Agenda item

Adsefydlu Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Ionawr 2023

Cofnodion:

 

 

 

Rhoddodd swyddogion y diweddaraf i aelodau mewn perthynas ag Ailsefydlu Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid.

 

Gofynnodd yr aelodau pwy oedd yn ariannu'r Groes Goch Brydeinig. Esboniodd swyddogion fod y Groes Goch Brydeinig wedi'u comisiynu i ddarparu cefnogaeth gyfeiriadaeth benodol iawn i deuluoedd o Afghanistan ac fe gafodd hynny ei hariannu gan dariff o'r Swyddfa Gartref.

 

Cyfeiriodd aelodau at y cwmni Clear Springs a chyfeiriodd at dri eiddo ar gyfer llety i deuluoedd. Gofynnodd yr aelodau i’r swyddogion a oedd yr eiddo yn ychwanegol at y tri eiddo sydd eisoes yn eu lle. Esboniodd y swyddogion fod y tri theulu o Afghanistan wedi cyrraedd a'u bod yn rhan o raglen ailsefydlu ffoaduriaid, a oedd yn gwbl wahanol i'r llwybr gwasgaru ceiswyr lloches. Roedd gan geiswyr lloches a ffoaduriaid ddiffiniad cyfreithiol gwahanol. Contractwyd Clear Springs gan y Swyddfa Gartref i ddod o hyd i lety cychwynnol ar gyfer ceiswyr lloches. Nid oedd gan swyddogion fanylion ynghylch beth allai'r cenedligrwydd fod ac ni fyddant yn gwybod nes i'r eiddo gael ei gaffael.

 

Gofynnodd aelodau, mewn perthynas â'r cynllun noddi fisa i gartrefu Wcreiniaid, beth fyddai'n digwydd os nad yw'r berthynas rhwng y teulu Wcreinaidd a'r teulu sy'n eu lletya yn mynd yn dda iawn ar ôl ychydig wythnosau neu ychydig fisoedd, a fyddai'r awdurdod lleol yn ymyrryd. Eglurodd swyddogion o dan raglen Cynllun Teuluoedd Wcráin, mae gan y bobl sy'n cyrraedd gyda'u fisas naill ai drwy’r cynllun Cartrefi i Wcráin neu’r cynllun noddi fisa teulu yr holl hawliau i dai, addysg a budd-daliadau felly, pe bai'r berthynas yn chwalu gallent gyflwyno'u hunain i'r gwasanaeth opsiynau tai a fyddai'n gorfod darparu cyngor neu lety dros dro.

Soniodd swyddogion fod yr adroddiad yn darparu eglurhad bras am y plant sy’n ceisio lloches sydd ar eu pennau eu hunain a’r problemau a oedd ganddynt gyda dull gwasgaru’r Swyddfa Gartref. Er bod swyddogion wedi gweithio'n dda gyda Llywodraeth Cymru, nid oedd y berthynas mor gryf â'r Swyddfa Gartref lle bu'n rhaid i swyddogion ysgrifennu at y Swyddfa Gartref yn nodi bod problemau o ran diogelu a'r ffordd yr oeddent yn cyflawni eu cyfrifoldebau. Awgrymodd swyddogion y gallai'r pwyllgor ddymuno adroddiad pellach mewn perthynas â'r Swyddfa Gartref. Roedd yr aelodau'n hapus gyda'r awgrym hwn.

 

Gofynnodd yr aelodau mewn perthynas â Clear Springs, pa fewnbwn a oedd ganddynt o ran monitro ansawdd y llety yr oedd y cwmni'n ei ddyrannu. Esboniodd swyddogion o dan y Llwybr Gwasgaru Ceiswyr Lloches fod gan Clear Springs broses lle maent yn ymgynghori â'r awdurdod lleol ar ddarpar eiddo y maent yn gobeithio ei gaffael, byddent yn anfon y manylion at swyddogion ac yna’n ymgynghori â chydweithwyr ar draws yr awdurdod lleol a fyddai'n cynnwys Addysg, Diogelu, Tai ac Iechyd yr Amgylchedd. Mae swyddogion hefyd yn ymgynghori â Heddlu De Cymru, y Bwrdd Iechyd, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i glywed eu barn nhw hefyd. Mae’n rhaid dychwelyd y ffurflen o fewn pum niwrnod ac o fewn y ffurflen honno, gallai swyddogion nodi a oeddent yn gefnogol o'r eiddo sy'n cael ei ddefnyddio ai peidio.

Gallai'r Swyddfa Gartref a Clear Springs herio hynny ac roeddent eisoes wedi gwthio’n ôl yn erbyn un eiddo y codwyd pryderon yn ei gylch ar ran Heddlu De Cymru.

Gofynnodd yr aelodau am ddiweddariad mewn perthynas â'r sefyllfa o ran y gweithdrefnau gorfodi mewn perthynas â thai ac awgrymwyd efallai y dylid ysgrifennu at y Gweinidog i gael mwy o eglurder. Esboniodd swyddogion eu bod yn rhoi sicrwydd y byddai'r eiddo mewn cyflwr da oherwydd bod y cwmni wedi cael beirniadaeth yn y gorffennol am ansawdd eu llety. Cytunodd swyddogion i ddod â diweddariad yn ôl i'r Pwyllgor.

 

 

 

Dogfennau ategol: