Agenda item

Cyflwyniad ar y Cynllun Datblygu Strategol

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau gyflwyniad am y Cynllun Datblygu Strategol (CDS).   

Nodwyd bod y CDS yn ofyniad statudol a'i fod wedi'i ysgrifennu mewn deddfwriaeth fel y prif allbwn cynllunio ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig bydd ganddo'r un statws i Awdurdodau Lleol a'u penderfyniadau, fel sydd gan y Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) a Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol. Eglurodd swyddogion y bydd angen ystyried pob cais cynllunio, ar gyfer Awdurdodau Lleol Cymru, yn erbyn ei CDLl, Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol a'r CDS ar ôl iddo gael ei gynhyrchu; rhaid i CDLlau yn y dyfodol gyd-fynd â'r fframwaith CDS a bod yn gyson ag ef. Ychwanegwyd mai pwrpas y CDS oedd symud yr agenda gynllunio ymlaen ar sail ranbarthol, a mynd i'r afael â'r materion hynny a oedd yn drawsffiniol ac yn ehangach nag arwyddocâd lleol.

Hysbyswyd yr Aelodau nad oedd unrhyw gynnydd sylweddol wedi bod hyd yma ar y CDS, roedd hyn oherwydd y gyllideb fach a bennwyd ar gyfer blwyddyn bresennol 2022/23; fodd bynnag, roedd cydweithio trawsffiniol ar brosiectau’n cynyddu'n dda, er mwyn cyfeirio CDLlau o fewn y rhanbarth. Nodwyd y bydd y gwaith a oedd yn cael ei wneud ar hyn o bryd yn darparu tystiolaeth ar gyfer y CDS hwnnw; roedd rhai o'r prosiectau gwaith presennol yn cynnwys diffinio'r hyn a ddisgrifiwyd yng Nghymru'r Dyfodol fel 'ardal twf cenedlaethol' ar gyfer De-orllewin Cymru, ac edrych ar amcanestyniadau twf yn y dyfodol.

Yn ogystal â'r uchod, amlygwyd bod Llywodraeth Cymru wedi llunio llawlyfr arweiniad ar CDSau, a oedd ar hyn o bryd yn destun ymgynghoriad ar gyfer sylwadau anffurfiol; byddai swyddogion yn rhoi adborth ar y llawlyfr fel rhanbarth. Soniwyd y bydd ymgynghoriad llawn ar y llawlyfr yn haf 2023.

Nodwyd bod angen cytuno ar y pwyntiau canlynol o hyd o ran yr CDS:

·        Sut i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y mater hwn wrth symud ymlaen

·        Amserlenni'r gwaith, gan ystyried ffactorau megis adnoddau

·        Cyllideb y gwaith

·        Adnoddau staff a rheoli’r holl broses

Cafwyd trafodaeth am y materion a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r CDS:

·        Dim cyllideb wedi'i nodi ar gyfer darparu'r CDS - o ganlyniad ni fydd unrhyw waith i symud ymlaen ag ef

·        Dim adnoddau presennol o fewn Awdurdodau Cynllunio - roedd sgyrsiau wedi'u cynnal, ac nid oedd adnoddau sbâr i ddargyfeirio o ffrydiau gwaith presennol er mwyn darparu'r CDS

·        Materion recriwtio staff – ar hyn o bryd roedd problemau o ran recriwtio a dod o hyd i gynllunwyr profiadol i Awdurdodau Lleol, bydd sefyllfa debyg wrth geisio recriwtio ar gyfer y CDS

·        Y risg na fyddai’r cyngor yn g orffen y CDLl mewn pryd - roedd pob Awdurdod Lleol yn gweithio ar ddarparu ei CDLl newydd, a allai wrthdaro â gwaith y CDS

 

Tynnodd Swyddogion sylw at dri phrif bwynt i'w hystyried sef ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, amserlen ar gyfer CDS De-orllewin Cymru a goblygiadau'r gyllideb, fel y manylir o fewn y cyflwyniad a ddosbarthwyd.

Nodwyd y bydd angen deialog parhaus gyda Llywodraeth Cymru dros y 12 mis nesaf ynghylch amserlen y dyfodol, a'r potensial ar gyfer darparu cyllid yn y dyfodol i helpu i ddarparu'r CDS; roedd llawer o waith yr oedd angen ei wneud o hyd, ac roedd angen cael eglurder, a bydd unrhyw benderfyniad a wneir o ran y gyllideb yn cael effaith ar sefyllfa'r CDS.

Codwyd pryderon am adnoddau a'r gallu i symud ymlaen â'r gwaith hwn. Mynegodd Swyddogion y byddai'n bwysig parhau i gyfathrebu â Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r mater hwn; roedd gan y rhanbarth berthynas waith dda â’r Swyddogion Llywodraeth Cymru perthnasol, ac roedden nhw'n deall y sefyllfa yr oedd Awdurdodau Lleol ynddi. Yn ogystal, byddai'n hanfodol parhau i weithio'n drawsffiniol ac ar y cyd ar y prosiectau a grybwyllir yn y cyflwyniad.

 

 

Dogfennau ategol: