Change
of use of vacant industrial floorspace (use class B2) to provide a first floor
gym (use class D2) and ground floor cafe use at CG Building, Milland Road
Industrial Estate, Neath SA11 1NJ.
Cofnodion:
Darparodd Swyddogion gyflwyniad i’r Pwyllgor
Cynllunio ar y cais hwn,
(cais i
newid defnydd arwynebedd llawr diwydiannol gwag (Dosbarth Defnydd B2) er mwyn
darparu campfa ar y llawr cyntaf (Dosbarth Defnydd D2) a chaffi ar y llawr
gwaelod) yn adeilad JCG, Ystad Ddiwydiannol Heol Milland, Castell-nedd, fel y
nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd yr Aelodau Ward Lleol wedi gofyn am i’r cais
gael ei benderfynu gan y Pwyllgor ac roeddent yn bresennol i roi eu sylwadau yn
y cyfarfod.
Yn unol â phrotocol siarad cyhoeddus cymeradwy’r
cyngor, anerchwyd y Pwyllgor Cynllunio gan gynrychiolydd yr ymgeisydd i
gefnogi’r cais.
PENDERFYNWYD: Gwrthod cais rhif P2022/0608 yn unol ag
argymhellion Swyddogion, oherwydd y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
Dogfennau ategol: