y prif fanylion am y gwariant yn benodol ynghylch dyletswyddau gweinyddiaeth. Esboniodd swyddogion fod y flwyddyn gyntaf yn benodol ar gyfer sefydlu endid y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn unol â'r gofynion cyfreithiol, sy'n costio. Nodwyd bod Llywodraeth Cymru'n awyddus i weithio ar y cyd, yn benodol yn y meysydd canlynol - Trafnidiaeth, Cynllunio, Datblygiad Economaidd ac Ynni. Nodwyd bod llawer o weinyddiaeth yn rhan o hyn, fodd bynnag, nid yw'r holl waith o fewn y gyllideb yn weinyddol.

 

Roedd aelodau'n ymwybodol bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn endid ar ei ben ei hunain, byddai o fewn cylch gwaith Swyddfa Archwilio Cymru fel corff ar wahân i sicrhau bod llywodraethu a gwerth am arian y gyllideb yn cael eu penderfynu'n briodol. Felly, gofynnodd aelodau am eglurder ynghylch y Swyddfa Rheoli Rhanbarthol oherwydd nodwyd ffigurau'r gyllideb fel amcangyfrif o gostau ac roedd angen sicrwydd nad oedd unrhyw botensial i'r costau hyn gynyddu. Darparodd swyddogion sicrwydd i aelodau ac esboniwyd bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn ifanc iawn ac roedd gwaith y Grŵp Rheoli Rhanbarthol yn cael eu penderfynu o hyd. Rhoddwyd sicrwydd i aelodau byddai'r costau ar gyfer y Swyddfa Rheoli Rhanbarthol yn cael eu rheoli a'u cadw o fewn y costau.

 

Nodwyd y byddai Craffu yn derbyn adroddiadau monitro'r Gyllideb yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gweld unrhyw gostau yn ystod y flwyddyn galendr nesaf.

 

Rhoddodd swyddogion sicrwydd i aelodau ynghylch taliadau'r Prif Weithredwr a nodwyd o fewn y gyllideb. Nodwyd bod y taliadau hyn ar gyfer yr adran ac nad oeddent yn daliadau cyflog ar gyfer y Prif Weithredwyr.

 

Holodd aelodau am y penderfyniad a gefnogwyd gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig ynghylch opsiwn 2 - 'Gwneud Cyn Lleied â Phosib' a holodd am yr heriau y byddai'r Cyd-bwyllgor Corfforedig wedi mynd i'r afael â nhw os rhoddwyd ystyriaeth i ddewis yr opsiwn o atal holl weithgareddau'r CBC yn ystod 2023-24. Nodwyd y byddai hyn yn arwain at oblygiadau cyfreithiol a llywodraethu niweidiol. Felly, yr opsiwn 'Gwneud Cyn Lleied â Phosib' oedd yr opsiwn gorau i'w ystyried er mwyn bodloni dyletswyddau cyfreithiol a bodloni'r gyllideb ariannol.

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch ymgynghoriad y gyllideb, nodwyd bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cytuno nad oedd unrhyw ofyniad ffurfiol ar gyfer ymgynghori ar y Gyllideb. Cadarnhaodd swyddogion yr ymgynghorwyd â rhanddeiliaid allweddol a swyddogion Adran 151 o fewn yr awdurdodau unigol, fodd bynnag, penderfynwyd nad oedd angen ymgynghoriad cyhoeddus. Nodwyd bod y gyllideb ddrafft a'r gyllideb y cytunwyd arni wedi cael eu trafod yn ystod cyfarfodydd cyhoeddus sy'n golygu bod y cyhoedd yn gallu cyflwyno unrhyw gyflwyniad pe dymunent. Nodwyd hefyd yn y dyfodol byddai gan y Pwyllgor Craffu gyfle i graffu ar y gyllideb cyn i'r penderfyniad gael ei wneud. Cymeradwyodd y Pwyllgor Craffu'r ymagwedd hon a chyflwynwyd eu hoffter o graffu cyn penderfyniad ar gyfer pob cyfarfod.

 

Trafododd yr aelodau beth fyddai'r broses ynghylch sicrhau bod cyhoeddusrwydd yn weladwy ynghylch ymgynghoriad y Cynllun Corfforaethol. Hefyd, gofynnwyd am esboniad ynghylch manylion y prosiectau o fewn y Cynllun Corfforaethol gan dynnu sylw at y manylion rhanbarthol y mae'r CBC wedi'u cymeradwyo. Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn hapus i gynnwys hyn o fewn y cyfarfod nesaf lle cynhwyswyd y Cynllun Corfforaethol yn y Blaenraglen Waith.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: