Agenda item

Ystyried opsiynau mewn perthynas â chyllideb 2023/2024

Cofnodion:

Ailddatganodd O Enoch ei fudd wrth adael y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon yn unig.  

Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi nifer o opsiynau cyllideb i'w hystyried ar gyfer y flwyddyn 2023/24, ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru; byddai angen i'r Aelodau ystyried sut y byddai'r Pwyllgor yn datblygu'r llwyth gwaith sylweddol o fewn y gwahanol ffrydiau gwaith wrth symud ymlaen.

Cyfeiriodd swyddogion at y cyflwyniad cychwynnol o'r gyllideb, a gafodd ei gynnwys yn Atodiad A o'r adroddiad a ddosbarthwyd; roedd yn darparu gwerthusiad llawn o gyllideb Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, pe bai'n dechrau datblygu ac ymgymryd â gwaith mewn perthynas â'r pedair prif ffrwd waith. Nodwyd ei fod yn golygu cyflogi staff a chomisiynu darnau penodol o waith; roedd y gwerthusiad hwn yn nodi cost bosib o £1.5 miliwn, a oedd yn sylweddol fwy na'r gwariant yn y flwyddyn bresennol.

Yn dilyn yr uchod, dywedwyd bod y gost bosib o £1.5 miliwn yn codi pryderon mewn trafodaethau gydag Awdurdodau Lleol cyfansoddol, gan y byddai hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar eu cyllidebau; oherwydd y pryderon hyn, roedd swyddogion wedi ymgymryd â darn o waith a oedd yn llunio opsiynau gwahanol o ran gosod y gyllideb ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ar gyfer 2023/24. Tynnwyd sylw at fanylion yr opsiynau fel a ganlyn:

·        Opsiwn 1 – Cytuno i flaenoriaethu gwaith Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a gosod ardoll yn unol â hynny.

·        Opsiwn 2 – Gwneud yr isafswm yn 2023/24 a lleihau'r gyllideb, gyda gwaith cyfyngedig yn cael ei wneud ym mhob un o'r ffrydiau gwaith; fodd bynnag, mae angen parhau i symud ymlaen â'r gwaith lefel is megis y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh), gan y byddai elfen o'r gyllideb yn cefnogi'r Cynllun wrth symud ymlaen. Soniwyd y byddai cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn hanfodol wrth ddatblygu rhai gweithgareddau. Yn ôl yr adroddiad a ddosbarthwyd, roedd yr opsiwn hwn yn nodi cyllideb o oddeutu £617 mil, a oedd fymryn yn uwch na chyllideb eleni.

·        Opsiwn 3 - Atal holl weithgareddau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Er mwyn gwneud hyn, nodwyd y byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddiwygio'r ddeddfwriaeth; fodd bynnag, roedd yn rhywbeth y gellid ei ystyried ar gyfer y dyfodol (2024/25 ymlaen), gan fod y pwysau cyllidebol yn debygol o barhau wrth symud ymlaen.

 

Hysbyswyd yr Aelodau fod gofyn iddynt bennu cyllideb ddrafft, cyn mynd ati i ystyried eu penderfyniad terfynol a rhoi cymeradwyaeth ffurfiol ym mis Ionawr 2023; unwaith y byddai'r gyllideb ddrafft wedi’i chymeradwyo byddai Swyddogion yn hysbysu Awdurdodau Lleol cyfansoddol o'r gyllideb ddangosol.

Cafwyd trafodaeth o ran y cynigion ar gyfer gweithgareddau mewn perthynas ag Opsiwn 2, y manylwyd arni yn Atodiad C yr adroddiad a ddosbarthwyd. Amlygwyd y canlynol ar gyfer pob un o'r pedair ffrwd waith:

·        Ym mis Mawrth 2022, nodwyd bod Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru wedi cymeradwyo Strategaeth Ynni Rhanbarthol De-orllewin Cymru; Gwasanaethau Ynni Cymru oedd yn mynd i ariannu'r gwaith hwn. Roedd swyddogion yn fodlon, er mai ychydig iawn o ddarpariaeth y gyllideb fyddai'n cael ei chynnig ar gyfer y llif gwaith hwn, y gall y gwaith fynd rhagddo’n unol â'r cyllid gan Wasanaethau Ynni Cymru.

·        Nodwyd bod llawer o'r gwaith o ran y Strategaeth Datblygu Economaidd yn gysylltiedig â'r Strategaeth Ynni; roedd Swyddogion yn hapus i leihau'r gofyniad yn y gyllideb ar y llif gwaith hwn.

·        O ran y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol CTRh), nodwyd bod diffyg eglurder o hyd ynghylch pa gymorth oedd yn mynd i gael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru o ran sicrhau adnoddau i'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol; roedd Swyddogion yn deall bod y ffrwd waith hon yn flaenoriaeth i Arweinwyr. Y cynnig ar gyfer y ffrwd waith hon, o fewn Atodiad C yr adroddiad a ddosbarthwyd, fyddai cyflogi rhywun i ddechrau cydlynu'r gwaith gan fod digon o arian i allu gwneud hynny.   Soniwyd y rhagwelwyd y byddai gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru danwariant yng nghyllideb eleni, y gellid ei roi mewn cronfa wrth gefn a'i ddefnyddio ar gyfer y gwaith hwn pe bai angen i'r Pwyllgor wneud mwy; rhwng nawr a chyfarfod mis Ionawr, byddai Swyddogion yn pwyso ar Lywodraeth Cymru am fwy o sicrwydd ac eglurder ynghylch pa adnodd yr oeddent yn mynd i'w ddarparu ar gyfer gweithgarwch y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. 

·        O ran y Cynllun Datblygu Strategol (CDS), dywedwyd bod ymgynghori o hyd ynghylch yr amserlenni ac ymagwedd y gwaith hwn; awgrymodd Swyddogion y dylid ysgrifennu'n ffurfiol at Lywodraeth Cymru i ofyn am ymestyn amserlenni'r CDS, gan fod nifer o Awdurdodau Lleol yr oedd angen iddynt fwrw ymlaen â'u Cynlluniau Datblygu Lleol.

 

Rhoddwyd eglurder pellach i'r Pwyllgor o ran Opsiwn 3, fel y manylir uchod. Eglurwyd mai Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sy’n darparu ar gyfer sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig; yn ôl y ddeddfwriaeth, roedd yn rhaid i Awdurdodau Lleol gael Cyd-bwyllgorau Corfforedig, ac roedd gofyn iddynt ymgymryd â swyddogaethau penodol. Hysbyswyd yr Aelodau mai'r unig ffordd o allu camu i ffwrdd o'r gofyniad hwn oedd pe bai Llywodraeth Cymru'n dewis newid y ddeddfwriaeth a dileu'r rhwymedigaeth i gael Cyd-bwyllgorau Corfforedig;  roedd yn agored i sylwadau gael eu gwneud i Lywodraeth Cymru ynghylch y mater hwn, er mwyn iddynt ddeall y pryderon oedd gan Awdurdodau Lleol. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod yn rhaid i Awdurdodau Lleol, yn ôl y gyfraith, gymryd rhan mewn Cyd-bwyllgorau Corfforedig a chael rhaglen weithgareddau ddiffiniedig ar hyn o bryd.

Bu'r Pwyllgor yn trafod y costau a'r cynlluniau ynghylch y Strategaeth Ynni yn fanylach. Amlygwyd bod Gwasanaeth Ynni Cymru wedi bod yn cefnogi datblygiad y Cynllun Ynni Rhanbarthol, a'u bod bellach yn cefnogi ac yn darparu adnoddau ar gyfer datblygu'r Cynllun Ynni Lleol; dyma gyllid a fyddai'n galluogi'r llif gwaith hwn i symud ymlaen. Hysbyswyd yr Aelodau fod grŵp craidd o Swyddogion ynni rhanbarthol wedi bod yn cydweithio â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, a phartneriaid, dros nifer o flynyddoedd i lunio'r strategaeth; ers hynny roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnig cefnogaeth ychwanegol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Nodwyd y bydd o leiaf 2-3 Swyddog ar gael i helpu wrth gyflwyno camau gweithredu'r Cynllun Ynni Lleol, ac i gynorthwyo gyda'r gwaith pellach o ddatblygu'r Strategaeth Ynni Rhanbarthol, a fydd yn cynnwys cefnogi cyflwyno prosiectau unigol. Yn ogystal â hynny, dywedwyd bod y rhanbarth wedi cyflwyno cais i Lywodraeth y DU ar gyfer menter safle lansio; os bydd yn llwyddiannus, gallai gynnig £7 miliwn arall o arian grant i alluogi busnesau bach a chanolig i gyflwyno cynlluniau a fydd yn cyfrannu at Gynllun Gweithredu'r Strategaeth Ynni. Daethpwyd i'r casgliad gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru y dylai'r adnoddau ychwanegol fod ar waith o fewn y 3 mis nesaf.

Mynegodd yr Aelodau eu barn a'u pryderon o ran gosod y gyllideb, ac roeddent yn unfrydol o blaid cyllideb Opsiwn 2, a nodwyd yn Atodiad C yr adroddiad a ddosbarthwyd.

PENDERFYNWYD:

Y bydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-Orllewin Cymru:

(a) Yn ystyried yr opsiynau cyllideb fel y nodir yn Atodiad A-C yr adroddiad a ddosbarthwyd.

(b) Yn cytuno ar ac yn cymeradwyo'r opsiwn cyllideb a ffefrir (Opsiwn 2, Atodiad C) ar gyfer 2023/24.

 

 

Dogfennau ategol: