Agenda item

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Cymeradwyo Prosiectau Angori Strategol (Yn Eithriedig o dan Baragraff 14.)

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

1.   Fod pum prosiect 'angori' strategol Castell-nedd Port Talbot, fel y nodwyd yn yr adroddiad a gylchredwyd, yn cael eu cymeradwyo a'u hariannu gan ddyraniad Castell-nedd Port Talbot o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.  Bod y gwaith o gyflwyno'r prosiectau 'angori' strategol hyn yn cychwyn cyn bod y Cytundeb Lefel Gwasanaeth Rhwng Awdurdodau Lleol yn cael ei gwblhau.

 

2.   Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog Cyllid, yr Arweinydd a'r Aelodau Cabinet perthnasol i:

 

a)   Gytuno ar feini prawf trydydd parti a chymeradwyo dyfarniadau grant trydydd parti drwy gynlluniau grant Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU gydag adroddiadau rheolaidd yn cael eu rhoi i'r Cabinet:

 

b)   Cytuno ar unrhyw newidiadau angenrheidiol i brosiectau i ganiatáu hyblygrwydd i addasu i heriau a chyfleoedd, gydag adroddiadau rheolaidd yn cael eu rhoi i'r Cabinet:

 

c)   Cytuno i lansio galwad agored am brosiectau dan y blaenoriaethau Sgiliau a Lluosi a thargedu'r meysydd hynny o'r  Cynllun Buddsoddi nad ydynt yn cael eu cyflawni drwy'r prosiectau 'angori' strategol (fel y nodwyd ar Dudalen 61, Eitem 4 yr Agenda, adran 'Rhoi ar Waith' yr adroddiad hwn) gydag adroddiadau rheolaidd yn cael eu rhoi i'r Cabinet:

 

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Galluogi Castell-nedd Port Talbot i roi Cynllun Gweithredu Cronfa Ffyniant Gyffredin y Du ar waith a dechrau cyflwyno prosiectau.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod sy'n dod i ben am 9am ddydd Llun, 23 Ionawr 2023.

 

Dogfennau ategol: