Cofnodion:
Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn gofyn i Aelodau gytuno a gosod cyllideb Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.
Eglurwyd mai
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru oedd yn gyfrifol am osod ei gyllideb
a chytuno ar yr ardoll i awdurdodau cyfansoddol; roedd yn rhaid gosod a chytuno
ar hyn cyn 31 Ionawr 2023.
Yng nghyfarfod olaf
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2022,
cyflwynwyd adroddiad drafft i'r Aelodau ar y gyllideb ar gyfer 2023/24; yn
ogystal â rhoi arwydd cynnar i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig ei hun, roedd hefyd
yn caniatáu i Swyddogion roi arwyddion i'r awdurdodau cyfansoddol, at eu
dibenion cyllidebu eu hunain, yn enwedig o ran yr ardoll. Yn ystod y cyfarfod,
ystyriodd y Pwyllgor dri opsiwn; gan ystyried y pwysau a'r heriau ariannol
sylweddol roedd pob awdurdod lleol yn eu hwynebu.
·
Yr opsiwn cyntaf oedd cytuno i
flaenoriaethu gwaith Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a gosod ardoll
yn unol â hynny; gyda chyllideb o tua £1.5 miliwn;
·
Opsiwn arall a ystyriwyd oedd
atal holl weithgareddau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru; byddai hyn
wedi dwyn her gyfreithiol heb gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru;
·
Yr opsiwn y cytunodd y
Pwyllgor arno oedd gwneud cyn lleied â phosib yn 2023/24 a lleihau maint y
gyllideb, gyda gwaith cyfyngedig yn cael ei wneud ym mhob un o'r ffrydiau
gwaith; byddai hyn yn caniatáu i gynnydd gael ei wneud ar bob un o'r pedair
ffrwd waith, fodd bynnag mewn modd llawer arafach.
Eglurwyd bod yr
adroddiad a ddosbarthwyd yn adlewyrchu'r opsiwn a ddewiswyd i wneud y lleiaf
posib, ac roedd yn aildrefnu rhai o'r cyllidebau yn unol â hynny. Ychwanegodd
Swyddogion fod y gyllideb arfaethedig yn cyd-fynd â'r gyllideb a osodwyd ar
gyfer y flwyddyn bresennol; gosodwyd hyn ar oddeutu £575,000, a gosodwyd y
gyllideb arfaethedig ar gyfer 2023/24 ar oddeutu £617,000. Hysbyswyd yr Aelodau
fod pedair ffrwd waith clir o'r Cyd-bwyllgor Corfforedig, a bod swm gwerth
£20,000 wedi'i ddyrannu i bob un; roedd yr adroddiad yn nodi bod £140,000 hefyd
wedi ei neilltuo ar gyfer cynllunio a rheoli rhaglenni, a fyddai'n cynnwys
gwaith ar y Cynllun Corfforaethol, a nodi'r camau a'r mesurau amrywiol y mae
angen eu datblygu drwy hynny.
Cyfeiriwyd at y camau
allweddol, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, ar gyfer yr
Is-Bwyllgorau; mae'r gweithredoedd yn nodi'n glir rai o'r syniadau cychwynnol
ar y gwaith y bydd angen ei wneud.
Daethpwyd i'r casgliad
na fyddai Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn derbyn ardoll ar gyfer blwyddyn
ariannol 2023/24, gan nad oedd gwerth £20,000 yn cael ei ystyried yn ddigon
sylweddol i weithredu ardoll. Yn ogystal, nodwyd bod gofyniad yn y
ddeddfwriaeth, o ran Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, mai ar gyfer eu hardal
berthnasol yn unig y byddai ardoll yn cael ei chodi, sef cynllunio strategol.
Cadarnhaodd Swyddogion y byddai'r trefniant yma'n gyson â chyllideb y llynedd,
oherwydd y gweithgarwch cyfyngedig o ran y datblygiad cynllunio strategol.
Roedd yr Aelodau'n
ymwybodol o gamgymeriad swm ar adran 2.4 o'r adroddiad a ddosbarthwyd; Dylai'r
ffigur ddarllen £140,000.
Hysbyswyd y Pwyllgor
fod y gyllideb wedi'i rhannu'n dair elfen allweddol, rhoddodd y Swyddog Adran
151 drosolwg byr o'r elfennau hyn:
·
Cyd-bwyllgor a Phwyllgor y
Corff Atebol – costau amcangyfrifedig o oddeutu £263,000
·
Is-bwyllgorau – costau
amcangyfrifedig o oddeutu £220,000
·
Swyddfa Rheoli Rhanbarthol – costau amcangyfrifedig o oddeutu £134,000
Yn dilyn yr uchod,
amlygwyd y byddai cyfanswm y gyllideb o £617,000 yn cael ei rannu rhwng y
pedwar awdurdod lleol; roedd y dyraniad yn seiliedig ar faint y boblogaeth, sef
yr un broses o ddyrannu ers pennu cyllideb y llynedd. Soniwyd y gellid dod o
hyd i ardoll yr awdurdod lleol yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd atodiad B yr
adroddiad a ddosbarthwyd yn cynnwys crynodeb o weithgareddau allweddol
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, y disgwyliai Swyddogion wneud
cynnydd arnynt yn seiliedig ar y gyllideb a gynigiwyd ar gyfer 2023/24; byddai
rhagor o fanylion ynghylch y gweithgareddau hyn yn cael eu cynnwys yn y Cynllun
Corfforaethol, gan gynnwys amserlenni a chanlyniadau.
Cynhaliwyd trafodaeth
o ran y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh), yr oedd arweinwyr wedi nodi yn
y gorffennol eu bod am ei flaenoriaethu dros y 12 mis nesaf. Eglurwyd bod
swyddogion wedi atgoffa Llywodraeth Cymru cyn cyfnod y Nadolig eu bod eto i
gyhoeddi unrhyw ganllawiau ffurfiol ynghylch y CTRh na'r Cynllun Datblygu
Strategol (CDS); yn dilyn hyn, cadarnhawyd bod canllawiau drafft ar y CTRh wedi
eu derbyn. Hysbyswyd yr Aelodau fod pryderon yn cael eu codi, ledled Cymru,
mewn perthynas â chostau'r CTRh a'r CDS; byddai'n bwysig parhau i drafod gyda
Llywodraeth Cymru er mwyn nodi pwy fydd yn rhoi adnoddau ar gyfer y gwaith
sylweddol hwn.
O ran y CDS, nodwyd
bod y llawlyfr drafft gyda gweithwyr proffesiynol er mwyn iddynt gyflwyno
sylwadau ar hyn o bryd; nid oedd y gwaith yma'n debygol o wneud cynnydd
sylweddol dros y flwyddyn nesaf oherwydd y pwysau ar adnoddau dynol ac
ariannol. Amlygwyd y byddai'r ffocws ar dderbyn y sylwadau ar y llawlyfr
drafft, a chael trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch ariannu'r gwaith
hwn yn y dyfodol.
Rhoddwyd rhagor o
wybodaeth i'r Aelodau am y gwaith oedd ar y gweill yn y rhanbarth o ran
datblygiad economaidd. Eglurwyd y bydd Swyddogion yn mapio'r gweithgarwch hwn,
ac yn darparu'r manylion mewn cyfarfod y Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin
Cymru yn y dyfodol. Ychwanegwyd y bydd rhai elfennau o'r gwaith hwn yn cael eu
cynnwys yn y Cynllun Corfforaethol, gan gynnwys yr isadeiledd datblygu
economaidd ar draws y rhanbarth y gellid ei ddatblygu a'i symud ymlaen dros y
flwyddyn nesaf.
Soniwyd, ochr yn ochr
â'r gwaith yn ymwneud â chyfleoedd datblygu economaidd, fod Swyddogion Cyngor
Sir Penfro yn arwain gwaith ar y Cynllun Ynni Rhanbarthol i nodi sut y gellid
paratoi hyn a'i roi ar waith; roedd hyn yn cynnwys cefnogi awdurdodau lleol
unigol gyda'u Cynlluniau Ynni Lleol eu hunain.
Tynnodd Swyddogion
sylw at y ffaith y bydd angen mireinio'r trefniadau llywodraethu dros y 12 mis
nesaf, ond byddai'r gwaith yn ymwneud â hyn yn llawer llai na'r flwyddyn
flaenorol; byddai ffocws ar wreiddio llywodraethu a defnyddio'r strwythurau
oedd ar waith.
Diolchwyd i bawb a
fu'n rhan o ddatblygu'r gwaith, o ran y broses o bennu'r gyllideb.
PENDERFYNWYD:
Y bydd Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-Orllewin Cymru yn:
·
Ystyried a chymeradwyo
gofyniad y gyllideb ar gyfer y Cyd-bwyllgor fel £617,753 - fel y nodir yn
Atodiad A o'r adroddiad a ddosbarthwyd;
·
Cymeradwyo'r ardoll yn
seiliedig ar boblogaeth i'r awdurdodau cyfansoddol fel a ganlyn:
Ardoll yr Awdurdod
Lleol |
|
Cyngor Dinas a Sir
Abertawe (Ardoll) |
215,203 |
Cyngor Sir
Caerfyrddin (Ardoll) |
165,898 |
CBS Castell-nedd Port
Talbot (Ardoll) |
126,022 |
Cyngor Sir Penfro
(Ardoll) |
110,630 |
|
617,753 |
·
Cymeradwyo crynodeb camau
allweddol yr Is-Bwyllgor a nodir yn Atodiad B yr adroddiad a ddosbarthwyd; a
bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Prif Weithredwr i ymhelaethu ar y
rhain fel rhan o'r broses o nodi'r amcanion lles, camau gweithredu/mesurau i'w
cynnwys yn y Cynllun Corfforaethol Drafft
Dogfennau ategol: