Cofnodion:
Darparwyd
cyflwyniad i'r aelodau yn amlinellu'r prosiect.
Mae'r prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn
un o naw prosiect Bargen Ddinesig, ac yn un o dri phrosiect rhanbarthol sy'n
cynnwys y pedwar awdurdod lleol. Nod y prosiect yw hwyluso'r broses o fabwysiadu
cartrefi a chanddynt ddyluniad ynni effeithlon a thechnolegau adnewyddadwy
integredig, mewn cartrefi newydd a stoc bresennol.
Mae'r
amcanion buddsoddi'n cynnwys gwneud 10,300 o gartrefi'n addas ar gyfer y
dyfodol drwy gynyddu gwres fforddiadwy, lleihau tlodi tanwydd, gwella iechyd a
lles a chyflwyno rhaglen dai sy'n gynaliadwy, yn gost effeithlon ac yn
gyfannol.
Amlinellwyd
y ffrydiau gwaith amrywiol i'r aelodau, gan gynnwys cronfa cymhellion ariannol
o £5.75 miliwn, cronfa cadwyn gyflenwi ranbarthol o £7 miliwn a chontract
monitro a gwerthuso technegol o £1 miliwn. Yn ychwanegol, er nad oes unrhyw
gyllideb yn atodedig, mae hefyd ffrwd sgiliau y bydd ganddi'r gallu i osod,
cynnal a chadw ac atgyweirio technoleg.
Amlinellodd swyddogion yr argymhellion o'r
Adolygiad Asesiad Prosiect (AAP) a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf. Amlinellodd y
tîm asesu sgôr gyflawni/hyder o ambr/coch. Cafwyd chwe argymhelliad mewn ymateb
i'r adolygiad. Ym mis Tachwedd, daeth y tîm adolygu i asesu'r camau gweithredu
a roddwyd ar waith mewn ymateb i'r argymhellion. Roedd yr adolygiad yn dangos
asesiad cyflawni/hyder ambr. Roedd dau o'r argymhellion yn parhau fel thema o hyd, ac roedd pedwar wedi'u marcio
fel argymhellion a roddwyd ar waith.
Gofynnodd
yr aelodau a oedd y ffigurau mewn perthynas â nifer y cartrefi'n realistig.
Cynghorodd swyddogion y darparwyd y ffigurau gan yr awdurdodau lleol dan sylw
a'u bod wedi'u cymryd o'r Cynlluniau Datblygu Lleol, fel bod fformiwla y tu ôl
iddynt.
Nodwyd
bod swyddi a grëwyd, fel a nodwyd ar y dangosfwrdd yn ymwneud â chyfanswm y
swyddi a grëwyd o ganlyniad i'r prosiect yn ei gyfanrwydd ac nid yw'n benodol i
rôl y tîm yn unig.
Nid
oedd swyddogion yn gallu darparu ffigur go iawn ar gyfer nifer y tai a oedd
wedi cael eu hadeiladu neu eu hôl-osod fel rhan o'r prosiect. Mae hyn yn rhan o'r broses fapio ar hyn o
bryd. Mae awdurdodau lleol ar gamau gwahanol o'u datblygiadau. Cadarnhawyd gan
swyddogion nad yw'r prosiect ei hun yn adeiladu cartrefi newydd, ond yn
hwyluso'r gwaith o osod y technolegau newydd yn y cartrefi.
Amlinellodd
swyddogion y pwysigrwydd o rannu gwybodaeth ac arfer da, gan gynnwys unrhyw
gamgymeriadau a wnaed, ar draws y prosiect. Gan gynnwys yn y sector cyhoeddus a
phreifat o ran newid ymddygiadol. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu’r newid
cadarnhaol yn gynt. Bydd yn sicrhau bod yr adeiledd tai yn cael ei ddiweddaru
a'i wella mor gyflym â phosib i wella ansawdd y safonau tai ar draws y bwrdd, a
mynd i'r afael â thlodi tanwydd.
Holodd
yr aelodau a fyddai'r cynnydd presennol mewn chwyddiant yn effeithio ar nifer
cyffredinol yr eiddo y gellir eu datblygu drwy'r prosiect. Nid oedd swyddogion
yn gallu cadarnhau hyn.
Roedd
swyddogion yn cydnabod y bydd yn cymryd amser i ddatblygu gweithlu medrus sy'n
gallu cyfrannu at gyflawni nodau’r prosiect.
Cadarnhaodd
swyddogion, ar hyn y bryd oherwydd y cynnydd mewn costau cyffredinol, roedd yn
debygol y byddai llai yn cael ei gyflawni am yr un costau.
Holodd
yr aelodau am y cydberthynas rhwng y rhybudd coch a nodwyd ar yr asesiad risg
ar gyfer tanwariant, a'r costau adeiladu cynyddol. Cadarnhaodd swyddogion fod y
tanwariant yn oedi'r gwaith cyflawni. O ganlyniad, bydd yn rhaid i'r awdurdod
fenthyca llai er mwyn cyflawni prosiectau gan eu bod wedi gwneud mwy o gynnydd
na'r disgwyl. Byddai hyn yn cael effaith gadarnhaol. Cynghorodd swyddogion nad
oes modd ymrwymo i gontractau pan nad oes sicrwydd ynghylch y costau adeiladu.
Gofynnodd
yr aelodau am ymweliad safle â'r cartrefi i weld sut y gwnaed y gwaith.
Dogfennau ategol: